Mae ffisiotherapydd a weithiodd yn y gymuned yn Wrecsam a Sir y Fflint am dros 20 mlynedd wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig ar ôl cael ei rhoi ar Restr Anrhydeddu Pen-blwydd y Frenhines.
Roedd Christine Hughes, o Ddinbych yn Arweinydd Tîm ar gyfer y tîm anableddau dysgu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru am sawl blwyddyn lle bu iddi adeiladu ac arwain ei thîm gydag angerdd ac ymrwymiad i wella mynediad at ffisiotherapi i gleifion sy’n oedolion ag anableddau dysgu.
Cymhwysodd Christine fel ffisiotherapydd yn 1975 ac mae wedi bod yn darparu gwasanaeth i oedolion ag anableddau dysgu ers dechrau ei gyrfa.
Bu iddi reoli’r gwasanaeth gofal osgo 24 awr a defnyddiodd ei harbenigedd a’i phrofiad i helpu staff a gofalwyr ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu eu sgiliau a’u galluoedd. Cymraeg yw ei hiaith gyntaf ac mae’n modelu’r arfer orau mewn darpariaeth ddwyieithog ar draws y rhanbarth.
Mae Christine, sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, yn dal i drin cleifion yn rhan amser yn y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd Nesta McCluskey Pennaeth Ffisiotherapi ar gyfer Ardal y Dwyrain, “Rydym mor falch o Christine, mae hi wir yn haeddu’r anrhydedd hwn.
“Mae Christine wedi cysegru ei bywyd i wella bywydau oedolion sydd ag anableddau dysgu cymhleth ac anawsterau corfforol. Mae wedi gweithio gyda chleifion ond mae hefyd yn hyfforddi gofalwyr, yn gweithio gyda chydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac wedi darparu gofal cleifion o ansawdd uchel iawn bob amser.
“Mae Christine wedi gweithio am sawl blwyddyn i sicrhau bod gan oedolion sydd ag anabledd dysgu fynediad at ffisiotherapi fel bod gan y grŵp cleifion bychain hwn sydd ag anghenion cymhleth fynediad at wasanaeth sy’n helpu i wella eu bywydau.”
Dywedodd Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Yng nghalon ein GIG a gofal cymdeithasol y mae pobl ymroddedig sy’n gweithio y tu mewn iddo. Rwy’n falch iawn bod deg o weithwyr GIG Cymru a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cael eu cydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am eu dawn a’u hymrwymiad i bobl Cymru.”