19.05.2022
Bydd Canolfan Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles newydd yng Nghaergybi yn gwella mynediad at wasanaethau i'r gymuned ac yn cefnogi adfywio ehangach y dref.
Mae'r Bwrdd Iechyd, Cyngor Ynys Môn, practisiau meddygon teulu Caergybi a Chyngor Tref Caergybi yn cydweithio i ddatblygu cynlluniau am y ganolfan newydd i'r dref.
Gallai'r cyfleuster arfaethedig ddod â gwasanaethau meddygon teulu, gofal yn y gymuned, gofal cymdeithasol, gwasanaethau gwirfoddol a gwasanaethau atal a lles ynghyd mewn un adeilad yng nghanol y dref.
Dywedodd Wyn Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Ofal Sylfaenol yn Ardal y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae bwrdd y prosiect wedi cael ei sefydlu gyda'n partneriaid a'n cleifion i ddatblygu'r ganolfan newydd hon ar gyfer cymuned Caergybi.
"Nid oes lleoliad wedi'i gadarnhau eto oherwydd rydym wrthi ar hyn o bryd yn nodi'r gwasanaethau a fyddai wedi'u lleoli yno er mwyn deall beth fyddai maint y safle gofynnol.
"Rydym yn awyddus i gasglu safbwyntiau pobl ynghylch y datblygiad newydd cyffrous hwn yn ardal Caergybi, ac yn ystod y misoedd nesaf, cyhoeddir rhagor o fanylion ynghylch sut gall pobl gyfranogi."
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Ynys Môn, Fôn Roberts: “Rydym yn falch o gael cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch y datblygiad cyffrous a llawn gweledigaeth hwn ar gyfer Caergybi.”
“Mae cydweithio agos â chydweithwyr o'r sectorau Iechyd yn darparu rhagor o fuddion i gleientiaid.”
"Bydd yn arwain at wella canlyniadau a gyflawnir trwy gyfrwng gweithwyr proffesiynol yn darparu gwasanaeth a fydd yn symlach, yn fwy effeithlon, ac yn y pen draw, yn fwy effeithiol."
Fel rhan o'r prosiect hwn, mae'r Bwrdd yn ystyried cau ein safle ym Meddygfa Longford House a chyfuno ein holl wasanaethau meddygon teulu o safle Meddygfa Cambria i ddarparu gwasanaeth gofal sylfaenol gwell a mwy effeithlon i gleifion a staff cyn i'r Ganolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig gael ei hadeilad.
Y cynnig fyddai gosod uned fodiwlaidd ym maes parcio Meddygfa Cambria a fydd yn cynnwys chwe ystafell ymgynghori a swyddfeydd i gynnwys holl staff ac adnoddau presennol Meddygfa Longford House.
"Bellach, o safbwynt darparu gwasanaethau gofal sylfaenol yn Hwb Iechyd Cymru, mae angen lefel o wasanaeth mwy cynaliadwy a gwell er mwyn ateb gofynion cleifion a chyflawni eu disgwyliadau.
"Nid yw'r trefniadau presennol rhwng Meddygfeydd Cambria a Longford house yn effeithlon ac nid yw ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn cyflawni ein disgwyliadau ni na disgwyliadau cleifion.
"Bydd gweithredu ar un safle yn sicrhau y caiff ein cleifion wasanaeth o ansawdd uwch ynghyd ag ystafelloedd ymgynghori llawer gwell.
“Yn sgil cyfuno'r holl adnoddau clinigol mewn un adeilad, bydd hyn yn gwella amrywiaeth clinigau ac yn cynyddu'r capasiti i weld a thrin cleifion. Bydd hyn yn cynnig 'siop un stop' i'n cleifion a bydd yn un man cyswllt ar gyfer yr holl ofynion," ychwanegodd Mr Thomas.
Anogir cymuned Caergybi i rannu eu safbwyntiau a'u barn ynghylch y cynlluniau am Ganolfan Iechyd a Lles Integredig a gallant wneud hynny trwy gyfranogi mewn arolwg ar-lein sydd ar gael yma