31/01/2023
Cafodd myfyrwyr Blwyddyn 10 lleol o Wrecsam a Sir y Fflint flas ar yr hyn sydd ei angen i fod yn feddyg yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Rhoddodd Adran Addysg Feddygol yr ysbyty ddiwrnod y tu ôl i’r llenni i fyfyrwyr lleol mewn Digwyddiad Meddygon y Dyfodol sy’n rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc sy’n ystyried dilyn gyrfa mewn meddygaeth i’w helpu i gyflawni eu hamcanion.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithdai sgiliau clinigol a oedd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer eu sgiliau clinigol ar fanicin tebygrwydd byw.
Dywedodd Andrea Clutton, Rheolwr Addysg Feddygol a Deintyddol: “Rydym yn cyflwyno’r rhaglen hon i gefnogi ac annog ein myfyrwyr lleol sy’n ystyried gyrfa mewn meddygaeth ond sy’n ansicr beth sydd ei angen i ddilyn y llwybr gyrfa hwn.
“Mae’n wych gweld cymaint o frwdfrydedd am ein rhaglen gan wahanol ysgolion ar draws yr ardal leol. Edrychwn ymlaen at weld llawer o'r myfyrwyr hyn yn ôl gyda ni fel ein darpar feddygon. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Lesley Lloyd, Cynghorydd Ymgysylltu Busnes Gyrfa Cymru, Gemma Lewis, Cydlynydd Arweiniol Addysg Feddygol a Deintyddol, a Phrifysgolion Caerdydd a Bangor a’n cyfadran addysg feddygol am eu gwaith caled i sicrhau bod y diwrnod hwn yn llwyddiant.”
Arweiniwyd y cyflwyniadau gan Dr Claire Halligan, Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus ac Anesthetydd Ymgynghorol, i'r myfyrwyr a siaradodd am ei phrofiad ei hun, a rhoddodd olwg fanwl ar yr hyn sydd ei angen i ddilyn llwybr gyrfa meddyg. Yna siaradodd Dr Lizzie Hodges, Meddyg Sylfaen Blwyddyn 2, am ei phrofiadau fel meddyg sylfaen a sut beth yw diwrnod gwaith arferol.
Fe wnaeth myfyrwyr Prifysgol Feddygol sydd ar leoliad yn Ysbyty Maelor Wrecsam hefyd gymryd rhan yn y digwyddiad. Siaradodd Evie Wateridge, myfyriwr Blwyddyn 4, Jack Wellington a Lara Green, myfyrwyr blwyddyn olaf, am eu profiadau fel myfyrwyr meddygol a sut beth yw bywyd myfyriwr.
Bu cynrychiolwyr o Brifysgolion Bangor a Chaerdydd hefyd yn sôn am y broses o fynd i ysgol feddygol a’r gofynion angenrheidiol.
Daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn cwestiwn ac ateb yn ogystal â gwybodaeth am gyfleoedd pellach sydd ar gael ar ôl cwblhau eu hastudiaethau TGAU, megis Rhaglen Feddygol Wrecsam mewn partneriaeth â Rhaglen Seren.
Eglurodd Dr Denise McKeegan, Cymrawd Clinigol Addysg Feddygol sut mae’r rhaglen feddygol, sy’n cael ei rhedeg gan Dr James Kilbane, Meddyg Ymgynghorol Meddygaeth Anadlol ac Acíwt yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn gwahodd y myfyrwyr disgleiriaf a mwyaf galluog yn academaidd ym Mlynyddoedd 12 a 13 ar draws Wrecsam a Sir y Fflint i ymuno â’r rhaglen.
Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael mewnwelediadau gwerthfawr i fyd meddygaeth ac yn benodol darparu sylfaen gadarn iddynt wrth iddynt gychwyn ar eu taith eu hunain tuag at gymhwyso fel meddygon yfory. Mae'r rhaglen yn cynyddu
gwybodaeth myfyrwyr am feddygaeth yn ogystal â'u paratoi ar gyfer y broses ymgeisio i'r brifysgol gan gynnwys UKCAT a chyfweliadau ysgolion meddygol.
Bwriad y rhaglen yw herio'r myfyrwyr i feddwl am feddygaeth, datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth yn ogystal â magu eu hyder wrth gyflwyno a thrafod. Yr holl sgiliau a rhinweddau hanfodol sy'n angenrheidiol ar gyfer proses ymgeisio a chyfweld ar gyfer ysgolion meddygol.
Os oes gennych ddiddordeb ac yr hoffech gael gwybod mwy am y mathau hyn o ddigwyddiadau neu Raglen Feddygol Wrecsam mewn partneriaeth â Rhaglen Seren, cysylltwch â Gemma Lewis, Cydlynydd Arweiniol Addysg Feddygol drwy e-bostio gemma.lewis5@wales.nhs.uk.
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk).