Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau ar gyfer Uned Hyfforddiant Deintyddol cyntaf Gogledd Cymru

Bydd Uned Hyfforddiant Deintyddol yng Ngogledd Cymru yn cael ei sefydlu fel rhan o gynlluniau amrywiol i wella mynediad at wasanaethau deintyddol yn y rhanbarth.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn datblygu cynlluniau i gyflwyno uned hyfforddiant ym Mangor wrth i gamau mwy brys gael eu cymryd i wella darpariaeth ddeintyddol ar draws rhannau o Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â Gwella Addysg Iechyd Cymru (HEIW), Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru ar ei gynlluniau, a fyddai'n hybu'r nifer o weithwyr proffesiynol gofal deintyddol yn ogystal â'u sgiliau ar draws y rhanbarth.

Bydd yr Uned Hyfforddiant Deintyddol (DTU) yn darparu hyfforddiant ar gyfer deintyddion o'r flwyddyn sylfaen, trwy'r hyfforddiant craidd ac ymlaen i'w harbenigedd, wrth ddarparu cyfleoedd i ddeintyddion Gogledd Cymru wella eu sgiliau heb orfod gadael yr ardal.

Bydd cysylltiadau hyfforddi'n cael eu sefydlu gyda chyflenwyr annibynnol a allai weithio o'r cyfleuster fel rhan o fodel gwasanaeth newydd pwrpasol a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â'r diffyg mynediad at wasanaethau deintyddol yn yr ardal. 

Er nad oes lleoliad ar gyfer y cyfleuster arfaethedig wedi ei ddynodi eto, disgwylir y bydd yn cynnwys darlithfa ac ystafelloedd seminar, cyfleusterau addysgu corfforol a gofod clinigol. 

Mae'r cynlluniau'n cael eu datblygu mewn ymateb i anawsterau’n recriwtio a chadw deintyddion yng Ngogledd Cymru - sydd wedi arwain at gau nifer o feddygfeydd deintyddol ar draws Ynys MônGwynedd a Chonwy yn y blynyddoedd diweddar.

Yn ogystal â gweithio ar gynlluniau hirdymor am Uned Hyfforddiant Deintyddol, mae BIPBC yn cymryd camau brys i gael mynediad at wasanaethau deintyddol ar draws y rhanbarth.

Mae hyn yn cynnwys cynyddu argaeledd mynediad at ofal deintyddol brys a blaenoriaeth i gleifion sy'n eu cael eu hunain heb ddeintydd rheolaidd, a dynodi meddygfeydd deintyddol lleol sydd â'r gallu i gynyddu darpariaeth gwasanaethau deintyddol arferol dros dro.

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gweithio ar ail-gomisiynu gwasanaethau deintyddol amnewidiol mor gynnar â phosib.

Dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Chymunedol BIPBC:

"Mae diffyg deintyddion ar draws y DU, a bydd darparu'r addysg a'r cyfleoedd hyfforddi gorau posib yn sicr yn gymorth wrth i ni recriwtio a chadw deintyddion yma yng Ngogledd Cymru. 

"Bydd ein cynlluniau ar gyfer Uned Hyfforddiant Deintyddol yn darparu cyfleoedd i ddeintyddion sefydledig a'r rhai sydd newydd gymhwyso i hyfforddi, gweithio a byw mewn rhan hyfryd o'r byd.

"Fel rhan o'n cynlluniau ar gyfer DTU a gwaith parhaus i ail-gomisiynu gwasanaethau deintyddol amnewidiol, byddwn yn chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o weithio a fydd yn gwneud mynediad at ddeintyddiaeth yn haws ac yn lleihau amseroedd aros, wrth hyrwyddo hunanofal a hylendid y geg da.

"Rydym yn gweithio ar symud y cynlluniau yn eu blaen cyn gynted â phosib.  Fodd bynnag, oherwydd yr amserlenni sydd eu hangen i wneud y gwaith, bydd cyfnod byr ble bydd mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG yng Ngogledd Orllewin Cymru yn gyfyngedig yn anffodus.

"Gall cleifion sy'n dymuno dod o hyd i feddygfa GIG amgen ddod o hyd i restr o feddygfeydd deintyddol a'u manylion cyswllt ar GIG Cymru 111 a gwefan y Bwrdd Iechyd.

“Dylai cleifion sy’n canfod eu hunain mewn angen brys am ddeintydd ac sydd wedi methu â dod o hyd i ddeintyddfa a all ddarparu ar eu cyfer gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647 ble byddant yn cael eu brysbennu ac, os yw’n briodol, yn cael eu cyfeirio at sesiwn mynediad brys.”

Am restr gyfan o feddygfeydd deintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru, ewch i:

GIG 111 Cymru: https://111.wales.nhs.uk/LocalServices/Default.aspx?s=Dentist&locale=cy neu

BIPBC: https://bipbc.gig.cymru/gwasanaethau/eich-gwasanaethau-lleol1/eich-gwasanaethau-lleol/