Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun peilot ffonio'r teulu yn helpu perthnasau ac yn arbed amser gwerthfawr i staff gofal yr henoed

22.12.21

Mae syniad syml a ddatblygwyd gan brif nyrs yn sicrhau bod modd i deuluoedd fod ar ben y ffordd am ofal eu perthnasau ac yn arbed amser clinigol gwerthfawr i staff.

Mae staff ar ward gofal yr henoed yn Ysbyty Glan Clwyd (Ward 2) wedi bod yn cynnal y treial, lle byddant yn gwneud galwadau ffôn rhagweithiol bob bydd gydag aelod o'r teulu a enwebir gan y claf.

Cafodd Annette Mason, Prif Nyrs y Ward, y syniad ar ôl i'r ward ar gyfer pobl dros 75 oed symud o Ward 19, a oedd yn fwy agored, i un lle nad oeddent bob amser yn gallu clywed y galwadau'n dod i mewn.

Dywedodd ei bod yn anodd clywed y ffonau o bob rhan o'r ward, gan fod hyd at 100 o alwadau'n dod i mewn bob dydd,  a oedd yn arwain at rwystredigaeth i deuluoedd.

Hefyd, gallai nifer o berthnasau cleifion fod yn ceisio cael diweddariadau ar eu cyflwr ar adegau gwahanol o'r dydd, a oedd yn golygu bod angen i staff orfod "gwisgo a thynnu" eu gwisg amddiffynnol yn gyson gan dorri ar draws eu gwaith clinigol.

Dywedodd Annette: "Gwnaethom ni ddechrau treial lle byddwn ni'n ffonio un perthynas a enwebir ar gyfer pob claf ar ôl 2pm bob dydd. Yna, rydym ni'n gofyn iddynt rannu negeseuon am gyflwr eu hanwyliaid i aelodau eraill o'r teulu a ffrindiau.

"Byddai hyn yn cynnwys rhywun a enwebir gan y claf, neu'r teulu pe na bai hyn yn berthnasol.

"Gwnaethom ni gofnodi'r sgyrsiau'n fyr ar ffurflen ac roedd yn gweithio'n dda. Gwnaethom ni ddatblygu rhai telerau ymarfer safonol, fel bod y galwadau'n gyson a gwnaethom ni annog myfyrwyr i wneud rhai o'r galwadau, fel y gallent gael profiad o ddelio â pherthnasau."

Gall myfyrwyr ateb ymholiadau sy'n briodol i radd eu swydd yn unig ond gellir cofnodi unrhyw broblemau ar y ffurflen.

"Mae'r staff wedi cymryd ato ac roedd yn fuddiol i'r myfyrwyr nyrsio hefyd," meddai Annette. "Rydym ni hefyd yn annog staff meddygol a meddygon i wneud y galwadau hynny pan fydd materion clinigol mwy difrifol i'w trafod."

Ychwanegodd: "Mae'n anodd i deuluoedd ac wrth reswm, maen nhw am gael gwybod am eu hanwyliaid. Mae rhai'n hapus gyda galwad ffôn sydyn o ddau funud ac mae ar eraill angen mwy o fanylion, felly gall gymryd hyd at 15 munud ar achlysuron - ond mae wedi dod yn fater o drefn i ni erbyn hyn.

"Gall y teulu ateb cwestiynau am eu perthynas, fel i ba raddau maen nhw'n gallu symud a beth yw lefel eu galluedd fel arfer, sy'n ein helpu i ddyfeisio cynlluniau gofal.

"Maen nhw wedi bod wrth eu boddau gyda'r system ac rydym ni wedi cael adborth positif iawn. Mae hefyd yn caniatáu i ni rannu negeseuon gyda theuluoedd gan eu perthynas.

"Mae'n golygu mwy o waith ond mae'n bwysig - mae'n ymwneud â chael amser i'w wneud yn ystod y dydd, ond mae'n arbed amser gwerthfawr i ni mewn gwirionedd ac mae wedi newid y gydberthynas rhyngddom ni a'n cleifion."

Dywedodd Charlotte Hall, Cyfarwyddwr Nyrsio Dros Dro yn Ysbyty Glan Clwyd: "Roeddem ni'n delio â chyfnod anghyffredin iawn pan ddaeth y rhan fwyaf o ymweliadau i ben, felly mae meddwl am sut rydym ni'n rhyngweithio â theuluoedd o'r pwys mwyaf iddyn nhw ac i ni.

"Mae Annette a'i thîm wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i'w cleifion a'u teuluoedd, sydd hefyd wedi talu ar ei ganfed o ran gwybodaeth well a chael mwy o amser i wneud eu gwaith clinigol.

"Rydym ni'n ystyried p'un a allai hyn gael ei gyflwyno ar draws yr holl adrannau a hoffwn i longyfarch Annette a'i thîm ar Ward 2."