Mae system newydd i gyflymu diagnosis i bobl sydd ag amheuaeth o ganser wedi'i chyflwyno yng Ngogledd Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi arweiniad i Feddygon Teulu i'w helpu i bennu p'un a all cleifion sydd â symptomau o ganser colorectol gael eu cyfeirio'n uniongyrchol am archwiliad, gan osgoi apwyntiad cleifion allanol ac arbed amser.
Mae mwy na 500 o bobl yng Ngogledd Cymru, yn cael diagnosis o ganser colorectal, megis canser y coluddyn, colon a chanser y rectwm bob blwyddyn.
Y gobaith yw y bydd anfon cleifion yn syth am brawf yn golygu eu bod yn cael diagnosis yn gynt a gallent ddechrau eu triniaeth cyn gynted â phosibl.
Dywedodd Dr Claire Fuller, Oncolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Grŵp Cynghori Colorectol Clinigol y Bwrdd Iechyd,: "Mae amser yn holl bwysig wrth roi diagnosis canser; cynta’ byd y gall claf gael diagnosis, cynta’ byd gallant ddechrau triniaeth a gall hyn o bosibl wella eu prognosis cyffredinol.
"Yn hanesyddol, mae cleifion sydd ag amheuaeth o ganser colorectol wedi cael eu cyfeirio gan eu Meddyg Teulu am apwyntiad gyda meddyg ymgynghorol, ble byddant yn cael archwiliad corfforol cyn cael eu hanfon am brawf, megis colonosgopi.
"Mae'r arweiniad 'Yn syth at y Prawf' yn rhoi gwybodaeth a'r mecanwaith i Feddygon Teulu anfon cleifion yn uniongyrchol am archwiliad, gan ddileu'r apwyntiad gyda meddyg ymgynghorol ac arbed amser gwerthfawr.
"Mae hyn wedi bod yn digwydd ar draws y Bwrdd Iechyd am beth amser, ond dyma'r tro cyntaf rydym wedi safoni'r arweiniad a'i wneud yn ddull a ddefnyddiwn fel mater o drefn."
Ysgrifennwyd yr arweiniad gyda mewnbwn gan feddygon ymgynghorol, gastroenterolegwyr a’r Meddygon Teulu eu hunain.
Dywedodd Jenny Liddell, Meddyg Teulu ym Meddygfa Teulu Corwen: "Un o'r heriau mwyaf rydym yn ei hwynebu fel Meddyg Teulu yw cyfeirio ein cleifion at system gymhleth yr ysbyty, oherwydd nad yw bob amser yn glir beth yw'r broses.
"Mae'r arweiniad newydd yn ein helpu ni i benderfynu'n rhwydd pa gleifion sy'n gymwys a sut i gael ein cyfeiriad drwy'r system mor rhwydd â phosibl."
Cafodd Bruce Weston, sy'n 75 oed o Gilcain, Sir y Fflint ddiagnosis o ganser y coluddyn ym mis Ebrill 2017.
Ar ôl cyfeiriad cychwynnol gan ei Feddyg Teulu, arhosodd chwe wythnos am apwyntiad ysbyty, ac yn y diwedd fe drefnodd i gael ei brawf diagnostig yn breifat.
Mae'r arolygwr ysgol sydd wedi ymddeol yn dweud y bydd yr arweiniad newydd yn gwella profiad y cleifion.
Dywedodd Bruce:"Roedd aros am brawf yn straen a phryder mawr, yn enwedig wrth i chi ddarllen am bwysigrwydd diagnosis cynnar ar y newyddion."
"Unwaith roeddwn ar y llwybr, bu i fy mhrofion a thriniaeth ddilynol fynd rhagddynt yn ddidrafferth, ond pe na fyddwn wedi defnyddio fy nghymhelliant, pwy a ŵr pa mor hir y byddwn wedi aros am ddiagnosis.
"Mae rhoi'r gallu i Feddygon Teulu gyfeirio cleifion yn uniongyrchol yn tynnu cam diangen ac yn cyflymu'r broses, a dyna'r cwbl rydych ei angen fel claf ar y daith canser."
Mae'r arweiniad safonedig 'Yn syth at brawf' wedi'i gyflwyno fel rhan o raglen uchelgeisiol newydd rhwng y Bwrdd Iechyd a Chymorth Canser Macmillan i ail gynllunio'r ffordd mae gwasanaethau canser yn cael eu darparu yng Ngogledd Cymru.
Er bod y rhan fwyaf o bobl sy'n cael diagnosis canser yng Ngogledd Cymru yn cael profiad gofal cadarnhaol, mae Arolwg o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru a gynhaliwyd yn ddiweddar yn dweud wrthym fod angen gwella rhai meysydd.
Mae'r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser gyda'n Gilydd wedi'i sefydlu i ddynodi a gweithredu'r gwelliannau hyn ac mae'n edrych yn benodol ar ganser y fron, yr ysgyfaint, ynghyd â chanserau wrolegol a cholorectol.
Dywedodd Yvonne Lush, Rheolwr Rhaglen Macmillan: "Mae'r rhaglen hon yn ymwneud â deall beth sy'n gweithio orau a newid beth rydym yn ei wneud i ddarparu'r gofal a chefnogaeth gorau posibl i gleifion o'r eiliad maent yn dod i mewn i'n gwasanaeth.
"Mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym y systemau cywir mewn lle i ddarparu diagnosis cynnar a thriniaeth brydlon, a hefyd gwella'r gefnogaeth i gleifion a'u teuluoedd drwy'r hyn sydd yn amser trawmatig.
"Gyda nifer y bobl sy'n byw â chanser yng Nghymru yn debygol o godi o 130,000 i 250,000 erbyn 2030, ni fu gwell amser i drawsnewid y ffordd mae gofal a chefnogaeth canser yn cael ei ddarparu."
Am fwy o wybodaeth am Drawsnewid Gwasanaethau Canser Gyda'n Gilydd, cliciwch yma