Mae gweithredwr switsfwrdd a feddyliodd yn gyflym a helpu galwr i gael mynediad at ofal a chymorth pan oedd ei angen arno fwyaf wedi cael canmoliaeth ar ffurf gwobr arbennig y Bwrdd Iechyd.
Mae Cheryl Jones, sy'n gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd, wedi ennill gwobr Seren Betsi ar ôl cynnig caredigrwydd a thosturi i alwr a oedd yn cael argyfwng iechyd meddwl.
Cadwodd Cheryl, sydd wedi gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd am fwy na 25 mlynedd, y galwr ar y ffôn am bron i 20 munud tra roedd cyngor a chymorth arbenigol yn cael ei sicrhau i'w helpu.
Ar ôl cael mynediad at y gwasanaethau iechyd meddwl, cysylltodd y galwr â thîm y switsfwrdd eto i ddiolch i Cheryl am ei charedigrwydd gan annog ei rheolwr llinell, Karl Roberts, i roi ei henw ymlaen ar gyfer y wobr.
Caiff Gwobr Seren Betsi ei chyflwyno'n fisol i wirfoddolwr, aelod o staff neu aelod o dîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i gydnabod eu hymdrechion i fynd y filltir ychwanegol.
Dywedodd Karl: "Hoffwn bwysleisio'r swydd bwysig mae Cheryl yn ei gwneud. Mae Cheryl yn aelod poblogaidd iawn o'r tîm - mae'n siaradus ac yn barod i helpu unrhyw un, ac roeddwn i eisiau hybu'r gwaith da mae hi a'i chydweithwyr yn ei wneud."
“Rydyn ni'n cael galwadau gan bobl sydd mewn lle anodd ac angen help, ac mae'r tîm yn gwneud gwaith gwych wrth geisio cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw.
"Maent yn gyfrifol am lawer o bethau - cymryd galwadau am negeseuon blîp a gofalu am deuluoedd sydd eisiau gwybod am gyflwr aelodau o'u teulu. Mae llawer o bwysau arnynt ac nid yw pobl yn deall hynny fwy na thebyg.
"Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig pwysleisio'r gwaith gwych mae Cheryl a'i chydweithwyr yn ei wneud."
Ar gyfartaledd, mae switsfwrdd Glan Clwyd yn cael tua 5,000 o alwadau bob dydd.
Mae Cheryl, sydd wedi gweithio ar y switsfwrdd am y ddwy flynedd ddiwethaf, yn dweud bod galwadau gan gleifion neu aelodau o'r teulu sydd wedi cynhyrfu neu'n pryderu am rywbeth yn rhan reolaidd o'i gwaith.
Dywedodd Cheryl: "Yn aml, rydym yn cael galwadau gan bobl sy'n gofyn am gymorth. Mae'r tîm yn gweithio'n ofnadwy o galed i wneud yr hyn a allwn i helpu pawb sy'n ffonio, ac mae'r wobr hon yn adlewyrchu ein holl waith i wneud yr hyn a allwn i gefnogi ein cydweithwyr ar draws safle Glan Clwyd."
Dywedodd Mark Wilkinson, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad: "Rwyf wrth fy modd yn cael cyflwyno'r wobr i Cheryl - mae hi wedi mynd y filltir ychwanegol i helpu rhywun a ffoniodd yr ysbyty pan oedd gwir angen cymorth arno.
"Mae hi wedi gwneud cyfraniad gwych i ofal y claf penodol hwnnw, ac mae hi wir yn haeddu Gwobr Seren Betsi."
Mae'r llinell gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar gael 24/7 i roi cefnogaeth emosiynol ac i gyfeirio at wasanaethau lleol. Ffoniwch 0800 132 737, neu tecstiwch ‘Help’ i 81066, neu ewch i www.callhelpline.org.uk