Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod ymwelydd iechyd o Wrecsam am gefnogaeth 'ysbrydoledig' i Ffoaduriaid o Syria.

Mae ymwelydd iechyd o Wrecsam sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswydd i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid o Syria wedi ennill prif wobr.

Cafodd Jackie Williams ei henwi fel enillydd gwobr Symud Cydraddoldeb yn ei Flaen mewn digwyddiad gala grand yn Venue Cymru i ddathlu Gwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r gwobrau a noddir gan Centerprise International, yn dathlu llwyddiannau rhagorol staff y GIG o draws Gogledd Cymru.

Mae Jackie wedi cael ei chydnabod am yr hyn a ddisgrifia ei chydweithwyr fel ymrwymiad 'ysbrydoledig' i ddarparu cefnogaeth iechyd a lles i geiswyr lloches a ffoaduriaid o Syria a gwledydd eraill a effeithiwyd gan ryfel.

Mae Gwobr Symud Cydraddoldeb yn ei Flaen BIPBC, a noddwyd gan Axia ASD yn dathlu tîm neu unigolyn sydd wedi dangos ymrwymiad cryf i symud cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol yn ei flaen yn y gwaith.

Ers 2001 mae Jackie wedi cefnogi i adleoli cannoedd o geiswyr lloches, menywod wedi'u masnachu a ffoaduriaid yn ardal Wrecsam.

Mae Wrecsam yn un o bedair ardal gwasgaru yng Nghymru a'r unig ardal yng Ngogledd Cymru sy'n derbyn ceiswyr lloches o'r Uned Asesu Cychwynnol yng Nghaerdydd.

Wrth iddynt gyrraedd Wrecsam, mae Jackie'n cydlynu eu hasesiadau iechyd a lles ac yn darparu cefnogaeth barhaus i sicrhau bod ceiswyr lloches yn gallu cael mynediad at ystod o wasanaethau iechyd.

Mae hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio sy'n dod ag ystod o wasanaethau cefnogi ynghyd o dan un to.

Dywedodd Karen Owen, Swyddog Ymgysylltu BIPBC ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru a enwebodd Jackie am y wobr:

"Mae Jackie wedi bod yn ysbrydoliaeth i'w chydweithwyr ac mae ei hymroddiad dros y blynyddoedd i ddarparu cefnogaeth i geiswyr lloches a ffoaduriaid o Syria heb ei ail.

"Mae'n mynd allan o'i ffordd i gefnogi unigolion, ac yn enghraifft wych o sut i 'Symud Cydraddoldeb yn ei Flaen'.

"Mae effaith ei gwaith o amgylch gofal cleifion wedi bod yn rhyfeddol - mae'n cefnogi cymaint o unigolion ac yn mynd y tu hwnt i'w dyletswydd i ddarparu gofal a chefnogaeth. Fel arfer mae ciw o unigolion yn aros i'w gweld hi yn y sesiynau galw heibio a hi yw’r ateb i’w holl weddiau.

"Rwyf wedi gweld cymaint o unigolion yn diolch iddi'n bersonol am eu cefnogi gyda sefyllfaoedd anodd iawn."

Dywedodd Jackie: "Roedd yn sioc ac yn fraint i mi ennill y wobr hon, ond i mi, daw'r boddhad mwyaf o helpu pobl eraill a gwybod fy mod wedi gwneud gwahaniaeth."

Dywedodd Sue Power, Ysgrifennydd Cwmni ac Arweinydd Addysgol ar gyfer noddwyr y wobr, Axia ASD:

"Mae ymdrech Jackie i gefnogi iechyd a lles rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau yn anhygoel ac yn ysbrydoledig. Roeddem yn falch iawn i gefnogi'r wobr hon ac mae'n enillydd haeddiannol iawn."