Mae tîm o feddygon a nyrsys arbenigol wedi cael eu cydnabod gyda gwobr arbennig am eu hymroddiad i roi organau a thrawsblaniad ar draws Gogledd Cymru.
Cafodd y tîm Rhoi Organau sy’n gweithio ar draws Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor, Wrecsam, wobr Rosie Neath am Gyfraniad Rhagorol i Roi Organau a Thrawsblaniad gan Wasanaeth Gwaed a Thrawsblaniad y GIG.
Yn y 12 mis diwethaf mae nifer y rhoddwyr ar draws Gogledd Cymru wedi cynyddu a’r flwyddyn diwethaf gwelwyd 20 o roddwyr a arweiniodd at 46 trawsblaniad.
Dywedodd Phil: "Mae nifer y rhoddwyr yng Ngogledd Cymru wedi cynyddu pob blwyddyn, fodd bynnag y flwyddyn ddiwethaf oedd ein blwyddyn brysuraf hyd yma.
"Ni fyddai dim o hyn wedi digwydd heb ymdrech tîm rhagorol ein Hadrannau Achosion Brys, Unedau Gofal Dwys a Theatrau ar draws ein tri ysbyty.
"Mae rhoi organau wedi'i ymgorffori'n gadarn yn ysbryd ein hunedau".
"Yn ychwanegol, mae Cymru gyfan wedi arwain y ffordd wrth weithredu Cydsyniad Tybiedig gyda Gogledd Cymru yn allweddol yn ei gyflwyno, gan chwarae rhan arwyddocaol yn y rhaglen ymchwil ac ymgorffori'r ddeddfwriaeth i arfer arferol."
Mae'r wobr a dderbyniodd y tîm er cof am Rosie Neath, a gafodd ddau drawsblaniad yr ysgyfaint yn 2015, ac aeth ymlaen i fod yn un o wynebau Cofrestr Rhoi Organau'r GIG.
Bu farw Rosie, o Blackpool, ddwy flynedd yn ddiweddarach yn dilyn cymhlethdodau o ganlyniad i ffibrosis cystig wrth aros am ail drawsblaniad.
"Mae'n anrhydedd i ni dderbyn gwobr er cof am Rosie, a oedd yn eiriolwr angerddol dros roi organau a phwysigrwydd ymuno â'r gofrestr rhoi organau.
"Fel nyrsys arbenigol, weithiau byddwn yn siarad â theuluoedd ac yn cynnig rhodd fel dewis diwedd bywyd i deuluoedd nad ydynt erioed wedi trafod rhoddion yn eu bywydau, gall hyn wneud y penderfyniad yn anodd iddynt, gan nad ydynt yn gwybod dymuniad eu hanwyliaid.
Ychwanegodd Phil, "Mae gwneud penderfyniad a thrafod wir yn helpu - ein prif neges yw i unigolion gael y sgwrs gydag anwyliaid a theuluoedd.
Ychwanegodd Adrian Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd ac Arweinydd Gweithredol ar gyfer Rhoi Organau a Meinwe yn y Bwrdd Iechyd:
“Hoffwn longyfarch a diolch i’r tîm Rhoi Organau am eu hymroddiad, proffesiynoldeb, a gofal. Mae rhoi Organau’n bartneriaeth rhwng y tîm rhoi organau a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd lleol ac mae’r wobr hon yn amlwg yn dangos ymrwymiad yr holl bartïon i fuddsoddi yn hynny i helpu i achub a gwella bywydau.”
Am fwy o wybodaeth ar roi organau a chofrestru fel rhoddwr ewch ar: www.organdonation.nhs.uk