Mae côr ar lein yn defnyddio iaith arwyddion a chân i helpu oedolion ag anableddau dysgu yng Nghonwy i gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd yn ystod y cyfyngiadau symud COVID-19.
Mae’r sesiynau Côr Makaton Conwy wythnosol wedi’u canmol am leihau unigrwydd a helpu oedolion ag anableddau dysgu i gynyddu eu hyder a dysgu sgiliau newydd.
I nodi Wythnos Anableddau Dysgu (15-21 Mehefin), gwahoddir oedolion gydag anableddau dysgu o bob cwr o Sir Conwy i ymuno â’r côr.
Rhaglen iaith yw Makaton sy’n defnyddio symbolau ac arwyddion i roi gwahanol opsiynau i bobl gyfathrebu. Gall helpu i drawsnewid bywydau pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu, drwy roi ffordd iddynt fynegi eu hunain yn annibynnol.
Ers Medi 2019, mae’r côr wedi cynnal sesiynau rheolaidd yn Neuadd yr Eglwys Ffordd y Rhiw, Bae Colwyn.
Roedd aelodau’r côr yn benderfynol nad oedd cyfyngiadau symud COVID-19 yn mynd i’w rhwystro rhag cael eu hwyl wythnosol, felly maen nhw wedi defnyddio’r llwyfan fideo Zoom i ganu ac arwyddo nifer o glasuron enwog, gan gynnwys Sing, Sing a Song gan y Carpenters.
Cafodd y côr y pleser hefyd o gael perfformiad byw gan Jamie Price, cerddor lleol, a chanodd glasur yr ELO - Mr Blue Sky a Love me do gan y Beatles.
Mae Alex Fryer, Arweinydd Tîm gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Thîm Anableddau Dysgu integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ymysg y rhai sy’n cefnogi’r côr yn wythnosol. Meddai:
“Mae cyfyngiadau symud COVID-19 wedi stopio llawer o weithgareddau lleol i ni gyd, ac mae wedi arwain at gynnydd mewn unigrwydd a phobl yn methu’r hwyl maen nhw fel arfer yn ei gael gyda ffrindiau.
“Mae’r côr yn rhoi’r cyfle i ni gyd gael hwyl, cysylltu â ffrindiau, cynyddu ein hyder a dysgu sgiliau cyfathrebu newydd. Rydym ni oll wir yn mwynhau ac rydym wedi gwneud cysylltiadau hyfryd.
“Gall pobl ddysgu arwyddion Makaton i gyd-fynd â’r gerddoriaeth, cyd-ganu neu ddawnsio i’r gerddoriaeth. Nid oes angen iddo fod yn berffaith, mae’n ymwneud â chael hwyl a dysgu sgiliau newydd.”
Cydlynir a chefnogir y Côr gan Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu, elusen gofrestredig sy’n anelu at hyrwyddo newid a chyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu.
Gwahoddir oedolion ag anableddau dysgu a’u teuluoedd sy’n dymuno cymryd rhan yn y côr i ebostio michele@conwy-connect.org.uk neu ymweld ag www.conwy-connect.org.uk am wybodaeth bellach.
Am wybodaeth bellach am yr Wythnos Anableddau Dysgu, ewch i https://www.mencap.org.uk/get-involved/learning-disability-week-2020