Mae cleifion canser y bledren yn estyn allan i gefnogi pobl eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan un o ganserau mwyaf cyffredin y Deyrnas Unedig.
Fel rhan o fis Ymwybyddiaeth Canser y Bledren, mae aelodau o'r Clwb Brwydro Canser y Bledren, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Glan Clwyd, yn gwahodd cleifion a'u teuluoedd i ymuno â'u grŵp i gael cefnogaeth.
Mae'r grŵp hwn, sy'n cyfarfod bob mis ac sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r elusen genedlaethol dan arweiniad cleifion Brwydro Canser y Bledren, yn rhoi cyfle i'r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser i rannu cyngor, arweiniad a phrofiadau.
Canser y bledren, sy'n effeithio ar ddynion a merched o bob oed, yw'r pumed canser mwyaf cyffredin yn Ewrop, ac fel arfer caiff ei ddarganfod os oes gwaed yn yr wrin neu os ydych yn cael sawl haint i'r llwybr wrinol dro ar ôl tro.
Mae Dylan Williams sy'n byw yn Llandudno, a gafodd driniaeth ar gyfer canser y bledren ym mis Gorffennaf y llynedd yn annog pobl i gymryd rhan a defnyddio'r gefnogaeth sydd ar gael.
Ym mis Mawrth y llynedd, cododd Dylan bryderon gyda'i Feddyg Teulu ar ôl canfod gwaed yn ei wrin. Ymhen pedair wythnos, bu i wrolegwyr yn Ysbyty Gwynedd ganfod tiwmor gwyllt gradd 3 yn ei bledren a chyfeiriwyd Dylan at Ysbyty Broadgreen yn Lerpwl am driniaeth.
Dywedodd Dylan: "I ddechrau roeddwn yn meddwl bod gennyf haint neu rywbeth, felly es i weld fy Meddyg Teulu heb feddwl llawer am y peth. Cefais alwad ffôn ganddynt y prynhawn hwnnw a fy nghyfeirio am fwy o brofion yn syth.
"O'r pwynt hwnnw, o fewn ychydig wythnosau cefais biopsi yn Ysbyty Gwynedd, gwybod bod gennyf diwmor sylweddol a fy nghyfeirio at Ysbyty Brenhinol Lerpwl am fwy o driniaeth.
"Erbyn hynny doedd dim dewis ond tynnu fy mhledren yn llawfeddygol. Roedd yn rhy hwyr i mi gael cemotherapi, felly llawfeddygaeth oedd yr unig ddewis. Cafodd hynny ei egluro wrthyf gan fy Meddyg Ymgynghorol Beth Hickerton, a oedd yn arbennig."
"Roeddwn i fod yn Lerpwl am 15 diwrnod, ond roeddwn allan mewn chwech - ni allwch ddal Cymro i lawr!”
Ers cael llawdriniaeth ym mis Mehefin, mae Dylan wedi cael gofal parhaus gan y tîm yn Ysbyty Gwynedd a chefnogaeth gan ei ffrindiau a'i deulu. Bu iddo hefyd ymuno â'r Clwb Brwydro ym mis Ionawr, ac yn awr y mae'n annog pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser y bledren i ddysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael.
Dywedodd: "Mae clywed bod gennych ganser y bledren yn brofiad rhyfedd; rydych yn teimlo'n dda ac fel nad oes dim o'i le, ac mae'n rhyfeddol sut gallwch gael diagnosis pan rydych yn teimlo mor dda ynddoch chi eich hun.
"Mae'r newid hwnnw o fod yn dda i'r diagnosis yn ofnadwy. Mae'r holl broses yn boenus iawn, ac rydych yn dweud y drefn wrthoch eich hun y gallech fod wedi gwneud rhywbeth amdano. Mae'n drawmatig.
"Dyna'r adeg pan mae cefnogaeth eich teulu a'ch ffrindiau yn amhrisiadwy, cefais lawer o gefnogaeth gan y rheini o'm cwmpas.
"Ar gyfer grŵp y Clwb Brwydro, rydym wir eisiau bod yno i roi'r gefnogaeth ychwanegol honno i chi, sydd mor bwysig yn ystod cyfnod mor anodd. Mae cael y cyfle i siarad ag eraill sydd wedi bod trwyddo ac wedi cael profiadau tebyg yn amhrisiadwy.
"Mae gennym aelodau sydd wedi cael profiadau a thriniaethau amrywiol, sy'n gallu dweud 'digwyddodd hyn i mi' a phwyntio aelodau i’r cyfeiriad cywir, a rhannu cyngor ac awgrymiadau amrywiol, pethau sy'n gweithio.
"Mae cynifer o bobl allan yna a fyddai'n elwa o weithio gyda ni, ac rydym eisiau cydweithio i helpu a rhannu.”
I ddathlu Mis Ymwybyddiaeth Canser y Bledren, mae'r grŵp yn Glan Clwyd wedi sefydlu tudalen Facebook newydd sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i gymheiriaid ar-lein.
Mae'r dudalen hefyd yn rhoi gwybodaeth am gyfarfodydd sydd ar y gweill ac ar sut gall pobl ymuno â'r grŵp, sy'n cyfarfod yng Nghanolfan Canser Gogledd Cymru ar y trydydd dydd Llun o bob mis am 4:30pm.
Dywedodd Heather James, Nyrs Glinigol Arbenigol Wroleg Oncoleg: "Mae diagnosis cynnar yn hanfodol er mwyn gwella'r tebygolrwydd o frwydo yn erbyn y canser hwn, ac mae'n hanfodol bod mwy o bobl yn gwybod sut i adnabod y symptomau.
"Y prif beth i edrych amdano yw gwaed yn yr wrin, a dylai unrhyw un sy'n canfod hyn fynd i weld eu Meddyg Teulu cyn gynted ag sy'n bosibl, hyd yn oed os bydd ond yn digwydd unwaith.
"Gall nifer o gyflyrau achosi gwaed yn yr wrin, ond dylid ei archwilio bob amser ac os nad oes unrhyw haint yn bresennol dylech gael eich cyfeirio at feddyg ymgynghorol.
"Gall symptomau eraill gynnwys heintiau i'r llwybr wrinol dro ar ôl tro, poen wrth basio dŵr, gorfod pasio dŵr yn fwy aml neu boen yn rhan isaf y cefn ar un ochr. Mae rhai cleifion hefyd yn sylwi bod arogl eu wrin yn newid."
Mae'r bwrdd iechyd wedi lansio rhaglen uchelgeisiol newydd i wella gwasanaethau ar gyfer cleifion canser y bledren.
Mae'r rhaglen Trawsffurfio Gwasanaethau Canser Gyda'n Gilydd, sy'n cael ei hariannu gan Gymorth Canser Macmillan, hefyd yn dymuno gwella profiad pobl sy’n byw â chanser y fron, yr ysgyfaint, y colon a'r brostad.
Mae'r rhaglen yn chwilio am bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser i rannu eu stori er mwyn siapio gofal gwell i gleifion.
Dywedodd Dr Lydia Marakoff, Prif Weithredwr Brwydro Canser y Bledren: "Fel elusen dan arweiniad cleifion sy'n arbenigo mewn cefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser y bledren, rydym yn falch o allu cefnogi Dylan a'r cleifion, gofalwyr a staff yn Ysbyty Glan Clwyd gyda'r grŵp anhygoel hwn.
"Mae gennym fframwaith cenedlaethol o Glybiau Brwydro sy'n tyfu. Roedd y Clybiau Brwydro yn gysyniad hwyliog ac egniol a lansiwyd gan y sefydlydd Andrew Winterbottom sawl blwyddyn yn ôl, ac yn awr mae'n dod yn fwy cyffredin ac yn ffordd wych o gefnogi cleifion. Rydym wrth ein bodd â'r grŵp hwn yng Nglan Clwyd sy'n rhoi cyfle i gleifion fel Dylan arwain er mwyn gallu bodloni eu hanghenion cefnogi."
Mae Brwydro Canser y Bledren yn llywio Mis Ymwybyddiaeth Cenedlaethol Canser y Bledren ar draws y Deyrnas Unedig - sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o'r canser hwn nad yw’n cael digon o sylw ac sy'n derbyn llai na 1% o arian ymchwil canser y Deyrnas Unedig, er bod 18,000 o bobl yn cael diagnosis ohono bob blwyddyn.