Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau symudol y galon yn parhau i roi gofal hanfodol i gleifion yn ystod COVID-19

Mae sganiau’r galon sy’n achub bywydau yn parhau i gael eu cynnal yn y gymuned yn ystod yr achosion o COVID-19 diolch i arbenigwyr cardiaidd ymroddedig.  

Mewn ymateb i’r pandemig, mae’r Tîm Cardiaidd Cymunedol yn awr yn cynnal eu Clinigau Diagnostig Atsain yng nghartrefi eu cleifion i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i dderbyn y gofal a’r driniaeth sydd ei angen arnynt.

Mae’r tîm cardiaidd cymunedol yn gweld cleifion sy’n cael eu cyfeirio gan eu Meddyg Teulu sydd ag amheuaeth o fethiant y galon, a chynhelir nifer o asesiadau cyn dod o hyd i’r ffordd gywir i ofalu amdanynt.

Dywedodd Liana Shirley, Uwch Arbenigwr Delweddu Cardiaidd: “Pan aeth y wlad dan waharddiad symudiad dechreuom frysbennu ein cleifion dros y ffôn gan fod yn rhaid i lawer ohonynt warchod eu hunain.

“Ddiwedd fis Ebrill sylweddolom fod y pandemig yn mynd i effeithio arnom yn y tymor hir a sylweddolom fod angen i ni weld y cleifion hyn wyneb yn wyneb i’w hasesu’n ddigonol. Yna penderfynom y byddem yn dechrau mynd a’n clinigau i gartrefi’r cleifion.”

Wedyn dechreuodd Liana, a’i chydweithiwr, Hannah Jones, Arbenigwr Delweddu Cardiaidd, ymweld â’r cleifion hynny a dybir bod ganddynt risg uwch o ddirywio oherwydd methiant y galon ac o bosibl yn gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty.   

Un o’r cleifion y mae’r tîm wedi’i asesu yw Ann Inns sy’n 80 oed a gafodd ei chyfeirio at y gwasanaeth gan ei Meddyg Teulu.

Dywedodd: “Rwyf wedi bod yn poeni ers peth amser bod gennyf broblemau gyda fy nghalon unwaith eto ac mae’r sefyllfa bresennol gyda COVID-19 wedi gwaethygu fy mhryderon o ran hyn.

“Pan glywais y byddai’r tîm yn dod i fy ngweld yn fy nghartref teimlais ryddhad mawr ar unwaith.

“Yr amser yn aros yw’r peth gwaethaf os ydych yn meddwl bod rhywbeth o’i le arnoch, felly roeddwn yn falch fy mod yn gallu cael y canlyniadau’n syth ar ôl iddynt gynnal fy asesiad.

“Mae’n wasanaeth arbennig ac rwy’n ddiolchgar iawn iddynt am wirio fod popeth yn iawn i dawelu fy meddwl.”

Dywedodd Liana ei fod yn bwysig i barhau i weld y cleifion hyn fel eu bod yn cael diagnosis a thriniaeth.  

Ychwanegodd: “Mae’r holl gleifion yr ydym wedi’u gweld wedi bod yn ddiolchgar iawn am yr ymweliadau hyn, nid yn unig y mae wedi rhoi diagnosis o fethiant y galon i rai a darparu cynllun rheoli iddynt ond mae hefyd wedi rhoi sicrwydd os yw’r sgan yn normal.

“Rydym wedi cael dim byd ond canmoliaeth ac adborth positif. I rai ni yw’r cyswllt cyntaf y meant wedi’i gael ers wythnosau.

“Rydym yn ceisio ailadrodd ei fod yn bwysig iawn bod cleifion yn dal i ofyn am gyngor os nad ydynt yn teimlo’n dda.

“Hefyd hoffwn roi sicrwydd i’n cleifion y byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwisgo offer diogelu personol (PPE) priodol pan fyddwn yn cynnal asesiadau clinigol ac yn gwneud sganiau yn eu cartrefi. Rydym wastad yn cadw at brotocolau diogelwch llym i wneud y mwyaf o ddiogelwch yn ystod y cyfnod hwn sy’n achosi straen yng ngoleuni’r pandemig COVID-19.”