Mae meddyg ymgynghorol o Wrecsam wedi cael ei enwi fel un o brif lawfeddygon Gogledd Cymru gan gleifion bodlon.
Mae Mr Malek, sy'n arbenigo mewn gosod cymalau yn y goes yn Ysbyty Maelor Wrecsam, wedi derbyn adolygiadau pum seren gan gleifion ar wefan iWantGreatCare, sy'n safle adolygu gofal iechyd annibynnol a ddefnyddir yn helaeth yn y DU.
Mae Mr Malek wedi derbyn "Tystysgrif Rhagoriaeth" gan y wefan yn ddiweddar, sy'n defnyddio adborth gan gleifion i dynnu sylw at y gofal gwych o fewn y GIG, am gael ei gydnabod yn gyson gan ei gleifion am ddarparu gofal rhagorol.
Mae cyn bêl-droediwr o GPD Wrecsam, Martyn Chalk, wedi canmol Mr Malek am 'drawsnewid ei ansawdd bywyd' yn dilyn cael gosod dwy glun newydd.
Dywedodd: “Cefais fy llawdriniaeth gyntaf ar fy nglun dde ym mis Rhagfyr 2018 ac yna ail lawdriniaeth ar fy nglun chwith ym mis Medi 2019.
"Roedd y gofal a'r driniaeth y derbyniais gan Mr Malek a'i dîm yn wych. Roedd bob amser yn gwenu a wnaeth fy nghysuro!
“Pan gefais fy ail lawdriniaeth roeddwn yn gallu mynd adref ar yr un diwrnod a oedd yn wych gan ei fod yn golygu y gallwn wella gartref yn hytrach nag yn yr ysbyty.
“Mae Mr Malek wedi gwella ansawdd fy mywyd yn aruthrol, gallaf nawr wneud mwy gyda fy mhlant a gallaf hefyd chwarae pêl-droed eto!”
Hyd yn hyn, mae Mr Malek wedi derbyn 75 adolygiad pum seren ers ymuno ag Ysbyty Maelor Wrecsam yn 2018.
Ymhlith y sylwadau, wedi eu postio gan gleifion yn anhysbys, mae un wedi ysgrifennu: “Dylai unrhyw un sydd yn nwylo Mr Malek ymlacio gan wybod eu bod yn ddiogel ac y byddan nhw'n derbyn gofal da. Mae ei agwedd at gleifion yn wych a gallwch weld faint o wybodaeth a phrofiad gwych sydd ganddo trwy ei ddull. "
Mae Mr Malek yn derbyn llawer o ganmoliaeth gan ei gydweithwyr ar y Ward Orthopedig yn yr ysbyty hefyd.
Dywedodd Anita Gittins, Rheolwr Ward Tywysog Cymru: "Mae Mr Malek yn feddyg ymgynghorol gwych, mae'n ofnadwy o frwdfrydig ac mae ganddo berthynas wych â'i gleifion.
“Nid wyf yn synnu ei fod wedi derbyn adolygiadau mor dda gan ei gleifion gan ei fod bob amser yn sicrhau eu bod yn teimlo'n gartrefol a gallwch weld eu bod ganddyn nhw feddwl uchel ohono.
"Mae'n dod â llawer o bositifrwydd i'n ward ni ac mae'n bleser i weithio gydag ef."
Dywedodd Mr Malek fod yr adborth y mae'n ei dderbyn ar y wefan yn hynod bwysig nid yn unig iddo ef ond hefyd i'w gleifion yn y dyfodol.
Dywedodd: “Mae sicrhau bod y math hwn o adborth ar gael i'r cyhoedd yn bwysig iawn i'r cleifion hynny sydd i fod i ddod i mewn ar gyfer eu llawdriniaeth.
“Byddant yn gallu gweld y profiadau cadarnhaol y mae cyn-gleifion wedi’u cael o dan ein gofal ac yn teimlo’n fwy bodlon ynglŷn â’u llawdriniaeth.
“Rwy’n eiriolwr cryf dros 'ofal orthopedig sy’n canolbwyntio ar y claf' ac rwyf bob amser wedi credu mewn grymuso fy nghleifion a dilyn egwyddorion mai’r ‘claf sy’n gwybod orau’.
“Rwy’n credu bod gan y ffordd wylaidd ces i fy magu lawer i’w wneud â sut rwy’n trin fy nghleifion a hynny gyda pharch, gonestrwydd ac empathi.”