Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion cyntaf wedi'u cofrestru mewn treial clinigol newydd ar gyfer COVID-19

Mae clinigwyr ac ymchwilwyr ar draws Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cymryd rhan mewn treial clinigol cenedlaethol i brofi effeithiau triniaethau cyffur posibl ar gyfer cleifion COVID-19. 

Nid oes triniaethau penodol ar hyn o bryd ar gyfer COVID-19 a bydd yr hap-dreial Gwerthuso Therapi COVID-19 (ADFERIAD) yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar feddygon a’r gwasanaeth iechyd i benderfynu pa driniaethau a ddylid eu defnyddio.  

Mae Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam ymysg y 165 o ysbytai yn y DU sy’n cymryd rhan yn y treial, sy’n cael ei noddi gan Brifysgol Rhydychen, a hyd yma maent wedi recriwtio 26 o gleifion.  

Mae’r triniaethau sydd wedi’u cynnwys yn yr astudiaeth yn y lle cyntaf wedi cael eu hargymell gan banel arbenigol sy’n cynghori’r Prif Swyddog Meddygol yn Lloegr.  Y rhain yw Lopinavir-Ritonavir, a ddefnyddir fel arfer i drin HIV, a’r steroid Dexamethasone, a ddefnyddir mewn ystod eang o gyflyrau i ostwng llid.  

Mae’r astudiaeth, a gynigir i gleifion mewnol sy’n oedolion sydd wedi profi’n bositif ar gyfer COVID-19, yn anelu at ddarganfod p’un ai yw unrhyw un o’r triniaethau ychwanegol hyn o fudd i gleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty gyda’r firws.  

Mae nifer o glinigwyr ar draws y Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda’u Timau Ymchwil i recriwtio cleifion, gan gynnwys cleifion ar yr Unedau Gofal Dwys, wardiau Meddygaeth Lem, a wardiau Mamolaeth ym mhob un o’r tri ysbyty.  Bydd cleifion sy’n cytuno i gymryd rhan yn cael eu dyrannu ar hap i un o’r opsiynau triniaeth posibl.  Ym mhob achos bydd hyn yn cynnwys y safon arferol o ofal.

Dywedodd Hannah Williams, Nyrs Ymchwil yn Ysbyty Glan Clwyd: “Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau fod ein cleifion gyda COVID-19 yn cael mynediad at y triniaethau a fydd gobeithio’n cynorthwyo eu hadferiad.  Rydym yn ffodus o gael timau Anadlol, Gofal Dwys ac Ymchwil, dan arweiniad Dr Daniel Menzies a Dr Richard Pugh sy’n gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Rhydychen ar y treial hwn.  

“Yn anffodus, gall unrhyw un gael coronafirws.  Byddwn yn annog pawb i drafod gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau, os hoffent gymryd rhan yn y treial ADFERIAD neu beidio”.

Mae’r Meddyg Ymgynghorol, Dr Chris Subbe yn arwain y tîm yn Ysbyty Gwynedd.  

Dywedodd: “Ar hyn o bryd, ataliad drwy hunan-ynysu yw’r ymyrraeth fwyaf effeithiol o hyd yn erbyn COVID-19 ond ni allwn beidio ag edrych ar bob opsiwn posibl.

“Mae yna wir angen am dystiolaeth ddibynadwy ar y gofal gorau i gleifion sy’n derbyn diagnosis o COVID-19. 

“Darparu triniaethau newydd trwy dreialon fel hyn yw’r ffordd orau o gael tystiolaeth.”

Y claf cyntaf i gael ei recriwtio i’r treial ADFERIAD yn y Bwrdd Iechyd oedd claf o Ysbyty Maelor Wrecsam gan y tîm dan arweiniad Dr David Southern.

Dywedodd Sarah Davies, Bydwraig yn Ysbyty Maelor Wrecsam: “Rydym yn gweithio’n galed yn Adran Ymchwil Wrecsam i gefnogi ein timau clinigol ymroddedig i roi’r cyfle i gleifion gymryd rhan yn y treial hwn.  

“Mae popeth yn symud yn gyflym ac rydym yn wynebu’r heriau sydd o’n blaenau ar eu pen, ac roeddem mor falch o glywed ein bod wedi recriwtio ein claf cyntaf i’r treial ADFERIAD o fewn pum awr o agor yr astudiaeth yn y Bwrdd Iechyd.    

“Rydym yn gweithio o fewn tîm agos, cefnogol, sy’n ein galluogi i barhau i gyflawni ein prif nod o sicrhau bod gan boblogaeth Gogledd Cymru fynediad at yr ymchwil ddiweddaraf, ac yn y pen draw, y gofal gorau yn seiliedig ar dystiolaeth.”

Am fwy o wybodaeth am yr astudiaeth hon, ewch i www.recoverytrial.net