Mae gweithiwr hunangyflogedig ffitio caeadau rholer oedd yn poeni na fyddai'n gallu gweithio eto ar ôl anafu ei law yn ddrwg, wedi canmol y tîm yn Ysbyty Gwynedd am y gofal rhagorol a gafodd.
Yn gynharach eleni, roedd Jack Moody yn y gwaith pan gwympodd polyn dur a glanio ar ei law gan achosi anaf critigol.
Cafodd y gŵr 25 oed o Fae Colwyn ei ruthro i Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd, ble cafodd wybod ei fod angen llawdriniaeth frys ar ei law.
Dywedodd: "Digwyddodd popeth mor gyflym, rydw i'n cofio bod mewn poen mawr ac roedd llawer o waed.
"Roedd fy llaw wedi hollti o ganol cledr y llaw i waelod fy mawd. Roeddwn wir yn credu ar yr adeg yma fy mod yn mynd i golli fy llaw.
"Rydw i'n hunangyflogedig ac mae codi pethau trwm yn rhan o fy ngwaith felly roeddwn yn bryderus iawn na allwn weithio eto."
Yn dilyn llawdriniaeth lwyddiannus gan Lawfeddyg Ymgynghorol y Dwylo, Mr Prash Jesudason, cafodd Jack driniaeth bellach gan Sarah Roberts, Therapydd Galwedigaethol yn arbenigo mewn Therapi'r Dwylo.
Dywedodd: "Yn dilyn llawdriniaeth, mae ein cleifion i gyd angen rhyw fath o therapi i'w helpu i ailafael yn eu hannibyniaeth a mynd yn ôl i weithio.
"Rydym yn gweld amrywiaeth o anafiadau yn ein gwasanaeth, mae rhai yn newid bywyd ac yn achos Jack cafodd anaf difrïol oedd angen llawer o fewnbwn gan therapi.
"Roedd yn benderfynol iawn a chymerodd nifer o wythnosau cyn i ni ddechrau gwneud cynnydd, ac i ddechrau roeddem yn credu y byddai'n rhaid iddo gael llawdriniaeth arall.
"Fodd bynnag, gweithiodd Jack yn galed iawn gyda'i ymarferion llaw a chafwyd trobwynt, ac ar ôl hynny gwelwyd cynnydd gwirioneddol.
"Roedd yn wych gweld ei gynnydd, mae'n ymwneud llawer iawn â sut mae'r claf yn ymgysylltu â'r driniaeth, a chymerodd Jack ran lawn drwy gydol yr amser, ac mae ei agwedd benderfynol wedi talu."
Roedd Mr Jesudason hefyd wedi gwirioni â chynnydd Jack a gyda'i ymrwymiad i'r rhaglen therapi.
Dywedodd: "Cafodd Jack ddifrod difrifol i'w gewynnau plygydd sy'n rhedeg o'r fraich drwy'r arddwrn ac ar draws cledr y llaw, oedd yn ei atal rhag plygu ei fysedd.
"Cafodd lawdriniaeth i drwsio'r difrod ond yr allwedd i lawdriniaeth lwyddiannus yw'r therapi llaw sy'n dilyn.
"Cafodd anaf difrifol iawn i'w law felly mae gweld cynnydd mor dda â hyn yn wych i Jack ac i ni fel tîm.
"Cymerodd Jack ran lawn yn y rhaglen therapi llaw llym, rydw i'n falch iawn o'r holl dîm therapi llaw, maen nhw'n gweithio'n ddiflino i gael y gorau o bob anaf llaw rydw i'n weld a llawdriniaeth ydw i'n ei gwneud.
"Rydym yn awr yn dymuno ehangu ein tîm therapi a recriwtio mwy o therapyddion llaw fel y gallwn gynnig mwy gyda'r gwasanaeth gwych hwn.
Mae Jack wedi dychwelyd i'r gwaith yn dilyn ei therapi, ac ychwanegodd: "Rydw i'n ddiolchgar iawn i'r tîm yn Ysbyty Gwynedd, mae'r gofal a gefais wedi bod yn wych.
"Dim ond ychydig fisoedd yn ôl, doeddwn i ddim yn gallu plygu fy mysedd na chodi unrhyw beth, rŵan rydw i'n ôl yn y gwaith eto.
"Rydw i eisiau diolch yn fawr iawn i'r tîm am bopeth maen nhw wedi'i wneud i mi - maen nhw yn wych."