Mae #TîmIrfon, rhan o elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las, yn falch o gyhoeddi y bydd swydd newydd sbon ar ffurf nyrs iechyd meddwl yn dod i fodolaeth ar Ward Alaw.
Bydd #TîmIrfon yn ariannu’r rôl ar ward ganser Ysbyty Gwynedd fel cynllun peilot, i helpu a chefnogi cleifion canser a’u teuluoedd. Bwriedir i'r cynllun redeg am dair blynedd i gychwyn.
Bydd y nyrs yn gweithio gyda’r cleifion ar y ward am 22.5 awr yr wythnos.
Bu farw Irfon Williams, a sefydlodd Tîm Irfon ar ôl cael diagnosis o ganser, yn ôl yn 2017 yn 46 mlwydd oed. Bu’n cael triniaeth ar Ward Alaw, ac er ei fod yn cael gofal o’r radd flaenaf yno, gwelodd Irfon a’i wraig Becky fod bwlch yn bodoli o safbwynt cefnogaeth iechyd meddwl arbenigol i gleifion â chanser.
Roedd Irfon ei hun yn nyrs iechyd meddwl, a gwelodd fod ei bryderon a'i ofn o’r annisgwyl wrth dderbyn triniaeth yn rhywbeth y mae pob claf arall sy’n yr un sefyllfa yn ei wynebu.
Meddai Becky Williams, gwraig Irfon, wrth edrych yn ôl ar y cyfnod:
“Pan glywson ni gyntaf, nôl yn 2014 bod canser ar Irfon, roedd ein byd yn deilchion, ond trwy ganolbwyntio ar ein hiechyd meddwl fel lwyddon ni i gadw'n gryf ac mi helpodd hynny Irfon i ymdopi â'i driniaeth.
"Ond tydi byw gyda chanser ddim yn hawdd. Roedd Irfon ei hun yn teimlo’n isel ac yn anobeithiol weithiau, sy’n berffaith naturiol. Mae cleifion a'u hanwyliaid yn aml iawn yn teimlo'n isel ac yn boenus am y dyfodol."
Mae byw gyda chanser yn ystod y pandemig yn arbennig o anodd medd Becky Williams: "Ar ben gofidion am ganser, mae gan gleifion a'u gofalwyr hefyd y pryder ychwanegol a ddaw yn sgil Covid-19.
"Yn ogystal â phoeni am ddal Covid-19, mae'r effaith ar allu'r GIG i ddelifro gwasanaethau. Rydan ni i gyd wedi gorfod addasu ein ffordd o fyw, ond mae'r pwysau o ran iechyd meddwl gymaint â hynny'n fwy i gleifion canser."
Yn aml iawn, mae’r gwaith ymarferol o ofalu am gleifion a gweinyddu meddygyniaethau ac ati yn golygu bod yr ochr o siarad, cynnig ysgwydd a rhannu pryderon yn cael ei roi o'r neilltu gan bod staff y ward mor brysur.
Mae Manon Ogwen Williams sy’n Fatron ar Ward Alaw yn croesawu’r cyhoeddiad newydd:
“Mae'r prosiect hwn yn un cyffrous iawn - mae ymestyn y gefnogaeth iechyd meddwl i'n cleifion wedi wedi bod yn rhywbeth rydan ni wedi bod yn awyddus i'w ddarparu ers peth amser. Mae angen pendant am y rôl yma. Mae'n faes y mae cleifion a gofalwyr yn aml yn rhoi adborth i ni amdano, gan ddweud bod angen mwy o gefnogaeth iechyd meddwl.
"Mae cleifion wedi dweud y byddai cael aelod o staff sydd â'r amser a'r sgiliau i siarad yn â nhw am hiechyd meddwl o fudd mawr. Maen nhw wedi dweud y byddai'n well ganddyn nhw gael y cyswllt hwn ar Ward Alaw yn hytrach na chyfeiriad at arbenigwr allanol.
"Bydd gan ddeiliad y swydd y sgiliau angenrheidiol i wybod pryd, a sut i wneud yr cyfeiriadau ffurfiol hynny ar gyfer cefnogaeth ar lefel uwch o a phan s bydd angen.”
Mae tua 30 o gleifion yn mynychu Uned Dydd Alaw i gael triniaeth bob dydd. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 ni fydd Gweithiwr Iechyd Meddwl Tîm Irfon yn cael ei recriwtio ar hyn o bryd. Ond yn y cyfamser, mae'r elusen yn cynnig cefnogaeth ar ffurf cwnsela ac ymwybyddiaeth ofalgar gan arbenigwyr lleol i gwrdd â'r angen am gymorth iechyd meddwl. Bydd y gwasnaethau hynny ar gael yn Gymraeg a Saesneg gan y bydd Tîm Irfon hefyd yn ariannu costau cyfieithu adnoddau.