Mae ystafell newydd i gefnogi teuluoedd i ddelio â cholli babi a babanod marw-anedig wedi agor yn Ysbyty Glan Clwyd diolch i haelioni grŵp o deuluoedd lleol.
Cododd unigolion sy'n codi arian dros £30,000 gyda marathon pêl-droed 24 awr i wella cyfleusterau yn yr ysbyty, a chefnogi elusen marwolaeth newydd-anedig a babanod marw-anedig Sands.
Bydd yr Ystafell Dolwen newydd yn darparu cyfleusterau preifat, a llawer gwell i deuluoedd sy'n profi colli babi.
Mae'r ystafell wedi cael ei dylunio i ddarparu lleoliad mwy cartrefol i famau eni eu babanod, a gwneud yr amser mae teuluoedd yn ei dreulio yn yr ysbyty gyda'u babanod mor gyfforddus â phosibl.
Trefnwyd y digwyddiad codi arian gan Mike a Vicki Wilson, a Glyn a Karen Thomas. Mae Vicki, Glyn a Karen yn gweithio gyda'i gilydd fel radiograffwyr yng Nghanolfan Canser Gogledd Cymru.
Dywedodd Mike, y bu ei ferch Holly fawr yn 35 wythnos cyfnod cario yn 2012, bod y grŵp yn benderfynol o wneud rhywbeth i gefnogi teuluoedd eraill sy'n mynd drwy brofiad tebyg.
Dywedodd Mike: "Mae mynd drwy beth y gwnaethom bob amser yn mynd i fod yn brofiad ofnadwy, ond roedd gorfod gwneud yn y cyfleusterau oedd yno ddim digon da.
Cawsom ofal gwych gan y staff, ond roeddem eisiau gwneud popeth er mwyn sicrhau nad oedd teuluoedd eraill yn gorfod cael eu gofalu amdanynt yn yr ystafell oedd yn arfer bod yma.
"Rwy'n chwarae pêl-droed gyda Glyn, sy’n gweithio gyda'm gwraig a Karen, ac fe wnaethom siarad am beth allai wella pethau.
"Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rydym wedi ei chael i godi'r arian i ailddatblygu'r ystafell yma yn yr ysbyty, a’i rhoi i Chester Sands, a roddodd gefnogaeth wych i ni pan fu farw Holly.
"Mae'n wych bod yma heddiw i ddathlu agoriad yr ystafell, fydd gobeithio yn helpu i wneud amser anodd i deuluoedd ychydig yn fwy cyfforddus."
Rhoddodd Gwynedd Sands, sy'n cefnogi teuluoedd yng Ngogledd Cymru sy'n cael eu heffeithio gan farwolaeth babi, rodd sylweddol i helpu i ddodrefnu'r ystafell.
Dywedodd Lorraine Gardner: "Mae colli babi yn ystod beichiogrwydd neu'n fuan ar ôl genedigaeth yn brofiad torcalonnus i unrhyw riant ei wynebu, ac rydym yn gwybod na fydd unrhyw beth yn rhoi cysur i rai mewn sefyllfaoedd o'r fath.
"Roedd yn bwysig iawn i ni ddarparu lle gwell i famau wella yn gorfforol, a lle gwell i rieni ffarwelio â'i babi, a dechrau'r broses o alaru."
"Rydym wedi gweithio'n galed i ddatblygu lle nad yw’n teimlo mor glinigol, ac yn fwy fel noddfa i rieni mewn profedigaeth.
"Mae mynediad preifat at yr ystafell oddi wrth y brif ward mamolaeth, fel nad yw rhieni yn cael eu rhoi mewn lleoliad ble gallent glywed babanod newydd-anedig eraill a all o bosibl beri gofid.
"Ni allwn ddiolch digon i SANDS am eu cefnogaeth wych i ddod â'r gwelliannau hyn at ei gilydd, ac rydym yn falch iawn o ystafell Dolwen."
Darparwyd gwaith celf hefyd yn yr ystafell gan Verity Wilson.