Mae Uned Gofal Critigol modern newydd ar gael erbyn hyn i'r cleifion mwyaf sâl yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae'r tîm Resbiradol wedi symud hefyd i ardal sy'n agos i'r tîm Gofal Critigol, a byddant erbyn hyn yn gallu rhoi cymorth i'w cleifion sydd â salwch llym mewn amgylchedd diogelach.
Tua diwedd mis Hydref, symudodd y tîm Gofal Critigol i'w huned eang newydd a fydd yn cynnig amgylchedd gwell i gleifion sydd â salwch difrifol, ac sydd angen triniaeth ddwys a monitro agos.
Dywed Dr Andy Campbell, Meddyg Ymgynghorol mewn Gofal Critigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam y bydd yr uned newydd yn darparu'r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd: “Rydym yn hynod falch o fod wedi symud i'n huned newydd a hoffwn ddiolch i'r timau fu ynghlwm wrth sicrhau ein bod yn cyrraedd y pwynt yma.
“Nid yw symud Uned Gofal Critigol yn broses hawdd, yn enwedig yn ystod pandemig, mae llawer o waith caled wedi'i wneud o fewn cyfnod byr o amser, ac mae hynny oherwydd y gwaith caled a wnaed gan bawb yn yr ysbyty fu'n gysylltiedig â'r cyfan.
"Bydd ein huned newydd o gymorth mawr ni yn ystod cyfnod COVID ac yn y dyfodol."
Ychwanegodd Dr Chris Littler, Anaesthetegydd Ymgynghorol, sydd wedi gweithio mewn Gofal Critigol am dros 20 mlynedd yn yr ysbyty: “Rydw i newydd gamu i lawr o arfer Gofal Critigol, felly mae'n addas bod yr hen uned yn cau wrth i mi adael ac wrth i'r tîm symud i'r uned newydd.
“Mae hon yn uned sy'n fwy blaengar o lawer na'n cyfleuster blaenorol, i mi, mae'n ddiwedd cyfnod ond rydw i am ddymuno'n dda i'r tîm Gofal Critigol."
Mae'r uned newydd yn cynnwys baeau mwy i gleifion a gorsaf nyrsio ym mhob ardal fel bod modd i gleifion gael eu monitro'n agos.
Bydd y tîm hefyd yn elwa ar ystafell staff a swyddfeydd mwy o faint.
Dywedodd Stuart Tasker, Nyrs Gyfrifol, sydd wedi gweithio yn yr Uned Gofal Critigol am 25 mlynedd: “Mae hon yn uned fwy o lawer na'r un rydym yn gyfarwydd â hi - a byddwn yn parhau i fod â dwy ardal ar wahân yn yr uned i'r cleifion hynny sydd angen triniaeth am COVID-19 a hefyd ein cleifion sydd heb COVID.
“Mae hefyd yn oleuach o lawer sy'n creu amgylchedd llawer gwell, nid yn unig i'n staff, ond hefyd y cleifion.
“Rydym ni i gyd yn falch o gael symud i uned newydd ac mae'r staff wedi mynd y filltir ychwanegol i sicrhau ein bod yn symud i mewn ar amser a gwnaethant hyd yn oed ddod i mewn ar eu diwrnodau i ffwrdd i helpu - gwnaeth pawb gyd-dynnu i sicrhau bod modd i ni symud i mewn ar amser, roedd yn waith tîm gwych."
Dywedodd Dr Liz Brohan, Meddyg Ymgynghorol Resbiradol, y bydd eu huned newydd yn darparu amgylchedd gwell i ategu eu gwasanaeth Cymorth Anadlu Anfewnwthiol (NIV) rhanbarthol.
Dywedodd: “Mae hwn yn ddatblygiad gwych i'r tîm resbiradol yma yn Wrecsam. Byddwn yn gallu rhoi cymorth i gleifion â salwch llym sy'n cael diagnosis COVID neu salwch resbiradol arall trwy gydol y gaeaf mewn amgylchedd sy'n fwy diogel o lawer.
“Mae bod yn agos i'r Uned Gofal Critigol yn golygu bod modd i ni rannu sgiliau ac offer a gwella hyfforddiant a phrofiad staff o'r ddwy uned.
“Byddwn yn gallu asesu a throsglwyddo cleifion sydd angen eu huwchgyfeirio i ofal critigol yn gyflymach ac yn ddiogelach ac i ymateb ar y cyd ac yn fwy effeithlon i unrhyw ymchwydd yn y galw yn ystod pandemig COVID.
"Yn y tymor hwy, mae'n darparu amgylchedd i hwyluso cynnal ein gwasanaeth NIV cartref rhanbarthol. Erbyn hyn, gallwn roi gofal arbenigol i'r grŵp hwn mewn ardal lle bo gan staff y sgiliau sydd eu hangen i ofalu amdanynt.
“Bydd hefyd yn ein galluogi i drosglwyddo cleifion sydd angen gofal y tîm NIV, o ysbytai cyfagos yng Nghymru a Lloegr, cartrefi gofal neu eu cartrefi eu hunain i uned arbenigol lle bo modd eu hasesu a'u trin. Bydd hyn yn lleihau hyd eu harhosiad ac yn gwella ansawdd gofal y cleifion rydym yn eu trin."