Neidio i'r prif gynnwy

Canmoliaeth am y gefnogaeth anableddau dysgu 'anhygoel' yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud COVID-19

Mae pobl sydd ag anableddau dysgu a’u teuluoedd wedi canmol y gefnogaeth a dderbyniwyd gan staff y GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol i’r cymylau yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud COVID-19.

I nodi’r Wythnos Anableddau Dysgu (15-21ain Mehefin), mae dau deulu o Gonwy wedi rhannu eu profiadau o fywyd dan y cyfyngiadau symud gydag un annwyl sydd ag anabledd dysgu.

Mae rhai gwasanethau anableddau dysgu yn y gymuned wedi gorfod cau dros dro neu newid y ffordd maen nhw’n gweithredu oherwydd COVID-19, mae staff y GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol wedi cynyddu’r lefel o gefnogaeth maen nhw’n ei ddarparu er mwyn sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Mae Louise Maxwell, 34, o Landrillo yn Rhos, ymysg y rhai sydd ag anabledd dysgu ac wedi derbyn cefnogaeth ychwanegol.

Mae Tîm Anableddau Dysgu Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno cefnogaeth ddyddiol i sicrhau ei bod yn ddiogel a hapus yn ei chartref ei hunan. 

Meddai Louise: “Roeddwn yn teimlo’n ofnadwy pan glywais am y Coronafirws.  Nid oeddwn am aros yn y tŷ.  Roeddwn i eisiau mynd allan i fynd i weld fy nheulu.   

“Pan fydd fy ngweithwyr cefnogi yn dod i’r tŷ, rwy’n hoffi gwneud celf a chrefft, coginio a phobi.  Mae’n gwneud i mi deimlo’n dda pan dw i wedi diflasu ac yn methu mynd allan o’r tŷ i weld fy chwaer a gweddill y teulu.

“Dw i wedi cael galwadau fideo gyda fy nheulu.  Byddai’r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd dros ben heb bobl yn dod i mewn i fy nghefnogi.”

Dywedodd ei chwaer, Susan Davies: “Mae gan Louise ymddygiad heriol ac yn hollol afreolus ar brydiau.  Mae’r cyfyngiadau symud wedi bod yn anodd gan ei bod yn teimlo mai fi oedd yn ei hynysu a’i chadw yn y tŷ. 

“Mae hi angen ei symbylu’n gyson, felly mae aros yn y tŷ yn anodd iawn.  Mae’r gefnogaeth hon wedi bod yn rhyddhad mawr yn ystod y cyfyngiadau symud, does gen i ddim syniad sut byddem wedi ymdopi â hyn heb y gwasanaeth. 

“Mae’n gwneud popeth cymaint rhwyddach i mi, fel arall dim ond fi fyddai wedi bod ar gael 24/7.”

Mae pandemig COVID-19 wedi cyd-daro â chael adfywiad bywyd i Kyle Rigby o Hen Golwyn.

Ni wnaeth y dyn 20 oed, sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, adael y tŷ am ddwy flynedd a hanner, ac roedd mor wael, bu raid iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty ym Medi 2019.

Ar ôl derbyn cefnogaeth ddwys gan staff anableddau dysgu ar Ward Mesen Fach yn Ysbyty Bryn y Neuadd, rhyddhawyd Kyle fel roedd y cyfyngiadau symud COVID-19 yn cael eu cyflwyno, felly roedd gweithwyr cefnogi yn ymweld â’i gartref yn ddyddiol.

Dywedodd ei fam, Sarah Rigby, bod y gefnogaeth mae ei mab wedi’i dderbyn yn ‘anhygoel’ yn ogystal â’r cynnydd arbennig mae o wedi’i wneud.

Meddai: “Mae pobl wedi bod yn dod i mewn bob dydd i weld Kyle. Heb y gefnogaeth, dw i’n credu o bosibl byddai Kyle wedi gorfod mynd yn ôl i’r ysbyty. 

“Mae hyn wir wedi helpu annibyniaeth Kyle ac nad yw bob amser gyda’i fam a’i dad yn unig.  Mae’n ystyried ei ofalwyr yn ffrindiau a phobl mae’n gallu siarad â nhw.  Mae o wedi cael anawsterau ar hyd ei oes, felly nid yw wedi cael llawer o gyfeillgarwch.  

“Ni wnaeth Kyle adael y tŷ am ddwy flynedd a hanner.  Roedd o’n wael iawn pan aeth i’r ysbyty.   

“Rydym wedi gweld gwahaniaeth mawr fel teulu.  Mae ganddo anableddau dysgu ac awtistiaeth - gwyddom bydd y rhain yn parhau am byth.  Nid oedd hyd yn oed yn gallu gadael y tŷ i fynd i’r ardd yn flaenorol, ond nawr mae’n mynd allan, ac mae gweld hyn mor braf.”

Meddai Kyle: “Mae’r ychydig wythnosau diwethaf wedi bod yn well i mi, oherwydd mae mynd allan a gwneud pethau wedi bod yn dda.

“Rydw i wedi derbyn cefnogaeth dda.  Rwyf wedi bod allan ar y beic, cerdded, mynd yn y car, chwarae pêl-droed a chriced.

“Heb wneud hyn, byddwn yn teimlo’n isel iawn.  Mae’n gwneud i mi deimlo’n llawer mwy hyderus.”

Yn ogystal â mynd allan i’r awyr agored a chymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’i ofalwyr, mae Kyle yn edrych ymlaen at wylio ei hoff dîm pêl-droed, Lerpwl, yn ennill ei deitl Uwch Gynghrair cyntaf yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Dywedodd, “Virgil Van Dyk yw fy hoff chwaraewr”, ac  esboniodd yn hyderus “mae Lerpwl yn bendant yn mynd i ennill y gynghrair”.

I ddarganfod mwy am yr Wythnos Anableddau Dysgu, ewch i wefan Mencap: https://www.mencap.org.uk/get-involved/learning-disability-week-2020