Neidio i'r prif gynnwy

Canmol staff meddygfeydd Gogledd Cymru, wrth i'r rhaglen frechu COVID-19 gynyddu

05.02.21

Mae Meddyg sy'n arwain y rhaglen frechu COVID-19 yng Ngogledd Cymru wedi talu teyrnged i'r rôl hanfodol y mae meddygfeydd a fferyllfeydd cymuned yn ei chwarae wrth gyflwyno’r rhaglen.

Hyd yma, mae meddygfeydd a fferyllfeydd cymuned wedi darparu bron i hanner y 100,000 o frechlynnau a roddwyd yng Ngogledd Cymru hyd at 1 Chwefror. 

Wrth i gyflenwad y brechlyn gynyddu dros yr wythnosau nesaf, byddant yn chwarae rôl fwyfwy sylweddol.

Erbyn diwedd yr wythnos nesaf disgwylir y bydd 84,000 o bobl eraill ar draws Gogledd Cymru wedi cael y brechlyn, gyda 60% o'r dosau hyn yn cael eu rhoi mewn meddygfeydd a fferyllfeydd cymuned.

Mae pob un o'r 98 meddygfa a dros hanner y fferyllfeydd cymuned yng Ngogledd Cymru yn cefnogi cyflwyno'r rhaglen frechu COVID-19.

Mae Dr Chris Stockport, Arweinydd COVID-19 a Chyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Chymuned BIPBC, wedi talu teyrnged i'r fyddin o gontractwyr gofal cychwynnol sy'n darparu rhaglen frechu fwyaf erioed y rhanbarth. 

"Rydym wedi cael ymateb positif dros ben gan ein partneriaid gofal cychwynnol ac ni fyddem wedi gallu darparu rhaglen frechu ar raddfa mor fawr heb eu cefnogaeth a'u harbenigedd.

"Maent wedi chwarae rôl arweiniol wrth gyflwyno'r brechlyn hyd yma a bydd nifer y dosau a roddir yn cynyddu'n sylweddol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

"Bu iddi gymryd o ganol mis Rhagfyr hyd at ddiwedd mis Ionawr i frechu ein 100,000 cyntaf o bobl, gan ei fod yn normal i gyflenwad brechlynnau fod yn is yn ystod yr wythnosau cyntaf o gyflwyno brechlyn newydd.  Wrth i'r cyflenwad gynyddu rydym yn disgwyl rhoi’r 84,000 dos nesaf o fewn cyfnod o bythefnos. 

"Rydym yn hyderus bod gennym y capasiti drwy ein partneriaid gofal cychwynnol, Canolfannau Brechu Torfol a Chanolfannau Brechu Lleol i ddarparu nifer cynyddol y dosau wrth i'r cyflenwad gynyddu."

Mae Dr Clare Corbett, Meddyg Teulu, a’i chydweithwyr yng Nghanolfan Feddygol  Clarence yn y Rhyl ymysg y 98 meddygfa sy’n cefnogi cyflwyno’r rhaglen frechu COVID-19 yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Dr Corbett: “Mae ymateb tîm arbennig wedi bod gan staff meddygfeydd, gwirfoddolwyr a chydweithwyr y clwstwr a'r bwrdd iechyd dros yr wythnosau diwethaf i ddarparu’r brechlyn AstraZeneca (Rhydychen) yn ddiogel i’n cleifion mwyaf bregus. Rydym yn ddiolchgar i’r holl gleifion am eu positifrwydd a’u penderfyniad ysbrydoledig, sydd wedi bod yn hanfodol ar gyfer rhedeg y clinigau’n esmwyth. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu’r brechlynnau i’r boblogaeth ehangach dros y misoedd nesaf yn y frwydr yn erbyn COVID.”

Oherwydd cefnogaeth meddygfeydd a fferyllfeydd cymuned, efallai na fydd angen rhai o'r 16 Canolfan Frechu Leol a ddynodwyd yn flaenorol gan y Bwrdd Iechyd eto.

Eglurodd Dr Stockport, "Os nad yw'r Canolfan Frechu Leol (LVC) yn eich ardal wedi agor eto, nid yw hyn yn golygu bod y rhaglen frechu COVID-19 ar ei hôl hi o ran yr amserlen."

"Byddant yn parhau i agor lle mae eu hangen, ond efallai na fydd angen bob un, a gall eu dyddiadau agor amrywio i fodloni'r cyflenwad a chefnogi ein gweithlu gofal cychwynnol orau."

Rydym hefyd yn atgoffa pobl na ddylent gysylltu â'u meddygfa yn uniongyrchol i ofyn am y brechiad COVID-19, oni bai eu bod wedi cael gwahoddiad i wneud hynny.

"Y ffordd orau y gallwch gefnogi staff meddygfeydd a fferyllfeydd cymuned yw drwy beidio â chysylltu â nhw yn uniongyrchol gydag ymholiadau am y brechlyn COVID-19 oni bai eich bod wedi cael apwyntiad brechu.  Ni fyddant yn gallu cynnig y brechlyn i chi'n ddim cynt, ac fe allwch achosi oedi i bobl sy'n ceisio trefnu apwyntiadau cyffredinol."

Mae llinell gymorth wedi ei sefydlu ar gyfer unrhyw un dros 80 mlwydd oed sy'n dal i aros am apwyntiad brechu.  Y rhif ffôn yw 03000 840004 ac ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill sy'n ymwneud â'r brechlyn.  Wrth i ni fynd drwy'r gwahanol grwpiau oed ar gyfer eu brechu bydd y llinell gymorth yn agor i'r grwpiau hynny a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan BIPBC, drwy'r cyfryngau cymdeithasol a drwy ein partneriaid a'n cynrychiolwyr cymuned.  Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw un a ddylai fod wedi derbyn brechlyn erbyn pwynt penodol, ond sydd heb wneud, yn gallu cysylltu â ni i gywiro hyn. 

I ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gyflwyno brechlyn COVID-19 yng Ngogledd Cymru, ewch i wefan BIPBC: Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)