Neidio i'r prif gynnwy

Canmol Llawfeddyg Orthopaedig yn Ysbyty Gwynedd am ddarparu rhaglen hyfforddiant ardderchog

Mae llawfeddyg yn Ysbyty Gwynedd wedi cael ei gydnabod am ddarparu cyfleoedd dysgu ardderchog ac am wella sgiliau llawfeddygol y rheiny sydd yno dan hyfforddiant. 

Mae Mr Muthu Ganapathi, Llawfeddyg Ymgynghorol Trawma ac Orthopaedig, wedi cael ei enwebu ar gyfer y wobr flynyddol ‘Hyfforddwr y Flwyddyn’, sy’n cael ei ddewis gan y rheiny sydd dan hyfforddiant ar draws Cymru.

Mae Mr Ganapathi, sydd wedi cael ei enwebu am y wobr gan un o’i gyn-gofrestryddion, yn Arweinydd Addysg Orthopaedig yn Ysbyty Gwynedd, ac yn goruchwylio rhaglen addysg a hyfforddiant llawfeddygon dan hyfforddiant yn yr adran Trawma ac Orthopaedig. 

Dywedodd: “Mae’n fraint cael fy enwebu gan un o fy nghyn lawfeddygon dan hyfforddiant, mae'n wastad yn dda cael adborth positif am yr addysgu a ddarperir yma yn Ysbyty Gwynedd.

“Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi addasu ein rhaglen sydd wedi helpu i ddarparu hyfforddiant o’r ansawdd uchaf i’r rheiny dan hyfforddiant.

“Pan fydd y rheiny dan hyfforddiant yn ymuno â ni yma yn Ysbyty Gwynedd ar gyfer eu cylchdro cyntaf rydym yn asesu eu lefel ac yn sicrhau ein bod yn gosod nodau ac amcanion fel rhan o’u hyfforddiant.

“Mae’n bwysig i ni fel adran ein bod yn rhoi cyfleoedd i’r rheiny dan hyfforddiant i ddatblygu a dysgu mewn unrhyw amgylchedd clinigol, p’un ai ei fod ar rowndiau ward neu yn y theatrau.

“Fel hyfforddwr mae bob amser yn bleser gweld ein llawfeddygon y dyfodol yn datblygu yn ystod eu cyfnod gyda ni a’u gweld yn gwella eu sgiliau llawfeddygol.”

Mae cofrestrydd presennol Mr Ganapathi, Mr Luke Nugent, yn canmol yr hyfforddiant a ddarperir yn yr ysbyty’n fawr.

Dywedodd: “Ar hyn o bryd rwyf yn fy ail flwyddyn yn Ysbyty Gwynedd ac mae’r hyfforddiant yr wyf wedi’i gael wedi bod yn ardderchog.

“Rwy’n teimlo bod y Meddygon Ymgynghorol yn gefnogol iawn ac yn ogystal â’n dyletswyddau clinigol arferol rydym yn cael cynnig nifer o ffyrdd i ddatblygu ein gwybodaeth fel mynychu cyfarfodydd Arthroplasti bob deufis lle gallwn drafod achosion diddorol.

“Mae yna ddiwylliant o addysgu yma nad ydych yn ei weld yn y rhan fwyaf o ysbytai ac rwy’n teimlo fy mod wedi gwella fy sgiliau a fy ngwybodaeth yn fawr dan arweiniad yr adran Orthopaedig.”

Dywedodd Dr Damian McKeon, Cyfarwyddwr Clinigol Addysg Feddygol yn Ysbyty Gwynedd: “Mae’r Adran Orthopaedig yn Ysbyty Gwynedd wedi cael trawsnewidiad diwylliannol enfawr yn nhermau bod yn un o’n hadrannau addysgol gorau dros y 18 mis diwethaf.

“Mae’r tîm wedi edrych ar feddygon a ffisigwyr cyswllt o bob gradd ac wedi croesawu eu hanghenion hyfforddiant sydd wedi dod â nhw ynghyd fel tîm, sydd yn ei dro wedi darparu gofal ardderchog i’n cleifion.”

Ychwanegodd Dr Karen Mottart, Cyfarwyddwr Meddygol yn Ysbyty Gwynedd:  “Hoffwn longyfarch Mr Ganapathi ar ei enwebiad – mae’n wych clywed adborth mor bositif gan y rheiny sydd gennym yma dan hyfforddiant.

“Rwy’n arbennig o falch bod ein hadran Trawma ac Orthopaedig yn cael ei chydnabod am wobr addysgol - mae’n wych eu bod yn cael cydnabyddiaeth am yr holl ymdrech sy’n cael ei roi i wella addysg gynaliadwy yn eu hadran.”