MAE BUSNESAU AR DRAWS Gogledd Cymru i gefnogi bwydo ar y fron trwy ddarparu lleoedd diogel a chroesawgar i famau a babanod i fwydo wrth i gyfyngiadau COVID-19 barhau i lacio.
Mae dwsinau o gaffis, bwytai, siopau, siopau trin gwallt a gwasanaethau cyhoeddus eisoes wedi ymrwymo i gynllun Croesawu Bwydo ar y Fron, sy'n caniatáu i fusnesau ddangos eu cefnogaeth.
Ond mae mamau, cefnogwyr cymheiriaid ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn defnyddio Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd i alw am fwy o fusnesau i ymuno â'r cynllun.
Maent yn credu y byddai annog cwmnïau i gofrestru’n helpu mamau i fwydo eu babanod yn hyderus tra maent allan - yn enwedig nawr yn dilyn misoedd anodd o ynysu, dilyn rheolau’r clo a phellhau.
Ganwyd Racheal Turpin ei mab Finley ym mis Tachwedd, ac mae'n llawn canmoliaeth am y gefnogaeth a gafodd gan y bydwragedd, ymwelwyr iechyd a rhwydweithiau bwydo ar y fron wrth iddi fwydo ei phlentyn cyntaf.
Dywed y fenyw 33 oed o Cefn-Y-Bedd ei bod yn falch o'r hyn y mae wedi'i gyflawni, ac y byddai'n dewis prynu gan fusnes sy'n cefnogi cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron.
“Rwy’n berson sy’n eithaf neilltuedig, felly ni fyddwn eisiau gwneud cân a dawns ohono - ond pe bawn i’n gwybod fod cwmni’n rhan o’r cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yna byddai’n tynnu fy sylw ynglŷn â lle y dewiswn fynd am goffi neu bryd o fwyd, ”meddai Racheal.
“Byddai’n hyfryd gwybod fod y lle’n groesawgar, neu gyda chyfleusterau fel ystafell lle gallwch fynd i fwydo ar y fron petai angen.”
Mae Amy Northage-Milburn (35 oed) yn un o oddeutu 20 o gefnogwyr cymheiriaid gwirfoddol gweithredol sydd wedi'u hyfforddi i helpu mamau newydd fel rhan o Rwydweithiau Ffrindiau sy'n Bwydo ar y Fron a gefnogir gan y bwrdd iechyd.
Mae'r fam i chwech o blant, o Gaergybi, wedi rhedeg grwpiau ar-lein yn ystod y pandemig ond mae'n edrych ymlaen at fynd yn ôl at ddarparu cefnogaeth wyneb i wyneb.
“Rydym yn gwybod fod mamau’n cael sicrwydd mawr o gynllun Croesawu Bwydo ar y Fron, ac rydym ni'n cael cwestiynau’n gyson ganddynt o ble yw’r llefydd mae eraill wedi cael profiadau cadarnhaol o fwydo ar y fron ynddynt,” meddai Amy.
“Mae cael rhywle y gallwch chi fynd - lle rydych chi'n gwybod fod busnesau'n bositif am fwydo ar y fron - yn ei gwneud hi'n gymaint yn haws ac yn rhyddhau unrhyw bryder.
“Mae’r hyder hwnnw’n beth mawr i famau newydd. Os yw mamau’n teimlo’n fwy hyderus ynglŷn â bwydo’n gyhoeddus - os ydyn nhw’n gwybod y gallan nhw - yna bydd hynny’n cefnogi’r cyfraddau bwydo ar y fron ledled Gogledd Cymru. ”
Yn y DU, mae pedair o bob pump mam yn dechrau bwydo ar y fron adeg y genedigaeth, ond mae gostyngiad cyflym yn y nifer sy'n cario ymlaen i fwydo ar y fron yn ystod yr wythnosau sy’n dilyn. Dim ond tua un y cant o fabanod sy'n cael eu bwydo ar y fron yn gyfan gwbl ar ôl chwe mis.
Mae Cynllun Strategol Betsi Cadwaladr ar gyfer Bwydo Babanod yn ymrwymo'r bwrdd iechyd i helpu rhieni i wneud dewisiadau gwybodus am faeth yn ystod blynyddoedd cynnar eu plentyn, a chefnogi mwy o famau i ddechrau a pharhau i fwydo ar y fron.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd yn Betsi Cadwaladr: “Mae bwydo ar y fron yn gwella iechyd a lles babanod, plant a’u mamau yn sylweddol.
“Ond mae rhai mamau yn ei chael yn heriol, yn enwedig pan fyddant oddi cartref - felly yn ystod Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd rydym yn gofyn i fusnesau ystyried sut y gallant rannu’r cyfrifoldeb i gefnogi bwydo ar y fron trwy ddarparu lleoedd diogel ac ymuno â'n cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron.
“Rydym hefyd yn apelio ar gyflogwyr cyfrifol i gynorthwyo mamau i barhau i fwydo ar y fron pan fyddant yn dychwelyd i'r gweithle.
“Gallant wneud hyn mewn sawl ffordd: trwy ystyried patrwm oriau gwaith mwy hyblyg neu ganiatáu seibiannau ar gyfer bwydo ar y fron neu ar fynegi llaeth, trwy ddarparu ystafell breifat a chyfforddus i famau eu defnyddio, a thrwy gynnig oergell i storio’r llaeth.”
• Mae Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd yn rhedeg rhwng Awst 1af i’r 7fed, ei nod yw codi ymwybyddiaeth am ganlyniadau iechyd a lles cadarnhaol wth gefnogi mamau i fwydo ar y fron. Eleni, mae'r digwyddiad rhyngwladol yn canolbwyntio ei fod yn gyfrifoldeb ar y cyd i ni gyd i amddiffyn a hyrwyddo bwydo ar y fron.