Mae dynes o Sir y Fflint a gafodd broblemau iechyd meddwl difrifol yn ystod ei beichiogrwydd a'r misoedd cynnar ar ôl genedigaeth ei babi yn annog mamau newydd a merched beichiog sy'n cael anhawster i ofyn am gymorth.
Cafodd Francesca Austen brofiad o orbryder ofnadwy yn ystod ei beichiogrwydd ac Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD) ar ôl genedigaeth ei merch, Aderyn, yn 2019.
Yn hytrach na mwynhau ei hwythnosau cyntaf fel mam, roedd yn cael anhawster creu cwlwm agosrwydd gyda'i merch a dechreuodd deimlo dicter tuag at ei babi newydd.
Cefnogwyd y ddynes 29 mlwydd oed, o'r Wyddgrug, gan Wasanaeth Iechyd Meddwl amenedigol arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd wedi ehangu'n ddiweddar, gyda chyllideb gan Lywodraeth Cymru.
I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau (3-9 Mai), rhannodd Francesca ei stori i helpu i godi ymwybyddiaeth o salwch meddwl amenedigol ac annog mamau newydd eraill a merched beichiog i ofyn am gymorth.
"Dechreuodd fy mhroblemau iechyd meddwl amenedigol y funud y darganfyddais fy mod yn feichiog," eglurodd.
"Mae cael gorbryder iechyd, ffobia eithafol o nodwyddau a phopeth sy'n gysylltiedig â nhw (h.y. meddygon, ysbytai ac ati) yn gwneud beichiogrwydd yn fwy dychrynllyd i mi ac yn sbarduno fy mhryder iechyd ynghyd ag anhwylder gorbryder cyffredinol ac iselder. Dyma'r rhesymau dros fy nghyfeirio at y tîm Iechyd Meddwl Amenedigol arbennig.
"Cefais gefnogaeth i wneud cynllun geni ac ar ôl rhoi genedigaeth, cefais fy nghefnogi'n llwyr a chefais ambell sesiwn lle wnaethom drafod yr enedigaeth, fy iechyd meddwl, ac unrhyw beth arall yr oeddwn eisiau neu angen siarad yn ei gylch.
"Roedd hyn yn gathartig ac yn ddefnyddiol iawn. Dyma pryd y gwnaethom sylweddoli fy mod yn dioddef gyda symptomau PTSD ar ôl yr enedigaeth, a chefais gynnig Therapi Ailddirwyn, a helpodd i leddfu'r symptomau.
"Credaf yn llwyr fod y tîm Iechyd Meddwl Amenedigol wedi fy atal rhag cymaint o ddioddefaint, a bu'n gymorth i fi i ymdopi gyda'r profiad a newid mwyaf eithafol sef beichiogrwydd a genedigaeth, gan ganiatáu i mi ddysgu ffynnu a'i fwynhau.
Mae hyd at 20 y cant o ferched yn datblygu problem iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu o fewn blwyddyn o roi genedigaeth, gyda saith ym mhob deg merch yn tan-chwarae neu guddio difrifoldeb eu salwch meddwl amenedigol.
Mae Francesca yn ymuno â gweithwyr proffesiynol eraill y GIG yn yr ymgyrch i annog mamau newydd a merched beichiog i ofyn am gymorth os ydynt yn cael trafferth.
Dywedodd: "Wrth i chi dyfu fyny, rydych yn clywed y naratif am feichiogrwydd a genedigaeth, am sut mae'n daith anodd ond yn hudolus a'r cariad dwys yr ydych yn ei deimlo'r eiliad yr ydych yn gweld eich babi newydd," eglurodd.
"Wrth gwrs, dyna'r stori yr ydych eisiau ei phrofi, fodd bynnag, nid dyna'r achos i rai ohonom. Mae hynny'n hollol iawn!
"Dyma'r profiad mwyaf eithafol y gallwch ei ddychmygu, os yw'n mynd yn iawn neu beidio. Os ydych chi fel fi a bod gennych chi broblemau iechyd meddwl sy'n gwneud profiadau arferol yn anodd, does dim rhaid dweud bod rhywfaint o gefnogaeth arbenigol mor bwysig.
"Diolch i'r tîm Iechyd Meddwl Amenedigol, ymdopais yn well nag y dychmygais ac roedd y diogelwch a deimlais gan y cymorth o fod yno'n werthfawr iawn i mi a fy nheulu."
Mae Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda Meddygon Teulu, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd i gefnogi merched sy'n profi problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd a'r flwyddyn ôl-enedigol.
Mae'r gwasanaeth wedi ei ehangu gyda chyllideb gan Lywodraeth Cymru, i alluogi merched ar draws Gogledd Cymru i gael mynediad cyflymach at gymorth arbenigol.
Mae BIPBC hefyd yn cynnig hyfforddiant iechyd meddwl amenedigol i'w holl staff, a dyma'r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i sefydlu rhwydwaith o Bencampwyr Iechyd Meddwl Amenedigol, wedi ei chreu o staff sy'n gweithio yn y gwasanaethau sy'n dod i gyswllt â mamau newydd neu ferched beichiog.
Dywedodd Kelly Arnold, Arweinydd Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol: "Mae darparu cymorth amserol ac effeithiol i famau newydd a merched beichiog sy'n cael anhawster gyda'i iechyd meddwl yn gritigol nid yn unig ar gyfer eu hiechyd ei hunain, ond ar gyfer iechyd a lles hir dymor eu plant. Rydym yn gwybod bod y 1,001 diwrnod cyntaf - o'r beichiogrwydd hyd at ail ben-blwydd y plentyn - yn gyfnod critigol sy'n gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad deallus ac iechyd gydol oes unigolyn.
"Rydym yn gwasanaethu ardal fawr gyda thîm bach, felly drwy ddarparu hyfforddiant arbenigol i weithwyr proffesiynol iechyd eraill a recriwtio pencampwyr amenedigol, gallwn helpu i sicrhau bod merched sy'n profi anawsterau amenedigol yn cael eu cefnogi'n dda gan weithwyr proffesiynol iechyd y maent yn dod i gyswllt â nhw.
"Rydym eisiau i famau newydd a merched beichiog wybod ei bod yn iawn peidio bod yn iawn, ac os ydynt yn cael trafferth y gallant ofyn am gymorth gan unrhyw weithiwr proffesiynol iechyd."