Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth newydd a gefnogir gan feddyg ymgynghorol yn Wrecsam yn canfod bod anafiadau sydd wedi'u hachosi mewn damweiniau ceir yn amrywio yn ôl oedran a rhyw

30/06/2022

Mae'r dadansoddiad mwyaf o gleifion a anafwyd ac a oeddent yn gaeth mewn gwrthdrawiadau cerbydau modur yn datgelu gwahaniaethau pwysig yng nghyswllt oedran a rhyw, yn ogystal â chyfraddau marwolaethau uwch.

Datgelodd cyfres o astudiaethau a gynhaliwyd gan feddygon ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Plymouth (UHP), mewn cydweithrediad â chydweithwyr o sefydliadau eraill yn cynnwys Nyrs Ymgynghorol Rob Fenwick o Ysbyty Maelor Wrecsam, fod cleifion sy'n mynd yn gaeth pan fyddant mewn damwain car nid yn unig yn fwy tebygol o farw, ond hefyd bod gwahaniaethau sylweddol o ran yr anafiadau a gafwyd yn ôl oedran a rhyw.

Gwrthdrawiadau cerbydau modur (MVCs) yw'r ail achos mwyaf cyffredin o drawma mawr yn y DU. Yn fyd-eang, maen nhw’n achos arwyddocaol o forbidrwydd a marwoldeb, gan gyfrif am 1.35 miliwn o farwolaethau bob blwyddyn.

Dywedodd Mr Fenwick "Er gwaethaf gwelliannau mewn diogelwch ceir mae marwolaethau ac anabledd yn dilyn Gwrthdrawiadau Cerbydau Modur (MCV) yn dal yn gyffredin iawn yn anffodus. Fel tîm astudiaeth sydd i gyd wedi gweithio mewn lleoliadau cyn-ysbyty ac adrannau achosion brys, fe wnaethom ni gydnabod bod potensial enfawr i wella gofal cleifion ar gyfer y grŵp hwn.

“Dros y pum mlynedd ddiwethaf, rydym wedi canfod bod gwahaniaethau sylweddol yn y ffordd yr oeddem yn rhagdybio, neu wedi credu yn hanesyddol, yr anafir cleifion wedi MVC. Er enghraifft, mae’r strategaethau a ddefnyddir i symud cleifion o gerbydau wedi ffocysu ar eu symud cyn lleied â phosibl i osgoi gwaethygu anafiadau i asgwrn y cefn, ond mae hyn yn cael effaith enfawr ar yr amser y mae’n ei gymryd i gleifion gael eu rhyddhau a chan hynny yr amser y mae’n ei gymryd i dderbyn triniaeth a chael eu cludo i ofal diffiniol."

Derbyniodd yr Athro Tim Nutbeam, Meddyg Ymgynghorol Meddygaeth Frys o UHP ac awdur arweiniol cyfres o bapurau, mewn cyd-weithrediad â Mr Fenwick a chydweithwyr ar draws nifer o sefydliadau, gyllid ar gyfer yr ymchwil gan Ymddiriedolaeth Diogelwch y Ffyrdd.

Yn ôl canlyniadau’r papur cyntaf, mae gan gleifion sy'n gaeth ar ôl MVC anafiadau mwy difrifol ac maen nhw’n fwy tebygol o farw na'r rheiny nad ydynt yn gaeth. O'r 63,625 o achosion a astudiwyd, roedd bron 11% o'r cleifion yn gaeth yn eu cerbydau ar ôl y ddamwain.

Dangosodd yr ail bapur a gyhoeddwyd bod cleifion hŷn yn fwy tebygol o ddod yn gaeth yn eu ceir, ac yn arbennig, mae’r rheiny dros 80 oed yn fwy tebygol o farw os byddant yn gaeth. Er bod anafiadau i'r frest ac asgwrn y cefn yn fwy cyffredin mewn cleifion hŷn (gydag anafiadau i'r pen, abdomen a'r aelodau yn fwy cyffredin mewn cleifion iau), mae'r raddfa o anafiadau asgwrn cefn i bob grŵp oedran yn gyffredinol yn parhau i fod yn isel, sy’n cynnig tystiolaeth y gallai lleihau’r amser y maent wedi eu caethiwo helpu i leihau marwoldeb a gwella canlyniadau cleifion.

Ym mhapur terfynol y gyfres gychwynnol hon, mae'r canlyniadau yn dangos er bod dynion yn fwy tebygol o fod mewn damweiniau difrifol a chael eu cludo i'r ysbyty, bod merched yn cael eu caethiwo yn eu ceir yn amlach (16% o ferched yn erbyn 9% o ddynion). Mae'r rhesymau posibl dros hyn yn cynnwys bod merched yn fwy tebygol o eistedd yn agosach at y llyw, sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o ddod yn gaeth. Mae cleifion benywaidd hefyd yn dueddol ar lefel fiolegol o gael mathau penodol o anafiadau er enghraifft, mae gan ferched anatomi gwahanol o ran y pelfis sy’n gallu eu gwneud yn fwy tueddol o gael anafiadau i’r pelfis, a allai eu caethiwo yn eu cerbydau.

Mae'r papur hefyd yn cyflwyno achos bod y nodweddion diogelwch sydd i’w cael mewn ceir modern yn llai tebygol o fod yn effeithiol i ferched. Mae profion gorfodol damweiniau ceir ar hyn o bryd yn defnyddio model gwrywaidd llai o faint i gynrychioli merched ac nid ydynt wedi eu modelu i gyfrif am wahaniaethau anthropmetrig rhwng dynion a merched. Mae systemau diogelwch felly yn debygol o fod yn fwy effeithiol i ddynion nag ydynt i ferched.

Ychwanegodd Mr Fenwick: "At ei gilydd, rydym wir yn gobeithio y bydd y newidiadau mewn arweiniad gweithredol yn dechrau cael effaith bositif ar gleifion yn y dyfodol agos iawn; ac y bydd y gwahaniaethau amlwg mewn anafiadau (a chanlyniadau) i ryw ac oedran yn arwain at well ymwybyddiaeth i wneuthurwyr ceir ac yn grymuso peirianwyr diogelwch cerbydau i ganfod atebion."

Cyhoeddir ymchwil pellach yn ymwneud â thechnegau rhyddhau pobl sy’n gaeth ar ôl MVCs. Mae'r gwaith hwn hefyd wedi ei gyllido gan Ymddiriedolaeth Diogelwch y Ffyrdd, sy'n ymroddedig i sicrhau na fydd unrhyw farwolaethau ac anafiadau difrifol ar ffyrdd y DU.

Mae'r sefydliadau yn cynnwys GENDRO, Sefydliad Graddedigion Geneva. Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gwlad yr Haf, Prifysgol Cape Town a Phrifysgol Manceinion.