Mae clinigwyr ac ymchwilwyr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cymryd rhan mewn astudiaeth genedlaethol yn ymwneud ag effeithiau iechyd hirdymor COVID-19 i gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty gyda'r clefyd.
Mae Astudiaeth COVID-19 ar ôl Bod yn yr Ysbyty (PHOSP-COVID), yn cael ei chefnogi gan y Tîm Ymchwil yn y Bwrdd Iechyd trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Prif Ymchwilydd lleol yr astudiaeth yw Dr Ahmen Abou-Haggar a chaiff ei harwain gan Ganolfan Ymchwil Biofeddygol Leicester NIHR.
Yr astudiaeth yw'r mwyaf o'i bath i ymchwilio i iechyd pobl sydd wedi'u derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i COVID-19. Ei nod yw cael gwell dealltwriaeth am effeithiau hirdymor y firws er mwyn helpu i wella eu hadferiad.
Cafodd Rebecca Lloyd Lewis wybod bod COVID-19 arni yn ystod Ebrill 2020 ac roedd mor sâl nes bod angen iddi gael ei derbyn i Ysbyty Glan Clwyd.
Dywedodd: "Doeddwn i ddim yn poeni'n ormodol pan ddechreuais gael symptomau yn y lle cyntaf, a oedd yn cynnwys poen cefn a theimlo'n eithaf blinedig, yn bennaf.
"Fodd bynnag, sylwais fy mod i'n eithaf byr o wynt ac yn lluddedig ar ôl mynd am dro bach a thros ychydig ddiwrrnodau, dechreuais deimlo'n sâl iawn ac roedd gen i dymheredd uchel.
"Erbyn i mi gael fy nerbyn i'r ysbyty, roeddwn i'n hynod sâl, doeddwn i erioed wedi teimlo fel hyn o'r blaen. Roeddwn i yn yr ysbyty am bum niwrnod ar ôl cael diagnosis COVID gyda niwmonia, roedd yn bryderus iawn gan fy mod i'n heini ac yn iach fel arfer."
Mae Rebecca, sydd hefyd yn Rheolwr Ward yn Ysbyty Glan Clwyd, bellach yn rhan o'r astudiaeth i helpu ymchwilwyr i ddod o hyd i driniaethau er mwyn helpu eraill sydd wedi'u derbyn i'r ysbyty oherwydd y clefyd.
"Rydw i'n hynod falch o fod yn rhan o astudiaeth sy'n edrych ar yr effeithiau hirdymor y mae'r firws yn eu cael ar iechyd pobl.
"Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r effeithiau go iawn eto ac am ba hyd y byddan nhw gyda ni.
"Mae hefyd wedi fy helpu i gael mwy o sicrwydd bod y ffordd rydw i'n teimlo erbyn hyn yn normal, fel teimlo'n flinedig iawn, a bod eraill yn cael y symptomau hyn yn dilyn COVID.
"Rydw i'n meddwl ei bod yn astudiaeth bwysig iawn i fod yn rhan ohoni a bydd yn helpu llawer o bobl eraill sydd wedi'u heffeithio, yn anffodus, gan y firws hwn," ychwanegodd.
I lawer o bobl a dderbyniwyd i'r ysbyty ac sydd wedi cael eu rhyddhau ers hynny, nid yw'n amlwg eto beth fydd eu hanghenion meddygol, seicolegol ac adsefydlu er mwyn eu galluogi i gael adferiad mor llawn â phosibl.
Dywedodd Joanne Lewis, Arbenigwr Nyrsio Ymchwil Glinigol, sy'n rhan o dîm y Bwrdd Iechyd sydd wedi recriwtio 45 o bobl i gymryd rhan yn y treial hyd yma: "Rydym mor falch i fod yn rhan o'r astudiaeth genedlaethol bwysig hon ac rydym yn ddiolchgar i bob claf sy'n cymryd rhan.
"Bydd PHOSP-COVID yn ein helpu i ddeall mwy am y firws newydd hwn, fel pam mae rhai pobl yn cael adferiad arafach neu'n datblygu problemau iechyd eraill.
"Bydd hefyd yn ein helpu i asesu pa driniaethau sy'n cael eu rhoi yn yr ysbyty ac ar ôl i gleifion gael eu rhyddhau yw'r rhai mwyaf effeithiol yn y tymor hirach."
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Mae'n bwysig ein bod yn helpu i ddeall cymaint â phosibl am y firws a'r effaith y mae'n ei gael ar fywydau pobl, gan gynnwys effeithiau COVID hir. Mae Astudiaeth COVID-19 ar ôl Bod yn yr Ysbyty yn cael ei chynnal mewn pum bwrdd iechyd ar draws Cymru fel un o lawer o astudiaethau ymchwil COVID-19 sy'n cael eu cynnal.
"Gall ymchwil ein helpu i ddod o hyd i driniaethau a gofal effeithiol ar gyfer y rhai sy'n mynd yn sâl ac i gynorthwyo adferiad yn y tymor hwy."