Mae Cadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi diolch i bobl ar draws Gogledd Cymru am y rôl hanfodol maent wedi ei chwarae yn helpu'r GIG i ymdopi â'r argyfwng COVID-19.
Mae'r Cadeirydd, Mark Polin, a'r Prif Weithredwr Dros Dro, Simon Dean, wedi canmol ymateb y cyhoedd i arweiniad aros gartref Llywodraeth Cymru, sy'n gymorth i atal lledaeniad y firws yn llwyddiannus, achub bywydau, a sicrhau nad yw ysbytai’r rhanbarth yn cael eu gorlethu.
Ond wrth i Gymru baratoi ar gyfer wythnos wyth o'r cyfyngiadau symud, a gyda phenwythnos Gŵyl y Banc yn nesáu, maent wedi rhybuddio ei bod hi'n rhy gynnar i bobl roi'r gorau i ddilyn y canllawiau.
Dywedodd Mark Polin: "Ar ran ein holl staff sy'n gweithio mor galed i ymateb i achosion COVID-19, hoffwn ddiolch i bobl mewn cymunedau ar draws y rhanbarth sy'n dilyn yr arweiniad i aros gartref.
"Mae eich gweithredoedd a'ch aberthau, ynghyd â'r mesurau yr ydym eisoes wedi'u cymryd i gynyddu capasiti gwelyau yn ein hysbytai presennol, wedi sicrhau, er eu bod yn brysur, bod ein hysbytai wedi gallu ymdopi â'r gofynion ychwanegol a osodwyd arnom gan COVID-19 hyd yn hyn.
"Mae eich cymorth hefyd yn golygu nad oes angen defnyddio ein tri Ysbyty Enfys, sydd wedi eu sefydlu'n sydyn i'n helpu ni i gwrdd â'r ymchwydd enfawr yn y galw, am ychydig o wythnosau.
"Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn cael anhawster â'r cyfyngiadau symud, ond mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddilyn arweiniad y llywodraeth.
"Mae pob marwolaeth COVID-19 yn drasiedi sy'n cael effaith ddifrifol ar deuluoedd a chymunedau ar draws Gogledd Cymru. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod llawer o deuluoedd ledled y rhanbarth yn galaru ar hyn o bryd am anwyliaid sydd wedi colli eu bywydau i'r afiechyd.
"Gyda'n gilydd, a thrwy barhau i aros gartref, gallwn sicrhau bod cyn lleied o bobl â phosib yn profi'r torcalon hwn."
Mae'r Prif Weithredwr Dros Dro, Simon Dean, hefyd wedi rhoi teyrnged i waith staff y GIG a chydweithwyr o sefydliadau partner, sydd wedi bod yn cefnogi cleifion a'u teuluoedd drwy gydol y cyfnod anodd hwn.
Ers cyhoeddi'r pandemig yn ail wythnos mis Mawrth, mae 329 claf sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 wedi eu rhyddhau o ysbytai yng Ngogledd CYmru.
Dywedodd Simon Dean: "Rwy'n hynod falch o ymdrech ein staff a staff mewn sefydliadau partner, sydd wedi dangos gwytnwch a dyfeisgarwch enfawr dros yr wythnosau diwethaf. Mae cymaint o esiamplau ysbrydoledig o dimau'n mynd y filltir ychwanegol a thu hwnt i alwad dyletswydd er mwyn eu cleifion.
"Er ein bod wedi dod i arfer â'r addasiadau i'r ffordd yr ydym yn gweithio er mwyn bodloni her COVID-19, rydym hefyd nawr yn edrych ar sut y byddwn yn rheoli'r firws yn y dyfodol. Rydym yn adolygu'r data a'r wybodaeth sydd ar gael i ni'n weithredol fel ein bod yn gallu cynllunio cam nesaf ein hymateb.
"Ein neges i'r cyhoedd yw aros gartref, amddiffyn y GIG, ac achub bywydau."