Neidio i'r prif gynnwy

Arlunydd o ogledd Cymru'n datgelu sut y gwnaeth ei frwydr gudd gydag anorecsia ei adael fel 'hanner dyn'

28.02.23

Datgelodd un o arlunwyr tirwedd fwyaf Cymru sut y bu bron iddo golli ei fywyd o ganlyniad i’w frwydr gydag anorecsia.

Tros y tri degawd diwethaf, mae Iwan Gwyn Parry wedi sefydlu ei hun fel arlunydd arobryn, gyda’i waith wedi cael sylw ar y teledu cenedlaethol, ac mewn orielau yn Llundain, Caerdydd a Dulin.

Ond mae'r llwyddiant hwn wedi dod er gwaethaf byw, yn ddiarwybod i eraill, gydag anorecsia nerfosa, salwch meddwl difrifol sydd â'r gyfradd marwolaethau uchaf ymhlith pob salwch seiciatrig. Mae’r anhwylder bwyta yn achosi i bobl  gyfyngu ar faint o fwyd y maent yn ei fwyta ac i wneud cymaint o ymarfer corff â phosibl, er mwyn cyrraedd pwysau corff anarferol o isel.

Dywedodd y dyn 52 mlwydd oed ei fod wedi byw gan wadu difrifoldeb ei salwch am flynyddoedd, gan ei gadw oddi wrth ei ffrindiau a’i gydweithwyr.

Ym mis Hydref 2022, gan bwyso dim ond pum stôn a’i gorff yn frith o friwiau, aeth Iwan i’r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd a gofynnodd am help.

Bellach ar ‘daith hir i adferiad’, diolch i’r gefnogaeth barhaus gan Wasanaeth Anhwylderau Bwyta Oedolion Arbenigol (SAEDS) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a staff yr uned anhwylderau bwyta cleifion mewnol arbenigol, mae wedi penderfynu rhannu ei brofiad yn ddewr mewn ymgais i helpu eraill.

Gan siarad ar bodlediad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i dynnu sylw at Wythnos Anhwylderau Bwyta, lle mae’r ffocws ar anhwylderau bwyta mewn dynion, dywedodd yr arlunydd sydd wedi’i leoli ym Methesda:

“Rwy’n credu bod yna lawer o gyfnodau drwy gydol fy mywyd lle’r wyf wedi gwthio’r salwch i lawr a dweud ‘wel, rwy’n teimlo’n well heddiw felly gwnaf ei reoli heddiw’, ond mae’n rheoli ac yn dylanwadu ar bob penderfyniad yr ydych yn ei wneud yn nhermau bwyd, bywyd cymdeithasol a pherthnasau. Pan oedd yn rhaid i mi fynd i sefyllfa gymdeithasol a bwyta rhywbeth, roedd yn codi ofn mawr arnaf. Nid oeddwn yn gallu aros i fynd adref er mwyn cael chwydu. A phan oeddwn yn teimlo’n wag, roeddwn yn teimlo fel fi fy hun unwaith eto.”

Treuliodd Iwan dri degawd yn cuddio ei salwch oddi wrth ffrindiau a chydweithwyr, gan ofni y byddai’n cael ei stigmateiddio, neu y byddai camddealltwriaeth ynghylch ei gyflwr cymhleth.

Ym mis Hydref 2022, gwaethygodd cyflwr Iwan i’r pwynt lle’r oedd dim ond yn pwyso pum stôn, ac yn y cyfnod hwnnw mae’n disgrifio ei hun fel  ‘hanner dyn’.

“Roeddwn yn agos iawn at gael cyfarfod fy nghreawdwr. Un diwrnod, penderfynais gerdded i mewn i’r Adran Achosion Brys a dweud fy mod angen help a chefnogaeth. Deuthum i sylweddoli na allwn i barhau fel hyn - yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol nac yn ysbrydol. Nid oeddwn yn gallu gweithredu. Roeddwn wedi cael digon ac roedd yn gwneud fy mywyd yn gwbl anhylaw. Yn gorfforol, teimlwn fel fy mod wedi fy llethu, nid oedd unrhyw egni gennyf, roedd fy nghorff yn friwiau i gyd – nid oedd pethau’n dda o gwbl. Edrychais fel hanner dyn. Dyma ei effaith – mae’n dwyn y meddwl yn emosiynol ac yn ysbrydol ac wedyn rydych yn cael eich gadael gyda chragen wag. A dyna’r cyfan yr oeddwn i.”

Mae Iwan yn annog eraill sydd efallai’n cael trafferth gofyn am gymorth, gan ddisgrifio’r penderfyniad fel yr un orau a wnaeth erioed.

“Weithiau mewn bywyd ni allwch ei gwneud hi ar eich pen eich hun, a’r peth mwyaf allweddol yw ildio i’r ffaith honno a derbyn eich bod yn sâl. Mae cefnogaeth ar gael os ydych yn gofyn amdano.

“Mae staff y GIG sydd wedi fy nghefnogi yn bobl hynod ryfeddol ac angylaidd, sydd wedi fy achub rhag fi fy hun mewn gwirionedd. Gwnaethant rannu’r daith boenus i adferiad gyda mi. Mae’r GIG yn wasanaeth anhygoel, er gwaethaf ei anawsterau.

“Rydych yn teimlo’n noeth i ddechrau – yn gorfforol ac yn feddyliol. Ond nawr rwy’n teimlo fel fy mod wedi tyfu mewn statws, hyder a hunanbarch – ac rwy’n mwynhau bywyd unwaith eto.”

Gan edrych i’r dyfodol, dywed Iwan, er ei fod yn wynebu taith hir i adferiad, mae ganddo ‘angerdd tanllyd i fyw”.

“Rwy’n hapus. Nid wyf wedi bod yn hapus ers talwm. Nid oes yn rhaid i mi guddio, ffugio, gorchuddio na gwthio pethau i’r ochr. Efallai y gallaf fod y person a gollais dros y 15 mlynedd diwethaf.

“Mae taith hir o’m blaen ond mae’n daith hir at adferiad nid er gwaeth. Rwyf wedi bod ar hyd y llwybr hwnnw – rwyf wedi teithio arno, wedi syrthio arno, ond dim rhagor.”

Roedd Iwan yn siarad ar ‘Anorexia and Me’, pennod arbennig o bodlediad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn dioddef o anhwylder bwyta, ewch i wefan Beat Eating Disorders am gymorth a chyngor am ddim.

Efallai y bydd eich Meddyg Teulu hefyd yn eich atgyfeirio am ragor o gymorth arbenigol, os yw’n briodol. Mae pob atgyfeiriad yn cael eu sgrinio gan dîm iechyd meddwl BIPBC, a fydd yn ystyried p’un ai cymorth gan y Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta Oedolion Arbenigol, tîm iechyd meddwl, neu’r ddau, sydd fwyaf priodol.