Mae arddangosfa'n dangos gwaith celf o raglen therapi iechyd meddwl arloesol a gynhelir yng nghyffiniau Eryri wedi'i hagor yn Ysbyty Gwynedd.
Mae arddangosfa Crwydro yn cynnwys gwaith celf gan Manuela Niemetscheck, Artist a Seicotherapydd Celf a fu'n gweithio fel Ymarferydd Celf mewn Iechyd gyda Grŵp Therapi Celf Amgylcheddol Bwrdd Iechyd Betsi o 2017 hyd at 2018.
Yn seiliedig ar egwyddorion Therapi Celf Amgylcheddol, gwnaeth y sesiynau therapi grŵp bob pythefnos a gynhelir ar dir Fferm Moel y Ci ger Tregarth annog pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol i ailgysylltu â byd natur trwy gelf.
Nodwyd bod y rhaglen yn fodd o godi calon y sawl a oedd yn cymryd rhan, a gwnaeth un defnyddiwr gwasanaeth ddisgrifio sut roedd y cyfan yn "fodd o gael ychydig o oleuni" ynghanol teimladau o unigrwydd a thristwch.
Mae'r oriel wedi'i lleoli wrth brif fynedfa'r ysbyty ac mae ar gael i holl ymwelwyr a staff yr ysbyty i'w mwynhau. Mae'n cynnwys ystod o waith celf sy'n ymdrin â "proses bod ar daith a chynnig ymdeimlad o le yn yr awyr agored".
Dywedodd Pamela Stanley, Seicotherapydd Celf a Therapydd Celf Amgylcheddol a fu'n gweithio ochr yn ochr â Manuela ar y rhaglen:
“Mae arfer therapi celf amgylcheddol yn symud y ffiniau o'r ystafell therapi celf i weithio'n greadigol yn yr amgylchfyd naturiol. Roedd sesiynau'n cynnwys prosesau gwaith celf creadigol, adrodd straeon, defodau, chwedlau Cymru ac roeddent yn defnyddio'r symbolaeth a'r trosiadau a oedd i'w cael mor amlwg yn yr amgylchfyd naturiol.
“Roedd sesiynau wedi'u seilio ar y calendar Celtaidd a chylch coed, yn dilyn y cylch tymhorol blynyddol a meithrin cysylltiad dwfn â natur gan ddefnyddio ymagwedd i symbylu'r galon a'r synhwyrau."
Cafodd y prosiect ei greu gan Raglen Celf mewn Iechyd a Lles BIPBC gyda chymorth rhaglen Ffynnon Greadigol a chafodd gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd yr arddangosfa'n parhau i fod yn Ysbyty Gwynedd tan fis Medi 2019.