Neidio i'r prif gynnwy

Arddangosfa drawiadol yn Ysbyty Gwynedd i ddangos parch tuag at ein gweithwyr y GIG

Diolchwyd i staff sy’n achub bywydau  yn Ysbyty Gwynedd am eu hymdrechion i ymdrin â COVID-19 gyda dathliad lliwgar.

Gwnaethpwyd yr arddangosiad goleuadau trawiadol yn bosibl diolch i ferch busnes lleol, Hayley Meek,  perchennog Gwesty Waverley ym Mangor.

Dymuna Hayley ddiolch i’r staff yn yr ysbyty ac fe gysylltodd â Chwmni rheoli digwyddiad technegol lleol, MAD Sound and Lighting, i greu arddangosiad i gyd-fynd â’r digwyddiad wythnosol “Clapio er budd Gofalwyr”.

Dywedodd Hayley: “Roeddwn eisiau trefnu rhywbeth arbennig ar gyfer Ysbyty Gwynedd, mae’r staff yn wych yno ac roeddwn eisiau dangos fy mharch a fy ngwerthfawrogiad iddynt, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn.

“Rydym yn lwcus iawn o gael ysbyty fel Ysbyty Gwynedd, mae’r gofal a’r driniaeth a roddir i gleifion gan y staff gwych yn amhrisiadwy.

“Hoffwn ddiolch i MAD Sound and Lighting am arddangosiad mor hyfryd – roedd wir yn eiliad hudolus.

“Nod yr arddangosiad oedd dod â gwên i wynebau pobl a dod â llawenydd i ddiwrnodau staff y GIG sy’n gweithio mor galed yn ystod y cyfnod heriol hwn.”

Dywedodd Meinir Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Ysbyty Gwynedd: “Roedd hyn wir yn eiliad hyfryd ac yn deyrnged addas i’r staff yn yr ysbyty, ein cydweithwyr yn y gwasanaethau brys a’n timau ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y pandemig hwn.

“Yn ystod amgylchiadau mor anodd, a phan mae ein staff yn gweithio’n ddiflino yn yr amgylchiadau fwyaf anghyffredin, mae cefnogaeth a charedigrwydd ein cymunedau wedi bod yn galonogol.

“Rwyf eisiau diolch yn fawr i’r busnesau, grwpiau cymuned ac unigolion sydd wedi ein cefnogi gymaint yn ystod y cyfnod hwn. Mae eich cefnogaeth wedi ein helpu i ddal ati drwy’r adeg anodd hon.”

Mae Hayley yn awr yn cynllunio i ddechrau codi arian i Ysbyty Gwynedd, fe allwch roi cyfraniad yma: https://www.justgiving.com/fundraising/hayley-meek3