Mae meddygon yn Ysbyty Gwynedd yn profi ap ffôn clyfar fel rhan o dreial clinigol i helpu cleifion i aros mor ddiogel ag sy'n bosib yn ystod eu triniaeth cemotherapi.
Mae cleifion sydd wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y treial 'Fy Nghadw’n Ddiogel' yn defnyddio'r ap i'w helpu i gymryd y camau cywir petai cymhlethdodau yn codi yn ystod eu triniaeth.
Gall yr ap dwyieithog a gynlluniwyd gan Galactig, asiantaeth ddigidol o Gaernarfon, gael ei rannu â phartner, gofalwr neu ffrind y claf sy’n gallu cefnogi eu diogelwch yn weithredol wrth iddynt gael triniaeth.
Mae Glynnis Gaines, o Landudno, sydd yn cael cemotherapi ar hyn o bryd ar ôl cael diagnosis o ganser yn defnyddio'r ap gyda'i gŵr, Alan.
Dywedodd: "Pan ofynnwyd i mi os oeddwn eisiau cymryd rhan yn y treial nid oeddwn yn rhy siŵr i ddechrau gan nad wyf yn dda iawn gyda thechnoleg!
“Nid oeddwn yn disgwyl i'r ap fod mor hawdd ei ddefnyddio ac mae'n wych bod fy ngŵr yn gallu cael yr ap ar ei ffôn hefyd. Mae'n gallu gwneud yn siŵr fy mod yn ei ddefnyddio bob dydd i gofnodi sut wyf yn teimlo sydd wir yn rhoi sicrwydd i mi yn ystod fy nhriniaeth."
Mae'n gofyn i gleifion ateb nifer penodol o gwestiynau trwy'r ap bob dydd, pethau fel os ydynt yn teimlo'n fyr o wynt neu os oes ganddynt boen yn eu brest, ac mae'r 'bydi' maen nhw wedi'u dewis yn cael rhybudd i roi gwybod iddyn nhw fod y pethau hynny wedi cael eu cofnodi.
Cynlluniwyd yr ap gan Derick Murdoch, o Galactig, a ddatblygodd yr ap i helpu ei fam a oedd yn cael cemotherapi.
Dywedodd: "Ychydig ar ôl i fy mam gael diagnosis o ganser, fe wnaethon ni ddechrau gweithio ar yr ap.
"Yn ystod y gwaith datblygu roeddwn yn gallu defnyddio un o'i brif gysyniadau - sef mai 'rhwydwaith ydy diogelwch cleifion'.
"Roedd gwneud rhestr wirio o bell yn fy ngalluogi i gymryd rhan yng ngofal fy mam er ei bod hi gannoedd o filltiroedd i ffwrdd."
Dywedodd Dr Anna Mullard, Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol ar Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd, ei bod wedi cael adborth cadarnhaol gan y cleifion sydd wedi cymryd rhan yn y treial hyd yn hyn.
Dywedodd: "Yma ar Ward Alaw rydym yn cymryd rhan mewn nifer o dreialon clinigol, a bydd rhai ohonynt yn cael eu rhoi ar waith mewn arfer cyffredinol ac eraill ddim gan ddibynnu ar ganlyniad yr astudiaeth.
"Hyd yn hyn mae'r treial hwn yn cynnig yr ap i 50 claf ar hyn o bryd ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan y rheini sy'n ei ddefnyddio.
"Mae'r ap yn helpu i adnabod os oes angen cymorth ar gleifion os byddan nhw'n cael unrhyw gymhlethdodau gyda'r cemotherapi, rhywbeth sy'n digwydd i lawer o gleifion.
"Mae ffrindiau a theulu yn aml yn gallu adnabod pan na fydd eu hanwyliaid yn teimlo fel nhw eu hunain a gall yr ap hwn eu helpu i wybod pryd dylid gofyn am gymorth a dod i'r ysbyty.
"Mae'r astudiaeth 'Fy Nghadw’n Ddiogel' yn rhoi cyfle i ni archwilio a fydd y math hwn o dechnoleg o fudd i gleifion a'u gofalwyr."
Mae Dr Chris Subbe, Meddyg Ymgynghorol ac Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Meddygaeth Lem a Gofal Critigol yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi bod yn unigolyn allweddol o ran gyrru technoleg newydd i ofal iechyd yn Ysbyty Gwynedd hefyd yn rhan o'r astudiaeth.
Dywedodd Dr Subbe, Prif Ymchwilydd yr astudiaeth: "Gall triniaethau canser godi ofn a bydd gan lawer ohonynt ychydig o sgil effeithiau.
"Mae'n arfer cyffredin yn barod i feddygon a nyrsys wirio sgil effeithiau triniaethau canser gyda chleifion ond mae ymchwilwyr yn Uned Alaw yn awr yn ehangu hyn i alluogi cleifion a'u gofalwyr i fod yn fwy ymwybodol o'r sgil effeithiau posib pan fyddant gartref.
"Mae gan dechnoleg rôl gynyddol mewn gofal iechyd ac mae'r ap hwn yn ein helpu ni i gydweithio â chleifion i geisio'u cadw'n fwy diogel yn ystod eu triniaeth."
Yr oedd modd creu'r ap drwy gyllid gan Gofal Canser Tenovus sy'n falch o glywed bod cleifion yn ymateb yn dda i'r astudiaeth.
Dywedodd Dr Tim Banks, Pennaeth Ymchwil Gofal Canser Tenovus: "Trwy'r ymchwil rydym yn ei ariannu rydym yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o roi diagnosis o ganser, ffyrdd gwell o'i drin, ac i wneud bywyd yn haws i bobl sy'n byw â chanser heddiw.
"Rydym yn falch iawn o glywed adborth mor gadarnhaol yn barod am yr ap ‘Fy Nghadw’n Ddiogel' ac yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau'n llawn ar ôl cwblhau'r ymchwil."
Er mwyn dathlu'r astudiaeth hon cynhelir digwyddiad gyda chleifion, teuluoedd, ymchwilwyr a chwmnïau technoleg yn Neuadd Reichel ym Mangor ar 23 Mai a 24 Mai.
"Rydym wir yn edrych ymlaen at y digwyddiad y mis hwn, ac un o sêr y rhaglen yw Elin Haf Davies, cyn-nyrs paediatrig sydd wedi rhwyfo ar draws yr Iwerydd ac wedi sefydlu ei chwmni ei hun sy'n helpu ymchwil ar gyfer cleifion â chyflyrau prin," ychwanegodd Dr Subbe.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad ac i gael eich tocynnau ewch ar : <https://www.eventbrite.co.uk/e/patient-powered-safety-understanding-challenges-designing-better-care-tickets-53515870409>