Neidio i'r prif gynnwy

Ansawdd bywyd dyn o Dreffynnon wedi ei adfer yn dilyn llawdriniaeth fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae beiciwr a heiciwr brwd nad oedd yn gallu cerdded mwyach oherwydd salwch gwanychol yn ôl ar ei draed yn dilyn llawdriniaeth fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae dyn o Dreffynnon, David Pearson, yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth adlunio ar aorta abdomen wedi ei rwystro.

Roedd David, sy'n byw gyda gorbryder difrifol yn dilyn marwolaeth ei wraig, Paula, saith mlynedd yn ôl, yn ymdopi ag effeithiau cloffni ysbeidiol, sef poen yn y cyhyrau a achosir gan ddiffyg llif gwaed oherwydd bod rhydwelïau sydd eu rhwystro.

Erbyn cyfnod ei lawdriniaeth, roedd llif gwaed i goesau David wedi ei rwystro'n ddifrifol gan achosi poen mawr ac anhawster cerdded.

Cafodd ei drin yn Ysbyty Glan Clwyd ar 7 Awst eleni, gyda llawdriniaethau fasgwlaidd yn parhau i gael eu cynnal er gwaethaf effaith COVID-19.

Treuliodd wythnos ar ITU yn dilyn y llawdriniaeth, a bellach mae'n gwella gartref.

Dywedodd David: "Rwyf wedi bod yn gerddwr a beiciwr brwd erioed.  Sylwais wrth fynd â fy nghŵn am dro ei bod hi'n dechrau teimlo'n anghyfforddus ac yn waith caled i gerdded.

"O fewn munud o ddechrau'r daith roeddwn yn teimlo fel fy mod i'n cerdded drwy fwd, dechreuais deimlo fferdod llwyr ar ben fy nghoes i'r pwynt ble nad oeddwn i'n teimlo dim byd o gwbl.

"Roedd yn rhaid i mi sefyll am gwpl o funudau i aros i'r symptomau ddod i ben, ac yna roedd y pellter y gallwn ei gerdded cyn iddo ddigwydd eto'n byrhau a byrhau.

"Yn y diwedd, roedd hi'n anodd cerdded ar draws maes parcio'r archfarchnad, neu hyd yn oed y maes parcio Ysbyty Glan Clwyd.  I rywun sy'n 47 mlwydd oed ac yn ffit ac iach fel arall, roedd yn fy ninistrio ac roedd yn cael effaith ofnadwy ar fy iechyd meddwl.

"Mae gen i iselder a gorbryder difrifol, ac mae wardiau ysbyty'n lle anodd ble byddwch yn neidio ar ôl clywed pob sŵn a blîp.

"Daeth fy iselder a fy ngorbryder yn sgil galar difrifol ar ôl colli fy ngwraig ddewr, Paula, i ganser prin saith mlynedd yn ôl, ac felly roeddwn yn ei chael hi'n anodd dychwelyd i ysbyty gan ei fod yn dod â chymaint o atgofion anodd yn ôl sydd wedi bod yn rhan o fy ngorbryder ac iselder.

"Ond roedd y tîm a oedd yn gweithio yn yr ITU yn allweddol nid yn unig wrth reoli'r gofal ôl-lawdriniaeth ond fy iechyd meddwl hefyd.  Maent yn gwneud gwaith godidog."

Digwyddodd llawdriniaeth chwe-awr David yn theatr hybrid yr ysbyty, a agorodd y llynedd fel rhan o’r crynhoad o driniaethau fasgwlaidd cymhleth yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae'r theatr hybrid yn caniatáu i Radiolegwyr Ymyriadol a Llawfeddygon Fasgwlaidd weithio gyda'i gilydd i berfformio llawdriniaethau agored, traddodiadol a thriniaethau endofasgwlaidd lleiaf ymledol ar yr un claf, ar yr un pryd, yn yr un lle.

Mr Aidas Raudonaitis, a oedd yn rhan o dîm o lawfeddygon fasgwlaidd a gyflogwyd gan y Bwrdd Iechyd i ddarparu'r gwasanaeth diwygiedig, a berfformiodd y llawdriniaeth.

Dywedodd David: "Rwy'n byw ar fy mhen fy hun ac rwy'n dibynnu ar allu cynnal fy hun, felly ni allaf ddiolch digon i Mr Raudonaitis am ei waith.

"Roedd gen i ofn y byddai ail don COVID-19 yn cau'r drws hwnnw o gyfle i mi, felly neidiais ar y cyfle i gael y llawdriniaeth.  O fewn wythnos, clywais fod cyfle o gynnal y llawdriniaeth, felly es i i'r ysbyty ar ddydd Gwener 7 Awst.

"Yn amlwg, roedd gen i ofn, fel byddai gan unrhyw unigolyn arall, gyda'r gorbryder yr wyf yn dioddef ohono, ond roedd y nyrs yn yr Adran Diwrnod Llawdriniaeth yn wych a thawelodd fy meddwl. 

"Y peth nesaf yr wyf yn ei gofio yw cyrraedd yr ITU a chael nyrs a oedd yn rhoi gofal un-i-un i mi, mwy neu lai, wedi ei dyrannu i mi.

"Mae eu gallu i dawelu eich meddwl yn arbennig.  Roedden nhw i gyd mor ddoniol a chynnes, roeddwn i'n poeni y bydden nhw'n gwneud i mi rwygo fy mhwythau ar brydiau, cymaint yr oeddwn yn chwerthin.

"Roeddent yn gwneud i mi deimlo fel fy mod i'n rhan o'r teulu.  Roedd yr holl dîm ar y ward yn wych.  Nid oedd ots pa amser o'r dydd yr oedd hi neu pa mor ddibwys oedd eich mater, roeddent bob amser yn gofalu am sut roeddwn i'n teimlo neu beth oeddwn ei angen arnaf."

Mae David yn parhau i wella, ac yn anelu i fod yn ôl ar ben Moel Famau cyn gynted ag y mae'n teimlo'n ddigon da.

"Bydd yn cymryd amser i mi wella'n llwyr, ond rwyf wedi fy mhlesio gyda pha mor gyflym rwy'n ymddangos i fod yn gwella.

“Fy nod nawr yw gallu mynd â fy nghŵn am dro fel yr addewais i fy ngwraig y byddwn i, a cherdded Moel Famau cyn gynted â phosib. Rwy'n meddwl bod y diwrnod hwnnw ar ei ffordd, ac rwy'n edrych ymlaen ato."

“Hoffwn ddiolch i bawb yn yr ITU, rydw i mewn dyled am eu gofal am byth.  Mae'r un peth yn wir am Mr Raudonaitis a'r tîm fasgwlaidd hefyd, a fy meddyg teulu Dr Bala am fy nghyfeirio, fyddwn i ddim yma oni bai am ei ofal a'i dosturi.

"Hoffwn bwysleisio i unrhyw glaf sy'n nerfus ac ofnus am fynd i'r ysbyty neu am gael llawdriniaeth fawr, i beidio â gohirio'r llawdriniaeth. 

"Siaradwch â'ch Meddyg Teulu, eich tîm llawfeddygol, a staff cymorth, fel y gallwn helpu i ddarparu'r cymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch i baratoi am eich triniaeth a'ch llawdriniaeth a pheidio bod ofn unrhyw adferiad sy'n gofyn am fod ar yr uned gofal dwys oherwydd mae o'r radd flaenaf, mae popeth sydd ei angen arnoch yno."