Ar hyn o bryd, mae galw digynsail ar draws y system iechyd a gofal cyfan ar draws Gogledd Cymru.
Mae hyn oherwydd cynnydd sylweddol yn achosion COVID-19 ar draws y rhanbarth, sy'n arwain at fwy o gleifion sydd â'r firws yn ein hysbytai, cynnydd mewn absenoldeb staff ac mae anhawster yn ymwneud â rhyddhau cleifion sy'n iach ar lefel feddygol o'r ysbyty'n arwain at brinder mawr o welyau.
Efallai y bydd perthnasau anwyliaid ar draws yr ysbytai sydd wedi cael eu hasesu i fod yn ddigon iach i fynd adref, ond sy'n aros i gael eu rhyddhau gyda gofal cartref a chymorth iechyd yn y gymuned, yn gallu eu helpu i sicrhau eu bod yn dychwelyd adref yn gyflymach os ydynt hwy neu eu teuluoedd mewn sefyllfa i roi cymorth iddynt gartref.
Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Darpariaeth Glinigol Integredig: "Mae treulio cyn lleied o amser â phosibl yn yr ysbyty'n well i gleifion ac mae'n golygu bod modd rhyddhau gwelyau'r GIG i eraill sydd ag anghenion gofal brys. Mae rhoi cymorth i gleifion hŷn gael mynd adref o'r ysbyty'n effeithlon yn rhan bwysig o'u hadferiad ac mae hefyd yn eu hamddiffyn rhag y canlyniadau negyddol sydd ynghlwm wrth gael eu derbyn i'r ysbyty, fel heintiau a ddelir yn yr ysbyty, codymau a cholli annibyniaeth.
"Os teimlwch eich bod yn gallu hwyluso rhyddhau o'r ysbyty i'ch anwylyn, siaradwch â rheolwr y ward neu'ch gweithiwr cymdeithasol i ystyried hyn ymhellach."
Er mwyn helpu i leddfu pwysau ar y gwasanaethau brys dros y penwythnos prysur, mae meddygon, parafeddygon a nyrsys yn annog pobl i ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion iechyd.
Mae staff y Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn atgoffa pobl i wneud y dewis cywir pan fo angen cyngor neu gymorth iechyd - trwy ddefnyddio GIG 111 Cymru neu drwy ymweld â fferyllfa gymunedol.
Dywedodd Dr Richard Griffiths, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys yn Ysbyty Gwynedd: "Y ffordd orau y gall y cyhoedd helpu staff y rheng flaen, a sicrhau bod modd iddynt hwy a'u teuluoedd gael eu gweld yn gyflym, yw defnyddio gwasanaethau iechyd eraill yn ein cymuned ac i ddefnyddio ein Hadrannau Achosion Brys ar gyfer cyflyrau difrifol neu sy'n bygwth bywyd yn unig.
"Os byddwch yn dechrau teimlo'n sâl ac nad yw'n achos brys, ewch i wefan GIG 111 Cymru i gael cyngor a gwybodaeth iechyd yn rhad ac am ddim neu ewch i'ch fferyllfa leol. Ar gyfer pryderon brys, gall pobl gysylltu â'n gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau trwy ffonio 111."
Dywedodd Dave Massey, sy'n barafeddyg yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae gwyliau banc bob amser yn adeg brysur i'r gwasanaeth ambiwlans, yn enwedig penwythnos y Pasg pan fydd mwy o bobl yn tueddu i gymdeithasu â ffrindiau a'r teulu, sy'n gallu arwain at fwy o bobl yn mynd yn sâl neu'n cael eu hanafu.
"Mae hyn yn rhoi hyd yn oed fwy o straen ar ein gwasanaeth, felly rydym yn gofyn i bobl ofalu amdanynt hwy eu hunain ac eraill ac i ystyried yn ofalus p'un a yw ambiwlans yn briodol ar gyfer eu hanghenion.
"Mae ystod lawn o opsiynau ar gael i chi, gan gynnwys gwefan GIG 111 Cymru, a ddylai fod yn fan cychwyn cyntaf am gyngor a gwybodaeth am iechyd.
"Rydym am sicrhau ei fod yn benwythnos y bydd pobl yn ei gofio am y rhesymau cywir ac, yn bwysicach na hynny, bod ein criwiau ambiwlans yno ar gyfer y rhai sydd â'r angen mwyaf amdanynt, felly gofynnwn i chi fwynhau dathliadau'r Pasg mewn modd cyfrifol."
Dylai GIG 111 Cymru ar-lein fod yn fan cychwyn cyntaf. Ar gyfer y sawl sydd â phryderon brys neu lle bo angen gofal deintyddol brys; gall gwasanaeth ffôn 111 roi arweiniad i helpu pobl i ddewis y gwasanaeth iechyd cywir i ddiwallu eu hanghenion unigol orau - ac er mwyn sicrhau bod gwasanaethau brys yno ar gyfer y rhai sydd â'r angen mwyaf amdanynt. Mae rhagor o fanylion ar gael yma
Gall fferyllydd lleol gynnig cyngor, cymorth a thriniaeth yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin a darparu meddygaeth frys heb yr angen i drefnu apwyntiad. Mae amseroedd agor ar gyfer fferyllfeydd ar draws Gogledd Cymru dros benwythnos y Pasg ar gael yma
Mae Unedau Mân Anafiadau (MIU) wedi'u lleoli ar draws Gogledd Cymru a gallant drin anafiadau nad ydynt yn gritigol nac yn bygwth bywyd. Fel arfer, maent yn cynnig amseroedd aros byrrach o lawer o gymharu â gwasanaethau eraill sy'n gorfod blaenoriaethu'r cleifion sydd â'r anafiadau mwyaf difrifol lle bod angen gofal brys. Dewch o hyd i'ch Uned Mân Anafiadau agosaf yma
Am ragor o fanylion, ewch i: Gwasanaethau Iechyd Lleol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales)