Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a chymorth i Dadau a Phartneriaid

Gall hon fod yn adeg ofidus iawn i chi hefyd. Mae'n rhesymol y gallech fod yn poeni am eich partner a'ch babi, ac yn gweld bod y cyfyngiadau symud yn anodd.

Efallai y byddwch wedi gweld newid o ran y ffordd y caiff gwasanaethau mamolaeth eu cynnig, a allai fod yn heriol i chi. Mae'n bwysig cofio na fydd y cyfnod hwn yn para am byth, ond trwy aros gartref, rydych yn amddiffyn chi'ch hun, eich partner a'ch babi newydd.

Mae hefyd yn bwysig i chi ofalu am eich lles meddyliol. Er y deellir bod rhai mamau'n cael iselder, gofid a phroblemau iechyd meddwl eraill yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni, yr hyn na sonnir amdano gymaint yw bod tadau a'u partneriaid yn gallu cael problemau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn hefyd.

Os ydych yn gweld pethau'n anodd ar hyn o bryd neu os ydych yn poeni am eich iechyd meddwl, siaradwch â'ch meddyg teulu. Gall siarad â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo a rhannu eich pryderon gydag ef helpu hefyd i wneud gwahaniaeth mawr.