Mae mamau newydd a darpar famau sy'n cael anawsterau gyda'u hiechyd meddwl yn cael eu hatgoffa bod cymorth yn dal i fod ar gael yn ystod argyfwng COVID-19.
Er mwyn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl Mamau (4 - 10 Mai), mae staff o wasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn annog merched ar draws y rhanbarth i beidio ag oedi cyn cysylltu â'u bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu os ydynt yn cael problemau iechyd meddwl.
Mae Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda'r gweithwyr iechyd proffesiynol hyn i roi cymorth i ferched sy'n cael problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd a'r flwyddyn ar ôl genedigaeth.
Mae ymchwil yn dangos bod risg merched o ddatblygu salwch meddwl yn uwch o lawer ar ôl genedigaeth. Bydd hyd at 20% o ferched yn datblygu problem iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd o fewn blwyddyn o roi genedigaeth, tra bydd saith ym mhob deg o ferched yn ceisio peidio â dangos eu salwch neu'n cuddio difrifoldeb eu salwch meddwl amenedigol.
Gall y salwch hwn gynnwys iselder cyn geni; iselder ar ôl geni; gofid; anhwylder gorfodaeth obsesiynol; seicosis ar ôl geni ac anhwylder straen wedi trawma.
Dywedodd Kelly Arnold, Arweinydd Dros Dro'r Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol: “Ein neges i famau newydd a darpar famau yw ei bod yn iawn i beidio bod yn iawn; mae'n iawn dweud nad ydych yn iawn; ac mae'n iawn i ofyn am gymorth ac i'w dderbyn.
"Rydym am i famau newydd a darpar famau wybod ei bod yn eithaf cyffredin cael anhawster gyda phroblemau iechyd meddwl a gall rhannu sut maent yn teimlo gyda'u hymwelydd iechyd, meddyg teulu neu unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol sydd ynghlwm wrth eu gofal fod yn gam cyntaf o ran cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
“Mae'n debygol y bydd mamau newydd a darpar famau'n teimlo'n fwy pryderus a gofidus nag arfer oherwydd pandemig COVID-19.
“Mae'n bwysig cofio, er gwaethaf argyfwng COVID-19, bod cyngor a chymorth yn dal i fod ar gael. Rydym am i ferched wybod nad ydynt ar eu pennau eu hunain, ac os byddant yn poeni am eu hiechyd meddwl neu os ydynt wedi bod yn teimlo'n arbennig neu'n anarferol o drist, pryderus neu ofidus, yn enwedig os yw hynny wedi parhau am bythefnos neu fwy, y dylent siarad â'u bydwraig, eu hymwelydd iechyd neu eu meddyg teulu.
“Gall y gweithwyr iechyd proffesiynol hyn eich cyfeirio at wasanaethau cymorth lleol ac efallai hefyd y byddwch yn elwa ar gymorth ychwanegol gan eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu Dîm Iechyd Meddwl Amenedigol Arbenigol.
Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn atgoffa pobl bod cyngor cyfrinachol a chymorth emosiynol ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod o'r wythnos gan y Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL i Gymru.
Ffoniwch yn Rhadffôn: 0800 132 737
Neu anfonwch neges destun yn cynnwys y gair 'HELP' i: 81066
Mae'n iawn i ofyn am gymorth ac i'w dderbyn os nad ydych yn teimlo'n iawn: