Neidio i'r prif gynnwy

Angen gwirfoddolwyr ar gyfer astudiaeth cymharu pedwaredd ddôs atgyfnerthu brechlyn COFID-19

04/03/2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil i'r defnydd o frechlyn COFID-19 sydd yn targedu'r amrywiolyn Omicron pan roddir y bedwaredd ddôs. 

Mae’r astudiaeth hon, a gynhelir yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn cael ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar ran GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y safle, ac fe’i noddir gan Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Athrofaol Southampton. 

Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i fod yn rhan o'r astudiaeth os ydych: 

  • Yn 30 oed neu hŷn 
  • Wedi derbyn Pfizer neu Moderna fel eich trydedd ddôs atgyfnerthu o leiaf 3 mis (84 diwrnod) yn ôl 
  • Heb brofi'n bositif ar gyfer COFID-19 mewn prawf PCR, llif unffordd, na phoer 

Bydd tïm yr astudiaeth yn talu hyd at £225 am eich amser, anhwylustod a chostau teithio (yn ddibynnol ar nifer yr ymweliadau y byddwch yn eu gwneud). 

Dywedodd Dr Orod Osanlou, Prif Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac astudiaeth COV-Boost ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, “Rydym yn hapus iawn i fod yn cynnal yr is-astudiaeth hon yn Wrecsam a fydd yn rhoi pedwerydd dos o frechlyn COVID-19 i bobl a fydd yn targedu'r amrywiolyn Omicron yn benodol. Ar hyn o bryd yr amrywiolyn Omicron yw'r amrywiolyn mwyaf cyffredin o'r firws sy'n achosi COVID-19 yn y DU, ac mae'n fwy abl i osgoi'r ymateb imiwn a gynhyrchir gan frechlynnau cyfredol nag amrywiolion blaenorol. Bydd yr astudiaeth hon yn ein helpu i ddarganfod y proffil sgîl-effeithiau a'r ymateb imiwn gyda'r brechlyn hwn sy'n benodol i'r amrywiolyn Omicron”. 

Bydd yn ofynnol i gyfranogwyr fynychu sesiwn sgrinio a brechu, gyda phedwar ymweliad yn dilyn ar gyfer profion gwaed. Gofynnir i gyfranogwyr hefyd gadw e-Ddyddiadur o unrhyw symtomau yn dilyn y frechiad. Bydd yr astudiaeth gyfan yn cymryd hyd at 8 mis. 

Os oes gennych ddiddordeb ac am gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr astudiaeth lle gallwch hefyd gwblhau'r holiadur cyn-sgrinio i weld os ydych yn gymwys.