Mae dyn o Landdeiniolen a dderbyniodd driniaeth achub bywyd ar Uned Gofal Dwys (ICU) Ysbyty Gwynedd wedi diolch i staff am y gofal 'anhygoel'.
Daeth Kevin Spice yn ddifrifol wael ar ôl derbyn diagnosis Myasthenia Gravis, sef cyflwr hirdymor anghyffredin sy'n achosi gwendid yn y cyhyrau.
Treuliodd Kevin saith mis yn Uned Gofal Dwys (ICU) Ysbyty Gwynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth y staff a'i deulu gadw dyddiadur sydd wedi'i helpu gydag effeithiau colli'r cof yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty.
Mae dyddiaduron ICU yn cael eu hysgrifennu mewn iaith bob dydd ac maent yn cynnwys cofnodion dyddiol ar gyfer y claf. Caiff y dyddiadur ei roi i'r claf ar ôl iddo gael ei ryddhau o ICU i fynd ag o adref i'w ddarllen wrth ei bwysau ei hun er mwyn deall yr hyn sydd wedi digwydd yn yr ysbyty os bydd yn awyddus i wneud hynny.
Dywedodd: “Mae'r cyflwr sydd gen i'n anghyffredin iawn a phan oedd ar ei waethaf, roedd yn frawychus iawn.
“Pan gefais fy nerbyn i ICU, nid oeddwn i wedi sylweddoli pa mor ddifrifol oedd y cyfan ac efallai na fyddwn i'n cael mynd adref byth eto.
“Roeddwn i'n ei chael hi'n anodd anadlu a oedd yn ei gwneud hi'n amhosibl llyncu gan fod fy nghyhyrau'n hynod wan.
“Nid oedd yn adferiad hawdd o gwbl, roedd yn gyfnod helbulus, un munud roeddwn yn gwella ond mwyaf sydyn, byddwn i'n cymryd dau gam yn ôl eto.
“Rydw i'n ddiolchgar iawn bod y staff wedi cadw dyddiadur i mi yn ystod fy arhosiad. Mae wedi bod yn hynod werthfawr i mi ac mae wedi fy ngalluogi i ddeall fy mhrofiad o ofal dwys.
“Tua diwedd fy nghyfnod yn yr ysbyty, es i ati hefyd i greu dyddiadur lluniau o'r holl bobl a roddodd driniaeth i mi, bu dros 90 o bobl yn gyfrifol am fy ngofal ar ICU, sy'n anhygoel, a gwnaeth fy helpu i sylweddoli faint o arbenigwyr gwahanol sy'n gysylltiedig â gofal dwys.
“Yn ogystal â staff ICU, roedd ffisiotherapyddion, therapyddion iaith a lleferydd, fferyllwyr, meddygon ymgynghorol resbiradol a niwrolegwyr hefyd yn cyflawni rôl hollbwysig yn fy adferiad. Alla' i fyth diolch iddyn nhw ddigon - pan oeddwn i'n teimlo'n fodlon, bydden nhw'n chwerthin gyda mi a phan oeddwn i'n teimlo'n isel, roedden nhw yno bob amser i ddal fy llaw."
Dywedodd Sharon Jones, sy'n glerc ward i'r ICU, fod y staff wrth eu boddau o weld Kevin, pan ddaeth i ymweld â nhw'n ddiweddar.
Dywedodd: “Mae'n wych gweld Kevin yn edrych mor dda. Treuliodd gryn amser ar ICU a daeth i adnabod pob un ohonom yn dda iawn.
“Rydym ni wir yn gwerthfawrogi'r geiriau caredig sydd ganddo i'w ddweud am yr holl staff ac rydym ni i gyd mor falch ei fod wedi cael adferiad mor dda."