Mae Adrannau Achosion Brys yng Ngogledd Cymru yn cymryd rhan mewn astudiaeth i asesu effeithiolrwydd profion a all rhoi canlyniadau COVID-19 i feddygon o fewn munudau yn hytrach nag oriau.
Nod astudiaeth Hwyluso Gwerthusiad Clinigol Brys ar Brofion Diagnostig Newydd (FALCON) ar gyfer COVID-19 yw darganfod pa mor gywir a chyflym yw'r profion newydd fel bod cleifion a staff yn gallu cael gofal mor ddiogel â phosib.
Mae'r profion cyfredol yn dibynnu ar broses labordy hir i ganfod presenoldeb y firws. Mae nifer cyfyngedig o brofion cyflym a gall ychydig o'r canlyniadau prawf gymryd hyd at 48 awr, sy'n gwneud gofal diogel ac effeithiol yn fwy anodd ei ddarparu.
Dywedodd y Prif Fiocemegydd Clinigol, Dr Sharman Harris: "Mae cyfyngiadau i'r profion cyfredol sydd ar gael, gall gymryd hyd at 48 awr i gael canlyniad ac nid oes dealltwriaeth dda o'r cywirdeb a gall profion a gymerir wrth ochr y gwely ddarparu capasiti ychwanegol i gefnogi llwybrau profi cyfredol.
"Nod yr astudiaeth yw darganfod pa mor gywir yw'r profion cyfredol."
Cynhelir yr astudiaeth gan ymchwilwyr ar draws y Deyrnas Unedig gydag Ymddiriedolaeth Sylfaen GIG Prifysgol Manceinion yn gweithredu fel noddwr i'r astudiaeth. Mae'r astudiaeth wedi ei sefydlu yng Nghymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda phum bwrdd iechyd yn cymryd rhan.
Mae Staff yn Adrannau Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth.
Dywedodd Dr Pete Williams, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys: "Gall yr astudiaeth FALCON olygu y gall clinigwyr wneud penderfyniadau cyflym a chywir am ofal claf mewn munudau.
"Gall hynny gynnwys penderfyniadau ynghylch â pha ward y gall claf dderbyn gofal arni a gwella'r llif drwy'r ysbyty.
"Bydd yn newid y gêm yn llwyr i ni i'n helpu i gadw'r ffrwd gyson honno'n symud drwy'r adran.
"Ar hyn o bryd, gallwn ddisgwyl hyd at bedair awr i gael canlyniad prawf yn ôl. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gleifion aros yn hirach yn yr adran nes bod penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â ble mae angen gofal parhaus arnynt mewn rhan arall o'r ysbyty.
"Bydd y profion newydd yn ein helpu i dynnu'r pwysau hwn a'n caniatáu i wneud penderfyniadau cyflym."
Ychwanegodd Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys yn Ysbyty Glan Clwyd, Dr Seramanperuman Sivaraman, sy'n rhan o'r tîm sydd wedi recriwtio oddeutu 40 claf ar gyfer yr astudiaeth: "Mae'r Adran Achosion Brys yn ffynnu ar benderfyniadau cyflym a chywir wedi eu cefnogi gan ymchwiliadau wrth y gwely, a all fod yn hygyrch iawn 24/7.
"Byddai astudiaeth FALCON sy'n cyd-fynd â'r meini prawf uchod yn ein helpu i ddefnyddio ein hadnoddau yn briodol."
Gwahoddir cleifion dros 18 mlwydd oed sydd â haint COVID-19 neu amheuaeth o COVID-19 i gymryd rhan yn yr astudiaeth.
Pan fydd claf yn cytuno i fod yn rhan o'r astudiaeth, rhoddir swabiau ychwanegol o'r trwyn a'r gwddf. Nodir gwybodaeth hefyd am eu hiechyd a fydd yn cael ei nodi ar gronfa ddata diogel.
"Rydym yn falch iawn i fod yn rhan o'r astudiaeth hon yn ein dwy Adran Achosion Brys. Dechreuom yr astudiaeth ar ddechrau'r Hydref a gobeithiwn y byddwn yn dechrau recriwtio mwy o gleifion wrth i amser fynd yn ei flaen.
"Hoffwn ddiolch i'r tîm Pwynt Gofal, y tîm Ymchwil a Datblygiad, y staff adrannau Gwyddorau Gwaed ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd sydd wedi gweithio'n ddiflino ar yr ymchwil i alluogi'r bwrdd iechyd gymryd rhan.
Mae'r tîm Pwynt Gofal yn parhau i gefnogi sefydlu, gweithredu a chynnal y peiriannau o ddydd i ddydd ac mae'r rheolwr tîm, Marge Everall, yn gobeithio cyflwyno'r dadansoddwyr newydd ar bob safle gan gynnwys Ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Ionawr.
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Darpariaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
"Mae dod o hyd i ffordd effeithiol i wella cyflymdra profi ar gyfer COVID-19 yn rhan allweddol o'r ymchwil sy'n cael ei chynnal yng Nghymru.
"Gallai'r prawf cyflymach - ynghyd â'r brechiadau sy'n cael eu datblygu a therapïau eraill - wneud gwahaniaeth gwirioneddol i sut yr ydym yn gofalu am bobl gyda'r firws."