Mae meddygon dan hyfforddiant wedi gosod Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd fel un o’r llefydd gorau i hyfforddi ynddo yn y Deyrnas Unedig.
Dengys canlyniadau’r Arolwg Hyfforddiant Cenedlaethol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol bod dros 85% o feddygon dan hyfforddiant yn falch gydag ansawdd goruchwyliaeth glinigol, profiad a’r addysgu a gafwyd yn yr Adran Achosion Brys.
Cymerodd dros 75,000 o feddygon dan hyfforddiant a hyfforddwyr ran yn yr arolwg eleni ac mae’r canlyniadau wedi gosod yr Adran Achosion Brys fel y nawfed gorau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer bodlonrwydd cyffredinol gan weithwyr dan hyfforddiant.
Dywedodd Dr Rio Talbot, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys yn Ysbyty Gwynedd, a ddaeth i hyfforddi yng Ngogledd Cymru yn 2006 fel myfyriwr meddygol, bod yr adran yn derbyn hyd at 20 o feddygon dan hyfforddiant dros gyfnod o 12 mis.
Dywedodd: “Mae Meddygaeth Frys yn waith dysgu a gall fod yn ddigon i lethu rhywun felly rydym yn gwneud yn siwr bod y meddygon yn ein hadarn yn derbyn yr holl hyfforddiant ac addysgu sydd eu hangen arnynt.
“Mae’r adborth o’r arolwg diweddar yn hwb mawr i forâl ein tîm ac yn cadarnhau ein bod yn gwneud pethau’n iawn.
“Yn bersonol nid wyf wedi fy synnu â’r adborth, ar ôl bod yma fy hun fel myfyriwr meddygol yn ôl yn 2006 roeddwn yn gwybod ar ôl pythefnos mai hwn oedd yr ysbyty yr oeddwn eisiau gweithio ynddo.
“Ar ôl cael hyfforddiant mewn sawl ysbyty gwahanol yn y Deyrnas Unedig es yn ôl i Ysbyty Gwynedd ac unwaith i mi gwblhau fy arholiadau cefais gynnig swydd Meddyg Ymgynghorol ym mis Ionawr 2017.
“Rydym fel teulu yma, mae pawb yn cael ei drin fel aelod o’r tîm o’r diwrnod cyntaf un. Rydym yn ceisio rhoi hyfforddiant a lles o flaen unrhyw beth arall a fydd, yn y pen draw, yn sicrhau bod ein cleifion yn derbyn y gofal orau.”
Dywedodd Dr Sarah Edwards, a dreuliodd bedair blynedd yn hyfforddi yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd bod y Meddygon Ymgynghorol a’r staff nyrsio wedi siapio ei gyrfa mewn Meddygaeth Frys.
Dywedodd: “Dechreuais fy hyfforddiant mewn Meddygaeth Frys yn Ysbyty Gwynedd yn 2014, ar ôl symud yno heb wybod rhyw lawer am Ogledd Cymru.
“Roedd y pedair blynedd a dreuliais yno fel rhan o fy ngyrfa cynnar mewn Meddygaeth Frys yn wych – mae’r Meddygon Ymgynghorol a’r staff nyrsio wedi helpu i siapio fy ngyrfa.
“Roedden nhw yno i mi yn ystod y cyfnodau da a’r cyfnodau drwg a phan oeddwn yn cael trafferth pasio fy arholiadau proffesiynol aeth y Meddygon Ymgynghorol gam ymhellach i fy helpu i fynd drwyddo drwy ddarparu sesiynau un i un.
“Gall Meddygaeth Frys fod yn heriol ac rwy’n dal yn cofio un noson anodd iawn pan yn anffodus bu farw unigolyn ifanc. Roeddwn yn emosiynol iawn, a rhoddodd un o’r nyrsys gefnogaeth i mi, gafael ynof a fy atgoffa ein bod yn dîm.
“Yn ystod y pedair blynedd rwyf wedi gweithio yno rwyf wedi gwneud ffrindiau oes gyda nyrsys a Meddygon Ymgynghorol. Nhw yw fy nheulu Adran Achosion Brys a byddwn yn argymell gweithio yno i bawb.”