Bydd gan Nyrsys a Bydwragedd ar draws Gogledd Cymru fynediad gwell at gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad fel rhan o addewid blwyddyn gyfan gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor.
Er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Nyrsio ddydd Sul Mai 12, mae'r ddau sefydliad wedi addo cefnogi rhaglen ‘Nursing Now Cymru’.
Mae 'Nursing Now' yn ymgyrch fyd-eang i wella'r dylanwad a'r cyfraniad mae nyrsys a bydwragedd yn ei wneud i wella iechyd, hybu cydraddoldeb rhwng dynion a merched a chefnogi twf economaidd.
Dros y flwyddyn nesaf, bydd mynediad gwell at gefnogaeth arweinyddiaeth ac arloesedd ar gael i nyrsys a bydwragedd cymwys a myfyrwyr, yn ogystal â chefnogaeth sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb rhwng dynion a merched a chysylltiadau agosach gyda phartneriaid nyrsio rhyngwladol.
Mae'r Bwrdd Iechyd a'r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn datblygu nifer o fentrau newydd i wella mynediad at gefnogaeth arweinyddiaeth ac arloesedd.
Bydd staff cymwysedig a myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am Gymrodoriaeth ddatblygedig newydd ‘Nursing Now’. Bydd Cymrawd 'Nursing Now' yn cael cefnogaeth gydag amser ac addysg i ddarparu darn o waith sy'n canolbwyntio ar arfer clinigol, addysg, ymchwil neu arweinyddiaeth.
Bydd nyrsys ar draws Gogledd Cymru hefyd yn cael cefnogaeth fel rhan o Her ryngwladol Nightingale. Fel rhan o’r fenter ryngwladol bydd 20,000 o nyrsys ifanc, gan gynnwys ceisiadau o Ogledd Cymru, yn cael hyfforddiant arweinyddiaeth erbyn mis Mai 2020.
Bydd prosiect yn cael ei lansio i ddathlu cyfraniad nyrsys LGBT yng Ngogledd Cymru.
Bydd cysylltiadau rhwng y Bwrdd Iechyd a Phrifysgol Bangor, a sefydliadau partner iechyd byd-eang mewn gwledydd gan gynnwys Lesotho, Kenya ac Ethiopia, yn cael eu dathlu dros y flwyddyn nesaf.
Bydd myfyrwyr hefyd yn cael gwobr gan yr Ysgol Gwyddorau Iechyd i nyrsys a bydwragedd cofrestredig wneud cais ar gyfer rhaglenni ymchwil Meistr gyda cheisiadau sy'n adlewyrchu gwerthoedd yr ymgyrch 'Nursing Now' 2020. Bydd yr Ysgol hefyd yn rhoi gwobrau newydd ar gyfer y traethawd gorau a ysgrifennwyd gan fyfyrwyr nyrsio neu fydwragedd.
Dywedodd Trevor Hubbard, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ar gyfer BIPBC: "Mae'r ymgyrch 'Nursing Now' yn fenter fyd-eang i ddathlu ac i gefnogi datblygiad arweinwyr nyrsio'r dyfodol.
"Mae ein staff nyrsio’n gweithio'n ddiflino i ddarparu gofal rhagorol, ac rydym wedi ymrwymo i'w helpu i gael mynediad at gefnogaeth a hyfforddiant i gefnogi eu datblygiad dros y flwyddyn sydd i ddod.
"Cyn beth fyddai wedi bod yn ben-blwydd Florence Nightingale yn 200 oed, byddwn yn canolbwyntio ein sylw ar gefnogi staff i ddangos ansawdd arloesedd, creadigrwydd ac arweinyddiaeth sydd ei angen i ddatblygu gwasanaethau nyrsio yng Ngogledd Cymru am flynyddoedd i ddod.
"Rydym yn falch ein bod yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr nyrsio yng Ngogledd Cymru."
Dywedodd Dr Jaci Huws, Cyfarwyddwr Rhyngwladoli yn Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor:
"Rydym wedi ymrwymo'n llawn i gefnogi menter "Nursing Now 2020." Rydym yn falch ein bod yn cydweithio â chydweithwyr o BIPBC i gefnogi myfyrwyr, a nyrsys a bydwragedd cymwys a'u datblygu, i wella gofal iechyd byd-eang."
Mae'r rhaglen yn cael ei harwain gan Sefydliad Iechyd y Byd, ac yn cael ei chefnogi gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru.
I gael mwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan, cysylltwch â Dr Jaci Huws, Prifysgol Bangor: j.huws@bangor.ac.uk, neu mae gwybodaeth ar gael ar fewnrwyd BIPBC.
Mae mwy o wybodaeth ar "Nursing Now" ar gael ar www.nursingnow.org