Ym mis Rhagfyr 2024, dechreuodd Sue sy'n 75 mlwydd oed ac sy'n dod o Langollen, deimlo nad oedd hi'n symud mor rhwydd a bod gwendid ar ei hochr chwith. Y diwrnod canlynol, roedd Sue yn cael cinio gyda'i ffrindiau ac fe sylwon nhw fod ei hymddygiad yn wahanol. Roedd hi’n cael trafferth defnyddio ei fforc, tarodd ei choffi oddi ar y bwrdd, ac ar adegau, roedd yn ymddangos yn bell i ffwrdd. Aed â Sue i Ysbyty Maelor Wrecsam, lle cafodd sgan CT ar ei phen. Dangosodd y sgan ei bod wedi dioddef strôc amlffocal ar yr ochr dde a achoswyd gan glot gwaed. Trosglwyddwyd Sue i’r Uned Arbenigol Adsefydlu Cleifion Mewnol Strôc (SSIR) yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy ar gyfer adsefydlu parhaus a chymorth wrth iddi wella ac addasu i fywyd ar ôl ei strôc.
Mae tîm o staff strôc arbenigol yn yr Uned SSIR sy’n helpu cleifion i adsefydlu. Mae’r tîm yn cynnwys Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Seicolegwyr Clinigol, Deietegwyr, Hyfforddwyr a Chynorthwywyr Technegol, Cynorthwywyr Adsefydlu Amlbroffesiynol, Nyrsys, Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, Fferyllwyr a Chydlynwyr Rhyddhau. Arweinir yr uned gan Therapydd Strôc Ymgynghorol ac mae Meddyg Ymgynghorol Strôc yn cynnal adolygiadau meddygol bob wythnos.
Pan gyrhaeddodd Sue yr Uned SSIR, roedd y strôc wedi effeithio'n sylweddol ar ei hochr chwith. Roedd ganddi lai o gydsymudiad, a llai o nerth ar ei hochr chwith. Roedd angen cymorth gan ddau aelod i staff wrth drosglwyddo ac nid oedd yn gallu symud. Ar brydiau, roedd Sue yn ymddangos yn ddryslyd ac roedd hefyd yn cael ychydig o anhawster wrth ddod o hyd i eiriau.
Yn ystod ei sesiynau ffisiotherapi, roedd Sue yn ymarfer symud gyda staff er mwyn gwella ei chydbwysedd a gwella cydsymudiad rhan uchaf ei braich chwith. Roedd yn cael ei hannog i edrych i'r chwith er mwyn bod yn fwy ymwybodol o beryglon ar yr ochr honno. Ymhen amser, llwyddodd Sue i symud gan ddefnyddio ffrâm gerdded â phedair olwyn ac yna datblygodd gyda chymorth staff, i ddefnyddio ffon bedair coes. Ar ôl mwy o ymarfer, llwyddodd Sue i symud gyda goruchwyliaeth, ond heb gymhorthion, yn ystod y dydd a'r nos.
Dywedodd Sue: "Wrth ddefnyddio'r offer codi ar y dechrau, wnes i erioed ddychmygu y byddwn i'n gallu cerdded eto."
Yn ystod y sesiynau therapi galwedigaethol, cafodd Sue ymarfer tasgau ymarferol fel paratoi diod boeth a byrbrydau yn y gegin, a gweithgareddau bob dydd fel ymolchi a gwisgo amdani. Roedd Sue yn ymarfer cynllunio a threfnu tasgau, edrych i'r chwith a symud rhan uchaf ei braich chwith. Oherwydd anawsterau Sue gyda'i hochr chwith, roedd angen cymorth un person arni yn ystod tasgau ymarferol er mwyn helpu atgyfnerthu ei hymwybyddiaeth o ddiogelwch. Roedd Sue hefyd yn mwynhau mynychu grŵp pobi bob wythnos.
Dywedodd: “Roeddwn i’n teimlo’n ddiogel yn y sesiynau" – "Mwynheais y coginio a oedd yn syndod gan nad oeddwn i byth yn pobi.”
Mynychodd Sue grwpiau eraill pan oedd yn yr Uned SSIR, gan gynnwys grŵp Boccia fel rhan o’i ffisiotherapi, a Grŵp Cyfathrebu Gwybyddol, er mwyn ymarfer sgiliau gwybyddol trwy dasgau ac ymarferion mewn lleoliad grŵp. Roedd Sue yn cymryd rhan yn dda a mwynhaodd y cyfle i gymdeithasu ag aelodau eraill y grwpiau. Mynychodd sesiynau therapi cerdd hefyd ac fe fwynhaodd hyn yn fawr.
Erbyn diwedd ei harhosiad yn yr Uned SSIR, roedd Sue yn gallu symud gyda goruchwyliaeth ond heb gymhorthion yn ystod y dydd, ac roedd ei gallu i wneud tasgau ymarferol wedi gwella hefyd. Roedd Sue yn parhau i gael anhawster gyda'i hochr chwith, sy'n gwaethygu os yw hi'n flinedig neu'n gwneud mwy nag un dasg. Roedd hi felly, yn dal i fod angen cymorth un person ar gyfer bod yn ymwybodol o beryglon, ac i wneud tasgau’n ddiogel.
Wrth fyfyrio ar ei hamser yn yr Uned SSIR, disgrifiodd Sue y staff fel rhai "cefnogol iawn, iawn" a dywedodd fod "llawer o bethau wedi'u rhoi ar waith i gefnogi fy adferiad, mwynheais fy amser yno yn fawr - gwnes ffrindiau".
Ar ran y Tîm SSIR, rydym i gyd yn dymuno’r gorau iddi yn ei hadferiad ac yn gobeithio y bydd yn cyrraedd ei nod personol sef dychwelyd i’w dosbarthiadau dawnsio wythnosol.