Neidio i'r prif gynnwy

Mis Ymwybyddiaeth Strôc

Mae tua 7,500 o bobl yn cael strôc yng Nghymru bob blwyddyn ac mae bron i 70,000 o oroeswyr strôc yn byw gyda chanlyniadau strôc.

Gall strôc daro unrhyw un, ar unrhyw adeg, ond mae gweithredu’n gyflym yn golygu bod gwell cyfle i arbed celloedd yr ymennydd a gwella adferiad.

Digwyddiadau Ymwybyddiaeth Strôc

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Strôc eleni, mae ein Timau Atal Strôc yn cynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am strôc, gan ddangos sut i adnabod yr arwyddion yn gynnar, a pha gamau y gallwn ni i gyd eu cymryd i helpu i atal strôc i ni ac i eraill:

Wrecsam
Dydd Llun 12 Mai, 10am tan 2pm
Tŷ Pawb, Stryt y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BB
Stondin iechyd y Tîm Atal Strôc gyda gwiriadau pwysedd gwaed a churiad y galon.

Bangor
Dydd Iau 22 Mai, 9am tan 12pm
Tesco Extra Ffordd Caernarfon, Bangor, LL57 4SU
Tîm Atal Strôc mewn cydweithrediad â Nyrsys Strôc Acíwt Ysbyty Gwynedd a stondin iechyd y Gymdeithas Strôc gyda gwiriadau pwysedd gwaed a churiad y galon.

Bae Colwyn
Dydd Iau 29 Mai, 10am tan 2pm
Canolfan Siopa Bay View, Ffordd Sea View, Bae Colwyn, LL29 8DG
Stondin iechyd y Tîm Atal Strôc gyda gwiriadau pwysedd gwaed a churiad y galon.

Adnabod symptomau strôc

Gall strôc ddigwydd i unrhyw un, o unrhyw oed, ar unrhyw adeg. Mae'n hanfodol gwybod sut i adnabod arwyddion strôc.

Y ffordd hawsaf o gofio'r symptomau hyn yw'r gair HAST:

Straeon cleifion

Ceir straeon isod gan gleifion sydd wedi cael budd o ofal yn ein Huned Adsefydlu Cleifion Mewnol Arbenigol Strôc a chan ein Tîm Rhyddhau'n Gynnar ar ôl Strôc yn y gymuned

Ein Tîm Strôc

Dilynwch yr isod i ddysgu am rai o’r swyddi gwahanol o fewn ein Timau Strôc: