17.05.25
Gwaith ffordd ger Ysbyty Gwynedd o ddydd Llun 21 Gorffennaf
Dylech fod yn ymwybodol bod disgwyl i waith ffordd ddechrau ger Ysbyty Gwynedd ddydd Llun, 21 Gorffennaf fel rhan o gam nesaf cynllun Teithio Llesol Cyngor Gwynedd. Disgwylir i'r gwaith hwn barhau tan ddiwedd mis Tachwedd ac efallai y bydd yn effeithio ar eich taith i'r ysbyty ac oddi yno.
Bydd gwaith yn mynd rhagddo ar Ffordd Penrhos, o:
Er mwyn helpu i osgoi oedi a sicrhau na fydd apwyntiadau'n cael eu colli, anogir yr holl gleifion ac ymwelwyr yn gryf i adael amser teithio ychwanegol wrth ddod i'r ysbyty.
2.05.2025
Rydym yn gwerthfawrogi bod y gwaith ar y ffordd y tu allan i Ysbyty Gwynedd wedi arwain at heriau dros y pythefnos diwethaf, yn enwedig yn ymwneud â mynediad i mewn ac allan o'r ysbyty ar adegau prysur. Rydym wedi bod yn monitro'r sefyllfa'n rhagweithiol ac rydym wedi gweithio gyda'r contractwyr er mwyn helpu i leddfu llif y traffig ar adegau prysur.
Rydym wedi bod yn ymgysylltu â'r contractwyr sydd wedi rhoi gwybod am eu rhaglen ar gyfer cam nesaf y gwaith sydd fel a ganlyn:
Rydym yn ymgysylltu â'r contractwyr trwy gydol y cyfnod hwn a byddwn yn parhau i roi gwybod i'r cyhoedd am unrhyw newidiadau sylweddol i'r rhaglen a allai gael effaith ar fynd i apwyntiadau yn yr ysbyty.
17.04.2025
Rydym yn awyddus i gynghori'r holl gleifion ac ymwelwyr i baratoi ar gyfer oedi posibl oherwydd gwaith ffordd y disgwylir iddo ddechrau ger Ysbyty Gwynedd ddydd Mawrth, 22 Ebrill.
Disgwylir i'r gwaith, a fydd yn mynd rhagddo rhwng cylchfan Ysbyty Gwynedd a Ffordd Cae Cilmelyn, beri cryn darfu i lif y traffig yn yr ardal oherwydd tagfeydd cynyddol.
Er mwyn helpu i osgoi oedi a sicrhau na fydd apwyntiadau'n cael eu colli, anogir yr holl gleifion ac ymwelwyr yn gryf i adael amser teithio ychwanegol wrth ddod i'r ysbyty.
Dywedodd Paul Andrew, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Oherwydd gwaith ffordd arfaethedig yn yr ardal gyfagos, rydym yn cynghori'r holl gleifion ac ymwelwyr yn garedig i adael amser ychwanegol wrth deithio i'r ysbyty. Mae'r gwaith hwn yn debygol o beri oedi, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod pawb yn cyrraedd ar amser ar gyfer eu hapwyntiadau.
"Rydym yn ddiolchgar o gael eich cydweithrediad a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn."
Mae'r gwaith ffordd yn mynd rhagddo er mwyn cyflwyno rhan o Gynllun Teithio Llesol Ffordd Penrhos, sef prosiect i wella darpariaeth gerdded a beicio yn yr ardal, ar ran Cyngor Gwynedd.
Disgwylir i ddulliau rheoli traffig fod ar waith 24 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Caiff goleuadau traffig dros dro eu defnyddio i reoli llif y traffig, a gaiff eu rheoli â llaw rhwng 7.30am a 8pm.
Nid ydym yn rhagweld unrhyw waith dros y penwythnos yn ystod y prosiect hwn. Fodd bynnag, os bydd angen, caiff dulliau rheoli traffig â llaw eu cynnal yn unol â’r amseroedd yn ystod yr wythnos.
Disgwylir i'r gwaith barhau am ryw 10 wythnos.