Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Fasgwlar

14 Mai 2020

Dywedodd yr Athro Arpan Guha, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro:

“Rydym yn falch o gael rhan gyntaf yr adolygiad annibynnol i wasanaethau fasgwlaidd y gofynnodd y Bwrdd amdano gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, ac yn diolch i’r Coleg am ei waith yn creu’r adroddiad dan yr amodau anodd oherwydd COVID-19. Mae hyn wedi rhoi persbectif gwrthrychol ar ein gwasanaeth ac rydym yn croesawu ei ddarganfyddiadau ac argymhellion. Rydym yn aros am adborth pellach gan y Coleg yn seiliedig ar eu hadolygiad annibynnol o 50 cyfrol o nodiadau cleifion.

“Mae’r adolygiad yn ailadrodd y natur frys y mae’n rhaid i ni weithredu i sefydlu model priodol prif ganolfan a changhennau er mwyn osgoi peryglu diogelwch cleifion, a oedd yn risg arwyddocaol ar y pryd. Rydym yn falch bod yr ymrwymiad llethol gan bawb oedd yn rhan o wella’r gwasanaeth wedi cael ei gydnabod a bod “sylfaen rhagorol” yn ei le i barhau i ddatblygu a gwella gwasanaethau fasgwlaidd yng Ngogledd Cymru.

“Dywed yr adroddiad bod gan y gwasanaeth bellach drefniant llawfeddygol ar-alwad cadarn, llwybrau priodol ar gyfer ymyriadau fasgwlaidd brys a chymhleth a dim “baneri coch” o ran marwoldeb, aildderbyniadau a hyd arhosiad.

“Mae’r adolygiad hefyd wedi rhoi cyfle i ni adolygu ac egluro’r gwaith pellach sydd angen ei gwblhau i gyflawni’r gwasanaeth eithriadol y mae arnom ei eisiau ac mae ein cleifion a’n cymunedau’n ei haeddu.

“Rydym yn cydnabod bod angen mwy o waith, yn enwedig i barhau i ddatblygu ein llwybrau ar gyfer cleifion fasgwlaidd a diabetig fel y gallwn ddarparu’r canlyniadau gorau yn y lle iawn.

“Rydym yn dal wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fasgwlaidd priodol ym mhob un o’r tri ysbyty llym yng Ngogledd Cymru. Mae gwaith ar y gweill i gryfhau darpariaeth gwasanaethau yn ein safleoedd cangen, yn ogystal â gwaith tîm drwy ein rhwydwaith fasgwlaidd.

“Fel mae’r adroddiad yn cydnabod, mae cynnydd eisoes wedi’i wneud i ymdrin â llawer o’r gwelliannau y tynnwyd sylw atynt. Mae cynrychiolwyr cleifion a Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru yn dal i gymryd rhan yn ein gwaith i barhau â’r gwelliannau hyn, ac edrychwn ymlaen at ymdrin yn gyflym â’r materion a godwyd yn yr adolygiad.”

 

21 Mai 2020

Heddiw, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfarfod Bwrdd rhith. Oherwydd arweiniad y llywodraeth, nid oedd yn bosibl cynnal y cyfarfod yn gyhoeddus, fel sy'n arferol. Yn anffodus, oherwydd problemau technegol, nid oedd yn bosibl ffrydio’r cyfarfod yn fyw fel y bwriadwyd. Rydym yn ymddiheuro i’r rhai na allodd wylio’r cyfarfod. Fe wnaethom recordio’r cyfarfod a bydd ar gael drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Ar yr agenda oedd adolygiad y Bwrdd Iechyd o'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau fasgwlaidd yng Ngogledd Cymru yn dilyn aildrefnu’r gwasanaethau ym mis Ebrill 2019. Mae’r model newydd yn rhwydwaith fasgwlaidd integredig gydag Ysbyty Glan Clwyd fel y safle unigol ar gyfer llawfeddygaeth rydwelïol fawr. Mae clinigau fasgwlaidd, ymchwiliadau, diagnosteg, mynediad fasgwlaidd a thriniaethau gwythiennau faricos yn cael eu darparu ym mhob un o’r tri ysbyty cyffredinol dosbarth.

Cyflwynwyd yr adolygiad gan y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dr David Fearnley a'r Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Gill Harris.

Eglurwyd sut mae buddsoddiad sylweddol mewn staff ac adnoddau ychwanegol, yn cynnwys datblygu theatr hybrid newydd gwerth £2.3m yn Ysbyty Glan Clwyd wedi cefnogi sefydlu gwasanaeth fasgwlaidd modern, sefydlog, addas i bwrpas ar gyfer poblogaeth Gogledd Cymru.

Dywedodd Dr David Fearnley: "Rydym yn cydnabod bod aildrefnu'r gwasanaeth hwn wedi peri pryder ymhlith rhai ac rydym wedi cyhoeddi adolygiad a chynllun gweithredu i fod yn agored a chlir am y gwelliannau pellach sydd eu hangen.  Rydym wedi ymrwymo i ymdrin â heriau presennol i sicrhau bod trigolion Gogledd Cymru yn cael gwasanaeth teg, diogel, o ansawdd uchel.

"Mae ein buddsoddiad yn y model newydd hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi ei lywio a’i gefnogi gan Gymdeithas Fasgwlaidd Prydain Fawr ac Iwerddon a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon, wedi ein galluogi i recriwtio wyth meddyg ymgynghorol fasgwlaidd. Golyga hyn fod gennym bellach rota ar-alwad 24/7 gynaladwy i gleifion sydd angen gofal brys, nad oedd gennym cyn hynny.

"Mae llwybrau clinigol ar gyfer ystod o gyflyrau wedi cael eu rhoi ar waith a'u gwella, ond rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud, yn enwedig i reoli cleifion â phroblemau traed oherwydd diabetes.

"Cyn aildrefnu’r gwasanaeth, roedd amseroedd aros ar gyfer rhai triniaethau, yn cynnwys triniaethau at ymlediad aortaidd, yn anghyson ar draws y Bwrdd Iechyd gan fod achosion yn cael eu trafod yn lleol. Bellach, mae cyfarfod tîm wythnosol, amlddisgyblaethol Gogledd Cymru gyfan ar gyfer rheoli pob achos cymhleth, sy'n bodloni gofynion Rhaglen Cymru ar gyfer Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen."

Ychwanegodd Gill Harris: “Mae sefydlu ac ymgorffori unrhyw wasanaethau newydd a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio yn cymryd amser ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod cynnydd pellach yn cael ei wneud. Rydym yn falch o weld tystiolaeth o hyfforddiant tîm amlddisgyblaethol a rhannu dysg ar draws y gwasanaeth a chynhelir cyfarfodydd llywodraethu cyson i sicrhau bod materion a risgiau clinigol yn cael eu trafod yn  agored a gonest. Mae hyn yn arwydd o newid mewn diwylliant yn y gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar anghenion y cleifion a'r gwasanaeth.

"Rydym yn croesawu'r adborth ar y gwasanaeth a gasglwyd gan y Cyngor Iechyd Cymuned yn dilyn eu digwyddiadau ymgysylltu ac rydym yn cydnabod bod eu hadroddiad yn tynnu sylw at rai materion rydym yn eu cymryd o ddifri ac wedi ymrwymo i ymdrin â nhw.  Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned. 

“Rydym wrthi'n ymgysylltu â staff a chleifion i wrando a dysgu o'u profiadau, a gweithredu arnynt i wneud gwelliannau pellach."

Cymeradwyodd y Bwrdd sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen, dan gadeiryddiaeth Dr Fearnley, i oruchwylio gweithredu argymhellion yr adolygiad i wasanaethau fasgwlaidd ac i ystyried y cynllun gweithredu drafft i ddynodi camau pellach ac argymell prif ddangosyddion perfformiad. 

Cytunodd y Bwrdd hefyd i gomisiynu asesiad allanol, annibynnol, amlddisgyblaethol o'r Gwasanaeth Fasgwlaidd Gogledd Cymru a ddarperir ar draws y Bwrdd Iechyd i asesu ansawdd a diogelwch y gwasanaeth a chanlyniadau cleifion. Hoffai’r Bwrdd i’r gwaith hwn ddechrau cyn gynted â phosibl a bydd yn archwilio amserlenni, fydd yn ddibynnol ar argaeledd aseswyr arbenigol yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae'r adolygiad llawn ac atodiadau ar gael ar ein gwefan yma.

24 Chwefror 2020

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol BIPBC Dr David Fearnley:

“Mae buddsoddiad sylweddol mewn staff ac adnoddau ychwanegol, yn cynnwys datblygu theatr hybrid newydd gwerth £2.3m yn golygu bod gennym bellach wasanaeth fasgwlar sefydlog, modern, addas i bwrpas.

“Dan y model gwasanaeth blaenorol, roedd yn rhaid i gleifion sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn Ynys Môn a Gwynedd deithio i Wrecsam am lawfeddygaeth fasgwlar brys am hanner yr wythnos.

“Cydnabyddir yn eang bod y model gwasanaeth blaenorol dan ormod o bwysau ac nad oedd yn bodloni canllawiau cenedlaethol. Heb newid y gwasanaeth, ni fyddem wedi gallu recriwtio meddygon yn y dyfodol, fyddai wedi golygu y byddem wedi colli’r gwasanaeth yn gyfan gwbl o Ogledd Cymru.

“Rydym wedi penodi saith meddyg ymgynghorol fasgwlar ers symud ymlaen i newid y gwasanaeth, a bellach mae gennym rota ar-alwad sefydlog sy’n gallu gofalu am gleifion sydd angen gofal brys."

Mawrth 2019

O 10 Ebrill 2019 ymlaen, bydd Ysbyty Glan Clwyd yn ganolfan redwelïol ar gyfer y rhwydwaith fasgwlaidd, a bydd yn darparu pob llawdriniaeth redwelïol frys a dewisol ac ymyriadau endofasgwlaidd cymhleth. Er mwyn cefnogi hyn, mae'r Bwrdd Iechyd wedi penodi staff clinigol, wedi agor ward redwelïol ychwanegol wedi'i neilltuo a theatr hybrid o'r radd flaenaf. 

Bydd y rota brys meddygon ymgynghorol fasgwlaidd 24 y dydd, 7 niwrnod yr wythnos yn rhedeg o Ysbyty Glan Clwyd. Ar hyn o bryd mae'n cael ei gynnal o Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam bob yn ail. Yn syml, ar hyn o bryd mae gofal brys ar gael yn Wrecsam am hanner yr wythnos, ac ym Mangor am hanner yr wythnos.  Drwy leoli'r nifer bach o achosion brys mewn un safle, bydd yn golygu bod gan bawb fynediad cyfartal at yr arbenigedd gorau, dim ots lle maen nhw'n byw yng Ngogledd Cymru.

Bydd llawfeddygon ymgynghorol yn parhau yn y tri ysbyty llym; Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd, a byddant yn darparu'r gwasanaethau clinigol canlynol: clinigau fasgwlaidd, diagnosteg, ymyriadau yn cynnwys mynediad arennol a thriniaeth gwythiennau chwyddedig, adolygu cyfeiriadau fasgwlaidd cleifion mewnol, ac adsefydlu.  Bydd angioplasti ymylol a gosod stent fel achos dydd yn parhau ar bob safle.  

Pam mae'r gwasanaeth yn newid?

  • Mae'r gwasanaeth, fel y mae ar hyn o bryd, wedi ei ymestyn ormod ac nid yw'n bodloni canllawiau cenedlaethol
  • Mae tystiolaeth o lefydd eraill yn y Deyrnas Unedig yn dangos bod canlyniadau clinigol yn gwella mewn llefydd lle mae mwy o driniaethau'n digwydd
  • Heb newid y gwasanaeth, ni fyddwn yn gallu recriwtio meddygon yn y dyfodol, sy'n golygu y byddem yn colli'r gwasanaeth yng Ngogledd Cymru yn gyfan gwbl
  • Ar ôl ymrwymo i fodel gwasanaeth newydd, rydym wedi recriwtio chwe meddyg ymgynghorol fasgwlaidd newydd, yn ogystal â llawer o staff clinigol eraill. Mae hyn yn golygu y bydd gennym rota ar alwad cynaliadwy i gleifion sydd angen gofal brys

Ydy'r gwasanaethau arennol yn symud?

  • Nid yw'r gwasanaethau arennol, gan gynnwys dialysis llym, yn symud o'r safleoedd lle maen nhw'n cael eu darparu ar hyn o bryd - Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alltwen, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
  • Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd fuddsoddiad newydd gwerth miliynau o bunnoedd mewn gwasanaethau arennol ar draws Gogledd Cymru, a fydd hefyd yn cynnwys datblygu uned ategol newydd yn yr Wyddgrug.

Mae adroddiadau yn y cyfryngau wedi cyfeirio at y peryglon os na fydd cleifion yn cael eu gweld yn yr "awr euraidd"  

  • Nid yw'r cysyniad o'r "awr euraidd" yn cael ei ddefnyddio fel arfer mewn perthynas â chleifion sydd angen gofal fasgwlaidd brys
  • Ar gyfer cleifion sy'n dioddef o ddigwyddiad fasgwlaidd brys mawr fel rhwyg aortig mawr, heb ymyriad arbenigol bron ar unwaith nid yw’r rhagolygon o ran goroesi yn dda iawn, dim ots pa mor gyflym caiff y claf ei drosglwyddo i'r ysbyty 
  • Os bydd claf yn rhy wael i deithio, bydd darpariaeth ar gael i lawfeddyg ar alwad deithio ato i roi triniaeth iddo
  • Bydd yr holl gleifion rhedwelïol brys eraill yn cael eu sefydlogi yn eu hysbyty cyffredinol dosbarth agosaf cyn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glan Clwyd am driniaeth. 

Pwy gefnogodd y penderfyniad a wnaed gan y bwrdd ym mis Ionawr 2013?

  • Mae'r datblygiad yn dilyn arweiniad gan, ac yn cael ei gefnogi gan:
    • Coleg Brenhinol y Llawfeddygon
    • Cymdeithas Fasgwlaidd Prydain Fawr ac Iwerddon
    • Rhaglen Sgrinio yng Nghymru ar gyfer Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen                 
    • Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru
    • LMC Gogledd Cymru

Adnoddau defnyddiol    

• Llythyr agored gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, cyhoeddwyd 4 Mawrth

Rhannu: