Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad mewn perthynas â Chyfarwyddwr Gweithredol Cyllid

Dywedodd Jason Brannan, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae Sue Hill, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd o’i bwriad i ymddiswyddo o’r sefydliad a bydd yn gadael ym mis Rhagfyr 2024. Mae Sue ar gyfnod o absenoldeb ar hyn o bryd ar ôl cael llawdriniaeth a thriniaethau sylweddol dros y deuddeg mis diwethaf ac rydym yn meddwl amdani wrth iddi ganolbwyntio ar ei hiechyd a’i hadferiad.”

Gwybodaeth ychwanegol:

  • Mae Sue Hill wedi ymddiswyddo ac ni fydd yn derbyn setliad ariannol pan ddaw ei chyflogaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024.
  • Cwblhawyd adolygiadau o ganfyddiadau adroddiad EY gan Atal Twyll GIG Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ac nid oedd angen cymryd unrhyw gamau gweithredu.
  • O ran yr ymchwiliad mewnol, mae’r mater bellach wedi dod i ben o safbwynt y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â Sue Hill.