Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Cymuned newydd Gogledd Sir Ddinbych, Rhyl

23.07.25 

Cyn bo hir, bydd y Bwrdd Iechyd yn gallu rhannu cynlluniau ar gyfer gwaith adeiladu newydd datblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra (RAH). 

Rydym yn rhagweld y bydd y cynlluniau hynny yn cael eu cyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych erbyn diwedd mis Awst. Byddwn yn uwchlwytho dolen i’r cynlluniau hyn yn fuan ar ôl iddynt gael eu cyflwyno. Mae’n bwysig nodi mai dim ond rhan o'r broses o ddatblygu cynllun mawr fel hwn yn y sector cyhoeddus yw cynllunio. 

Bydd yn rhaid i’n Bwrdd gymeradwyo’r cynlluniau hynny a’n hachos busnes llawn diwygiedig (FBC). Gan dybio bod ein Bwrdd yn cymeradwyo'r FBC, caiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn yr hydref i benderfynu a ddylid ei gymeradwyo a chyllid dilynol. Os cymeradwyir y cynllun, byddai’n derbyn cyllid gan Raglen Gyfalaf Cymru Gyfan y GIG a Chronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso (IRCF). 

Gan dybio bod popeth yn foddhaol, mae hyn yn golygu mai ein nod fyddai dechrau paratoi'r safle a rhoi rhawiau yn y ddaear ddechrau'r flwyddyn nesaf. Rydym yn awyddus i ddechrau arni, gan y gwyddom fod hwn yn gynllun y mae disgwyl mawr amdano. Er nad oes llawer o newyddion wedi bod ers tro, mae'r gwaith i wireddu'r datblygiad wedi parhau y tu ôl i'r llenni. 

Er bod y pandemig wedi atal gwaith ar gynlluniau Ysbyty Brenhinol Alexandra wrth i ni flaenoriaethu ardaloedd eraill, cafodd effaith ganlyniadol ar brisiau hefyd. Roedd hyn yn golygu bod cost y cynlluniau gwreiddiol wedi cynyddu'n sylweddol, ac roedd yn rhaid i ni ailystyried sut yr oeddem am symud ymlaen. Mae ein timau datblygu a phrosiectau wedi gweithio’n galed i gynllunio datblygiad sy’n bodloni anghenion cyfnewidiol ein poblogaeth ac sy’n rhoi gwerth am yr arian cyhoeddus sy'n cael ei wario. 

Gyda’n partneriaid yng Nghyngor Sir Ddinbych ac o fewn y sector gwirfoddol, rydym yn edrych ar adeiladu ychwanegiad gwerthfawr at y gwasanaethau cymunedol yr ydym yn eu darparu yn Y Rhyl a’r ardal gyfagos. 

Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig Ardal y Canol: “Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â Chyngor Sir Ddinbych ynghylch cynnydd datblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra. Mae contract wedi’i ddyfarnu i ddylunio gwaith adeiladu newydd ar y safle, a bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno o fewn oddeutu’r mis nesaf. Bydd y cynlluniau adeiladu newydd yn cynnwys uned â gwelyau ac Uned Mân Anafiadau ac Anhwylderau (MIAU). 

“Mae cynnydd y cynllun yn amodol ar gymeradwyaeth ffurfiol y Bwrdd, caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o’n hachos busnes llawn. Rydym yn disgwyl i’r holl elfennau fod wedi’u cyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn galendr ac, os bydd yn llwyddiannus, byddem yn gobeithio dechrau’r gwaith adeiladu ar ddechrau 2026. 

“Mae gwaith atgyweirio a gwelliannau i safle presennol Ysbyty Brenhinol Alexandra wedi’u cynllunio i fynd rhagddynt ar wahân i’r adeilad newydd.” 

Byddwn yn eich diweddaru am ein cynnydd. 

25.05.2024

Ar 28 Mawrth eleni, cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr arfarniad opsiynau ar gyfer y cynigion diwygiedig i ddatblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra. 

Byddai’r cynigion yma’n golygu bod yr adeilad presennol yn cael ei adnewyddu, ynghyd ag adeilad newydd fydd yn cynnwys gwelyau gofal yn nes at y cartref, Uned Mân Anafiadau ac Anhwylderau a gwasanaethau ategol eraill. Mantais ychwanegol y cynnig hwn yw’r ymrwymiad cryf i weithio’n agosach gyda’n cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn yr awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol. 

Bydd gwaith yn cael ei wneud hefyd i wella meysydd parcio yn yr ysbyty ei hun ac o’i gwmpas, gan wneud mynediad i gleifion ac ymwelwyr yn haws. 

Fel y gallwch ddychmygu, mae cryn dipyn o waith ar y gweill i gwblhau’r achos busnes llawn cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo. O ystyried y cyfyngiadau presennol ar gyllid cyfalaf yn genedlaethol, nid yw’n bosibl ariannu’r achos busnes gwreiddiol yn llawn, a chadarnhaodd y Prif Weinidog ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn cynnig newydd. 

Ef, yn ei rôl flaenorol fel Gweinidog Iechyd, a gymeradwyodd y cynlluniau gwreiddiol cyn i ffactorau allanol y tu hwnt i'n rheolaeth achosi cynnydd yn y costau. 

Rydym bellach yn barod i ddatblygu cynlluniau manwl sy'n cynnwys cymaint o'r dyluniad gwreiddiol â phosibl. Rydym yn trefnu ymgysylltiad lleol â’r cyhoedd a’n rhanddeiliaid dros yr haf i drafod y syniadau yma’n fanylach. 

Byddwn yn cyhoeddi'r digwyddiadau hynny ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd wrth i ni weithio drwy’n cynlluniau. 

Er mwyn gweld sut fedrwch chi gymryd rhan yn eich Bwrdd Iechyd, dilynwch y ddolen hon: 

https://bipbc.gig.cymru/cymryd-rhan/ 

22.03.2024

Ers i ni ddatblygu ein hachos busnes llawn cychwynnol i ailddatblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl, mae costau cynyddol deunyddiau, ynghyd ag effeithiau'r pandemig byd-eang a'r dirywiad economaidd dilynol wedi golygu nad yw'r cynllun gwreiddiol yn fforddiadwy mwyach.

Er y gallai fod wedi ymddangos i aelodau'r cyhoedd bod y prosiect wedi'i roi o'r neilltu, y tu hwnt i'r llenni mae staff wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu opsiynau newydd i wella a gloywi gwasanaethau ar y safle.

Yn y cyfamser, gwnaeth ychydig o newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gweithio a sut y caiff gwasanaethau eu cyflunio ganiatáu i ni hefyd edrych ar y prosiect yn wahanol.

Ni fu erioed unrhyw newid i'n hymrwymiad i gynnig ysbyty cymunedol gwell a mwy datblygedig ar gyfer pobl Gogledd Sir Ddinbych.

Ddydd Iau, 28 Mawrth, caiff opsiynau diwygiedig eu cyflwyno gerbron cyfarfod llawn o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn Venue Cymru, Llandudno

Yn dilyn y cyfarfod hwn, rydym yn bwriadu rhannu'r arfarniad opsiynau llawn yr ydym wedi'i gynnal gyda Llywodraeth Cymru ac i ofyn am ei chaniatâd i lunio achos busnes llawn ar gyfer y cynllun a ffefrir gennym ni.

Mae prif elfennau'r opsiynau newydd, yn cynnwys:

 

  • Darparu gwasanaethau newydd, gan gynnwys gwelyau ac Uned Mân Anafiadau ac Anhwylderau (MIAU) mewn adeilad newydd
  • Mwy o weithio integredig rhwng timau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Presenoldeb cryfach o ran y Trydydd Sector ar y safle
  • Rhaglen o welliannau seilwaith i'r adeiladau presennol, a fydd yn fuddiol i staff ac ymwelwyr â'r safle a'i gynnal ymhell i'r dyfodol
  • Cadw adeiladau Glan Traen fel rhan o'r gwaith dylunio
  • Datrysiad addas i barcio ceir ar gyfer staff ac ymwelwyr ar y safle, gan weithio gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol

 

Dywedodd Dr Chris Stockport, cyfarwyddwr gweithredol trawsnewid a chynllunio strategol a'n huwch swyddog cyfrifol ar gyfer y datblygiad: "Gwnaed llawer o waith i gyrraedd y cam hwn ac rydw i wir yn credu ein bod ni wedi dod o hyd i'r datrysiadau mwyaf fforddiadwy, a fydd yn cynnig gofal sy'n well o lawer mewn amgylchedd sy'n addas at ei ddiben.

"Er mai dechrau'r broses yw hon, rydw i'n teimlo'n hyderus ein bod wedi datblygu syniad cyraeddadwy ar gyfer pobl Gogledd Sir Ddinbych a rhywbeth a gaiff ei werthfawrogi fel ased go iawn i'r gymuned.

"Gan weithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Sir Ddinbych ac yn y Trydydd Sector, rydym yn credu y bydd y cynigion hyn yn cyflwyno gofal gwell, yn agosach at y cartref ac yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau y mae Ysbyty Glan Clwyd yn ei wynebu."

Bydd yr ysbyty newydd, a fydd yn cael ei adeiladu wrth ochr yr Ysbyty Brenhinol Alexandra presennol, yn cynnwys cyfleusterau modern, addas i bwrpas ar gyfer gwasanaethau newydd a gwasanaethau cyfredol ar y safle.

Mae gwasanaethau newydd yn cynnwys:

  • Gwelyau cleifion mewnol
  • Gwasanaethau ar gyfer trin mân anafiadau ac anhwylderau
  • Ystafell therapi mewnwythiennol
  • Canolfan lles cymunedol a chaffi cymunedol

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymeradwyaeth i ni fynd ymlaen at gam nesaf y prosiect datblygu, a elwir yn Achos Busnes Llawn. Mae hyn yn cynnwys datblygu manylion ystafelloedd manwl, a gweithio drwy ganiatâd cynllunio ar gyfer y prosiect.

Mae gwaith ar y gweill yn awr i symud ymlaen ag Achos Busnes Llawn terfynol y prosiect, sy’n cynnwys cynllunio ar gyfer symud rhai gwasanaethau cyfredol dros dro yn ystod y cyfnod adeiladu.

Ein nod yw cyflwyno Achos Busnes Llawn ym mis Medi 2020, gyda'r bwriad o ddechrau adeiladu yn gynnar yn 2021.

Diweddaraf ar y Prosiect

Hydref 2020
Caiff cynlluniau terfynol i ailddatblygu gwasanaethau iechyd yn Y Rhyl eu cyflwyno i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y mis nesaf.

Caiff Achos Busnes Llawn y prosiect i ailwampio gwasanaethau a ddarperir ar gyfer trigolion yn Y Rhyl a Gogledd Sir Ddinbych ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd Iechyd ar 12 Tachwedd.

Gorffennaf 2020
Ymatebodd mwy na 200 o bobl i'n hapêl am adborth ar ail-ddatblygiad safle Ysbyty Brenhinol Alexandra.

Rydym wedi casglu'r holl adborth a gawsom drwy ein harolwg a'r sylwadau a wnaed ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rydym wedi datblygu dogfen cwestiynau cyffredinol sy'n crynhoi'r mwyafrif o'r cwestiynau yr ydym wedi eu cael. 

Roedd rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am feysydd parcio, ein cynlluniau ar gyfer yr adeiladau presennol ar y safle, a manylion ar ba wasanaethau a chyfleusterau fydd yn yr ysbyty newydd.

Gallwch ddod o hyd i'r cwestiynau mwyaf cyffredin yma.

Mai 2020
Bydd cynlluniau ar gyfer yr ysbyty newydd ac ailwampio Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cael eu cyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych ym Mehefin.

Cynhyrchwyd fideo hedfan drwodd i roi syniad o sut bydd yr ysbyty yn edrych wedi iddo gael ei gwblhau. 

Tachwedd 2019
Penodi Kier fel partner cadwyn gyflenwi ar gyfer Ysbyty Cymuned newydd Gogledd Sir Ddinbych

Gorffennaf
Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu'r Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych newydd yn Y Rhyl

Cylchlythyr 

Cylchlythyr un

Newyddlen 2