08.09.2026
Dros y diwrnodau a'r wythnosau sydd i ddod, bydd lefel y gwaith yn Ysbyty Brenhinol Alexandra, yn Y Rhyl yn cynyddu. Yn y lle cyntaf, bydd contractwyr yn gosod polion yn arwyneb y maes parcio, ger ffin y safle â Ffordd Russell.
Mae'r polion hyn yn angenrheidiol er mwyn helpu i gynnal y strwythur, sy'n adeiladwaith modiwlaidd, ac mae'n cynnwys peiriant mawr sy'n gwthio ffyn dur neu 'bolion' trwm i mewn i'r tir. Dylai defnyddio adeiladwaith modiwlaidd olygu llai o darfu yn ystod cyfnod y gwaith yn y pen draw, gan y caiff yr unedau sy'n rhan o'r adeiladau newydd eu hadeiladu oddi ar y safle.
Rydym yn rhagweld y bydd sŵn a tharfu tra bydd y gwaith gosod polion yn mynd rhagddo ac mae'n bosibl y byddwch yn teimlo rhywfaint o ddirgrynu ar adegau. Roeddem am sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn cael rhybudd teg cyn i'r cyfnod hwn ddechrau.
Bydd gwaith gosod polion yn mynd rhagddo yn ysbeidiol rhwng oriau 08:00 a 17:00. Rydym yn rhagweld y bydd y broses hon yn parhau'n ysbeidiol yn ystod yr wythnos, rhwng canol mis Medi a chanol mis Hydref. Y dyddiad dechrau arfaethedig yw 14 Medi.
Rydym yn ddiolchgar am eich amynedd tra bydd y gwaith hollbwysig hwn yn mynd rhagddo. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod ased cymunedol gwerthfawr yn nes at gael ei wireddu.
Gallwch dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd gyda'n datblygiad trwy fynd i: Datblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – mae ffurflen adborth ar-lein hefyd y gallwch gael mynediad ati ar yr un tudalen.
Fel arall, os bydd gennych unrhyw farn neu sylwadau ar y gwaith, gallwch anfon e-bost atom yma: BCU.RAHFeedback@wales.nhs.uk
27.07.2026
Mae gwaith paratoadol wedi dechrau ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra. Mae hyn yn cynnwys gosod a sefydlu cyfleusterau lles a gorffwys ar gyfer contractwyr sy'n gweithio ar y safle.
Mae darpariaeth barcio hygyrch ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas yn unig ar gael y tu allan i brif fynedfa'r ysbyty erbyn hyn.
Mae darpariaeth barcio oddi ar y safle ar gael i staff ym maes parcio gorlifo'r Pafiliwn. Bydd y rhai sy'n mynd i apwyntiadau cleifion allanol yn derbyn cyfarwyddiadau yn eu llythyrau apwyntiad yn ymwneud â sut i fanteisio ar barcio oddi ar y ffordd yn rhad ac am ddim am hyd eu hymweliad.
Gallwch dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau, gan gynnwys unrhyw fân darfu ar fynediad i ffyrdd o amgylch y safle, trwy fynd i'n tudalen ddiweddaru ar y gwaith datblygu, yma: Datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y gwaith, gallwch e-bostio ein blwch negeseuon pwrpasol yma: BCU.RAHFeedback@wales.nhs.uk
Fel arall, gallwch gael gafael ar ffurflen adborth isod:
23.02.2026
Bydd Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cael ei drawsnewid gan fuddsoddiad sylweddol o £33m gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau'r GIG i bobl y Rhyl.
Bydd y cyfleuster pwrpasol newydd yn cynnwys uned mân anafiadau a fydd yn gallu trin dros 20,000 o bobl y flwyddyn, gan leihau'r pwysau ar adran argyfwng Ysbyty Glan Clwyd gerllaw.
Bydd uned ail-alluogi gydag 14 o welyau barod-i-fynd-adref hefyd yn rhan o'r adeilad newydd. Bydd yn dod â thimau'r GIG a thimau gofal cymdeithasol at ei gilydd i ddarparu gofal i bobl sy'n dychwelyd adref ar ôl cael triniaeth feddygol a llawfeddygol yn yr ysbyty.
Bydd gwasanaethau radioleg yn cael eu hehangu yn y Rhyl, a bydd pedair ystafell ddeintyddol newydd yn gwella mynediad at ofal y GIG. Hefyd, bydd cynnydd mewn cyfleoedd hyfforddi i nyrsys deintyddol.
Mae'r adeilad newydd sy'n werth £33m, ac sydd i fod i gael ei gwblhau yn 2027, yn gam cyntaf mewn buddsoddiad o £60m yn Ysbyty Brenhinol Alexandra. Bydd achos busnes ar gyfer cam dau i ddatblygu a gwella'r ysbyty presennol yn cael ei gyflwyno ar wahân gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cadarnhaodd y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Iechyd y cyllid ar gyfer y datblygiad newydd, cyn y cyfarfod o Gabinet Llywodraeth Cymru yn Wrecsam yn nes ymlaen heddiw (23 Chwefror).
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Bydd y buddsoddiad hirdymor hwn mewn gwasanaethau iechyd yn y Rhyl yn lleihau'r amser y mae pobl yn aros yn yr adran argyfwng, yn cynyddu nifer y cleifion mewnol, ac yn galluogi pobl i ddychwelyd adref yn gynt ar ôl cael triniaeth yn yr ysbyty.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd yn y Gogledd, drwy foderneiddio cyfleusterau, a gwella effeithlonrwydd er mwyn i bobl allu cael eu trin yn nes at adref."
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
"Mae'n bleser mawr gen i gadarnhau'r cyllid hwn i ddatblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra. Mae'r Rhyl yn gyrchfan wyliau boblogaidd, sy'n golygu bod gwasanaethau'r GIG yn gweithio'n galed i ddiwallu anghenion trigolion lleol ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.
"Bydd y cyllid yn darparu uned newydd wych ar gyfer mân anafiadau ac anhwylderau, yn ogystal ag uned ail-alluogi newydd sy'n dod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd o dan yr un to. Bydd hynny'n helpu pobl i wella a theimlo'n hyderus eu bod yn cael y cymorth angenrheidiol i ddychwelyd adre'."
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dyfed Edwards a'r Prif Swyddog Gweithredol, Carol Shillabeer:
"Rydyn ni'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’n hachos busnes. Mae’n golygu y gallwn ni nawr symud ymlaen gyda'r gwaith paratoi a’r gwaith o adeiladu'r cyfleuster newydd pwysig hwn.
"Bydd y cyfleuster nid yn unig o fudd i'r gymuned yn y Rhyl a'r ardaloedd cyfagos, ond bydd hefyd yn darparu gwasanaethau sy’n lleihau rhai o'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd. Hoffem gydnabod cefnogaeth a phartneriaeth Cyngor Sir Ddinbych a phartneriaid eraill yn y trydydd sector, ynghyd â'r gefnogaeth aruthrol a ddangoswyd gan bobl leol yn ein hymgynghoriadau.
"Bydd yr adeilad newydd hwn yn ganolbwynt i'r gymuned, ac yn arwydd o'n hymrwymiad i ddod â gwasanaethau'n agosach at gartrefi pobl sy'n byw yn y Gogledd."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Jason McLellan:
"Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn nodi cam mawr ymlaen i iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych. Mae'r ganolfan iechyd a lles fodern hon yn cynnwys gwelyau ail-alluogi ac uned mân anafiadau, a fydd yn gwella'r ddarpariaeth gofal iechyd i bobl y Rhyl a'r ardaloedd cyfagos.
"Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a'n partneriaid am eu cydweithrediad wrth sicrhau bod y prosiect yn symud yn ei flaen. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i drigolion lleol, ac mae'n dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy i'n cymunedau."