Neidio i'r prif gynnwy

Pobl yng Ngogledd Cymru i elwa gyntaf o dechnoleg monitro o bell newydd

Technoleg Monitro o Bell yn mynd yn Fyw i Wella Gofal Cleifion yng Nghymru

Mae menter monitro o bell newydd a ddyluniwyd i wella gofal cleifion ar draws Cymru bellach wedi mynd yn fyw. Mae’r prosiect, a arweinir gan Raglen Ragoriaeth SBRI, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Llywodraeth Cymru, yn ffurfio rhan o Raglen Ragoriaeth SBRI gyda’r nod o gefnogi cleifion trwy dechnoleg iechyd digidol.

Mae’r system monitro o bell, sy'n cael ei phweru gan blatfform digidol Luscii, yn galluogi Clinigwyr WAST i olrhain data iechyd cleifion mewn amser real, gan ganiatáu ymyriadau cynharach a defnydd mwy effeithlon o adnoddau'r GIG.

 

Sut Mae’r System yn Gweithio

Mae’r platfform bellach yn weithredol ar draws Cymru ar gyfer cleifion cymwys. Gall Clinigwyr WAST fonitro arwyddion hanfodol a symptomau cleifion o bell, gan sicrhau ymatebion clinigol prydlon pan fo angen.

  • Cartrefi Gofal: Mae’r dechnoleg yn cael ei defnyddio mewn cartrefi gofal o fewn Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Chwm Taf Morgannwg. Er bod pecynnau penodol wedi’u defnyddio yn yr ardaloedd hyn, gall pob bwrdd iechyd a chartref gofal yng Nghymru gymryd rhan.

Dywedodd Dr Sree Andole, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Rydym yn falch o gynnal Canolfan Ragoriaeth SBRI ac i fod y Bwrdd Iechyd cyntaf i ymuno â’r treial hwn, gan ddangos ein hymrwymiad i arloesi a sicrhau’r canlyniadau gorau i’n cleifion.”

  • Cymorth Cymunedol: Mae Ymatebwyr Lles Cymunedol hefyd yn defnyddio’r dechnoleg i gefnogi cleifion yn eu hardaloedd lleol, gan ddarparu haen ychwanegol o ofal y tu allan i leoliadau gofal iechyd traddodiadol.

 

Manteision y Rhaglen

Mae adborth cychwynnol o’r treial yn awgrymu bod y system yn cael effaith gadarnhaol trwy roi gwybodaeth amser real i glinigwyr am iechyd cleifion. Mae hyn yn caniatáu iddynt ganfod newidiadau’n gynnar a gwneud penderfyniad cyflymach a mwy gwybodus am ofal.

Dywedodd aelod o staff o’r cartref gofal sy’n cymryd rhan yn y treial ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Fe allwn wneud ein rhan, fe allant (y clinigwyr) wneud eu rhan, ac mae’n golygu y gallwn ddod i benderfyniad gwell gyda’n gilydd.”

Mae monitro o bell hefyd yn ymddangos yn addawol mewn lleoliadau ambiwlans, lle gall mynediad at ddata iechyd byw gefnogi gwell gofal yn ystod ymatebion brys. Mae’n helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddynodi a yw claf yn gwella neu’n dod yn fwy sâl, gan arwain at benderfyniadau cyflymach a mwy cywir.

Mae canfyddiadau cynnar yn awgrymu bod y dechnoleg yn ei gwneud yn haws i bobl gael gofal yn eu cymunedau eu hunain. Gall hyn helpu i osgoi unrhyw ymweliadau ysbyty diangen ac mae’n cefnogi nod ehangach GIG Cymru o ddarparu mwy o ofal yn nes at adref.

Mewn cartrefi gofal, mae’r treial wedi helpu i adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng staff a thimau’r GIG. Mae’n rhoi sicrwydd i’r preswylwyr a’r gofalwyr trwy greu cysylltiad uniongyrchol â chymorth clinigol pan fydd ei angen fwyaf.

Camau Nesaf

Mae’r treial yn parhau i gasglu data ac adborth i asesu effaith monitro o bell ar ganlyniadau cleifion a gwasanaethau’r GIG. Bydd y mewnwelediadau o’r rhaglen hon yn helpu i lywio mentrau iechyd digidol ar draws Cymru yn y dyfodol.
 

Am fwy o wybodaeth am y treial hwn, cysylltwch â SBRI drwy e-bost .