07.02.2025
Rydym yn chwilio am bobl sydd â chlefyd Parkinson (PD) yng Ngogledd Cymru, sydd â symudedd araf, ar gyfer treial pwysig yn y DU.
Mae timau ffisiotherapi ac ymchwil niwrolegol y Bwrdd Iechyd yn chwilio am wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn treialu triniaeth bresennol a ddefnyddir gyda sglerosis ymledol a chleifion strôc, i asesu a allai helpu symudedd y rhai sydd â chlefyd Parkinson.
Gelwir y driniaeth yn ysgogiad trydanol swyddogaethol (FES), ac mae'n cynnwys gwisgo dyfais fach ar goes y defnyddiwr sy'n rhoi ysgogiad trydanol i nerfau. Mae hyn i bob pwrpas yn symud cyhyrau'r goes a fydd, gobeithio, yn gwella osgo’r defnyddiwr. Gall pobl sydd â chlefyd Parkinson gael trafferth cerdded oherwydd symudiadau araf (bradykinesia), rhewi a chwympiadau.
Nid yn unig mae'r ddyfais wedi gweithio i lawer o gleifion strôc ond mae wedi gweithio mewn astudiaeth fach o gleifion PD hefyd. Mae'r astudiaeth newydd, o'r enw STEPS II, yn ceisio cadarnhau a yw'n driniaeth ddefnyddiol ar gyfer bradykinesia, sut mae'n gweithio ac a oes ganddi unrhyw fuddion posibl eraill.
Datgelodd Julia Roberts, swyddog arbenigol ymchwil glinigol gyda'r Bwrdd Iechyd, fod y tîm yng Ngogledd Cymru yn chwilio am gleifion i gymryd rhan yn yr astudiaeth.
Dywedodd: "Ein nod o fewn yr adran ymchwil yn BIPBC yw sicrhau bod ymchwil heddiw yn gwneud gwahaniaeth i ofal yfory. Bob wythnos, mae cannoedd o bobl yng Nghymru yn helpu gydag ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ymchwil dda yn ein helpu i ddod o hyd i driniaethau newydd a gwella gwasanaethau.
"Ein targed ar gyfer BIPBC yw recriwtio 24 o gleifion i'r astudiaeth STEPS. Ar hyn o bryd mae'r tîm ymchwil a datblygu o fewn BIPBC yn gweithio gyda'r adran ffisiotherapi niwrolegol i gefnogi hyn."
Darllenwch fwy: Ymchwil a datblygiad - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae'r tîm yn chwilio am gleifion fel Nigel Blackwood, sy'n byw yn Llandudno. Aeth at ei Feddyg Teulu yn gyntaf oherwydd iddo sylwi ei fod yn cael rhywfaint o gryndod yn ei ddwylo ddiwedd 2019.
Sylwodd ei Feddyg Teulu sut yr oedd yn cerdded a chyfeiriodd ef at feddyg ymgynghorol, ond arweiniodd dechrau'r pandemig Covid-19 at oedi i apwyntiad Nigel. Yn y pen draw, mynychodd yn ddiweddarach yr haf hwnnw a threfnwyd sgan yr ymennydd iddo.
Wedi hynny cafodd ddiagnosis o PD ac fe wnaeth ymchwil Nigel ei hun ei argyhoeddi ei fod wedi cael sawl symptom ers tua 2018, pan ddechreuodd gerdded yn arafach a sylwi ar stiffrwydd yn ei aelodau.
Dywedodd: "I mi roedd teimlad, 'O, mae hynny'n esbonio beth sydd o'i le efo fi'. Dyna beth feddyliais i. Erbyn hyn dw i'n gwybod beth yw hynny, pam dw i wedi mynd yn stiff a pham na alla i blygu gymaint. Nid oedd fy ngydbwysedd yn union fel yr arferai fod - ac yna'r cryndod. Mae popeth yn gwneud synnwyr."
Dywedodd Nigel ei fod wedi colli rhywfaint o gryfder, sy'n golygu bod tasgau DIY y byddai fel arfer wedi'u gwneud bellach allan o’r cwestiwn.
Fodd bynnag, mae wedi cael llawer o gysur trwy grŵp cymorth sydd wedi'i leoli yng Nghyffordd Llandudno lle mae aelodau'n cyfnewid profiadau a gwybodaeth am ymdopi â'r clefyd niwroddirywiol.
Darllenwch fwy: Gweledigaeth newydd ar gyfer llawdriniaeth Orthopedig yng Ngogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Achosir PD drwy golli celloedd nerfol yn yr ymennydd sy'n secretu'r dopamin. Mae'r cemegyn yn gweithredu fel negesydd rhwng yr ymennydd a'r system nerfol, gan helpu i gydlynu symudiadau'r corff. Mae colli'r celloedd nerfol (neu'r niwronau) hyn yn achosi'r cryndod a'r stiffrwydd, yn ogystal â'r bradykinesia (symudiad araf). Gall PD hefyd effeithio ar lyncu a lleferydd.
Ar hyn o bryd nid oes iachâd ond gall triniaethau fel ffisiotherapi, meddyginiaeth ac mewn rhai achosion llawdriniaeth, helpu i leddfu symptomau a chynnal ansawdd bywyd da.
Y gobaith yw y bydd treial STEPS II yn dangos bod arf arall yn y frwydr i gynnal hyder ac annibyniaeth y rhai sydd â'r clefyd.
Cafodd Nigel wybod am yr astudiaeth mewn sgwrs â'i ffisiotherapydd a phenderfynodd ei fod am ymuno, er mwyn iddo o bosibl helpu eraill gyda'r cyflwr.
Dywedodd: "Fe wnaeth Leigh, fy ffisio yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, anfon e-bost ataf yn dweud y gallai fod gen i ddiddordeb yn y treial oherwydd bod gen i rai o'r symptomau cywir.
"Dw i wedi rhoi cynnig ar wahanol bethau, nad oeddent yn gweithio i mi mewn gwirionedd. Mae'n ymddangos i mi fod Parkinson's yn gyflwr sbectrwm. ‘Does dim un bwled arian sy'n dweud 'o, mae wedi’i wneud'. Mae'n rhaid i chi ddod o hyd i bethau i reoli rhai cyflyrau.
STEPS II - University of Plymouth
"Dw i’n gobeithio ei fod yn rhywbeth i helpu pobl i gerdded, neu fy helpu i gerdded ychydig yn well, oherwydd dydw i ddim yn cerdded llawer iawn. Mae'n dipyn o her.
"Mae'n rhaid i chi ganolbwyntio mwy. Nid yw bellach mor naturiol ag yr arferai fod. Yn y grŵp rydw i'n mynd iddo, mae hanner dwsin o bobl wedi cwympo yn ystod y chwe mis diwethaf.
"Efallai y bydd yn helpu i ddod o hyd i atebion i broblemau rhai pobl. Felly dyna’n wir pam gwnes i benderfynu cymryd rhan."
Mae'r treial yn dreial rheoledig ar hap, sy'n golygu y bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cael eu neilltuo ar hap i un o ddau grŵp. Bydd y grŵp cyntaf yn cael eu gofal arferol, gan weithredu fel grŵp rheoli ar gyfer yr astudiaeth.
Bydd yr ail grŵp yn derbyn y FES a'u gofal arferol am gyfnod o 18 wythnos. Bydd y treial cyfan yn para am 22 wythnos.
Os oes gennych glefyd Parkinson ac yn meddwl y byddech yn addas ar gyfer yr astudiaeth hon, neu os hoffech ragor o fanylion, cysylltwch â naill ai:
claire.watkins4@wales.nhs.uk, neu
Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn cael eu talu am eu hamser a byddant yn derbyn treuliau wrth gymryd rhan yn y treial.
Noder:
Dim ond wyth safle ar draws y DU sydd wedi'u dewis i gynnal y treial, drwy recriwtio cyfanswm carfan o 234 o bobl sydd â'r clefyd. Ar wahân i ni ein hunain, maent yn:
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)