Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich Dweud ar Ddyfodol Ysbyty Cymuned Tywyn

Rydym yn gwahodd trigolion lleol a grwpiau cymunedol i rannu eu barn ar ddyfodol Ysbyty Cymuned Tywyn fel rhan o adolygiad ffurfiol o'r gwasanaeth.

Ers Ebrill 2023, mae ward y cleifion mewnol yn Ysbyty Tywyn wedi bod ar gau dros dro oherwydd heriau parhaus yn ymwneud â staffio'r gwasanaeth yn ddiogel. Er bod cynnydd wedi'i wneud o ran ymdrechion recriwtio, mae problem o ran cymysgedd sgiliau'r gweithlu, cadw staff a gwydnwch yn parhau - gan effeithio ar ddarpariaeth ddiogel a chynaliadwy ar y ward ochr yn ochr â gwasanaethau hollbwysig eraill a ddarperir yn yr ysbyty.

Mewn ymateb, rydym wedi cydweithio â phartneriaid lleol i atgyfnerthu gwasanaethau amgen. Mae'r mentrau hyn yn cynnwys ehangu'r gwelyau sydd ar gael yn Ysbyty Dolgellau, lansio gwasanaeth cymunedol Tuag Adref, ailagor yr Uned Mân Anafiadau, a sefydlu Ystafell Driniaeth a Hwb Lles newydd yn Ysbyty Tywyn.

Derbyniwch ddiweddariadau'n uniongyrchol i'ch blwch negeseuon, yn ogystal â chyfleoedd yn y dyfodol i gymryd rhan mewn llunio dyfodol Ysbyty Cymuned Tywyn trwy danysgrifio i e-newyddlen y Bwrdd Iechyd yma.

Fel rhan o'r adolygiad parhaus, mae'r Bwrdd Iechyd yn ystyried nifer o opsiynau'n ymwneud â dyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Tywyn. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso'r posibilrwydd o ailagor ward y cleifion mewnol ac ystyried modelau gofal eraill sydd o ansawdd uchel ac sy'n gynaliadwy i ddiwallu anghenion y gymuned leol.

Dywedodd Paolo Tardivel, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Trawsnewid a Chynllunio Strategol:

“Mae Ysbyty Cymuned Tywyn ar hyn o bryd yn darparu gwasanaethau cymunedol yn yr ardal leol, ac rydym yn awyddus i ddeall sut y gall unrhyw wasanaethau yn y dyfodol ddiwallu anghenion a disgwyliadau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yma. Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb yn yr ysbyty i rannu eu barn, gan y bydd hyn yn ein helpu i gynllunio'r ffordd orau o symud ymlaen."

Rydym yn gwahodd pobl leol, staff, a grwpiau â diddordeb i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein, er mwyn bod yn sail i ddatblygu opsiynau ar gyfer y dyfodol, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Mae'r arolwg bellach ar agor, i gymryd rhan, ewch i: Llunio dyfodol Ysbyty Cymuned Tywyn

I'r rhai y mae'n well ganddynt ymgysylltu wyneb yn wyneb, mae'r Bwrdd Iechyd ar gael i fynychu cyfarfodydd lleol neu sesiynau grwpiau cymunedol sydd wedi'u sefydlu eisoes i glywed barn pobl yn uniongyrchol. Os ydych yn rhan grŵp a fyddai'n hoffi cynnal trafodaeth fer neu os byddech yn hoffi cael ymweliad gan dîm y Bwrdd Iechyd, cysylltwch â'r canlynol: BCU.GetInvolved@wales.nhs.uk