2 Gorffennaf
Mae dros 300 o gleifion bellach wedi cael llawdriniaethau llwyddiannus i’w dwylo mewn Ystafelloedd Mân Weithdrefnau Llawfeddygol pwrpasol ar draws y Bwrdd Iechyd.
Yn 2023, sefydlwyd dwy Ystafell Mân Weithdrefnau Llawfeddygol yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Llandudno i gynnal amrywiaeth o weithdrefnau, gan gynnwys rhyddhau twnnel y carpws, tynnu codennau meinwe meddal bychain, ac ymyriadau’r tendon. Cynlluniwyd yr ystafelloedd hyn er mwyn darparu gofal llawfeddygol o ansawdd uchel mewn lleoliad pwrpasol, sy'n canolbwyntio ar y claf - a hynny y tu allan i theatrau llawdriniaethol traddodiadol.
Ffrwyth ymdrech gydweithredol rhwng y Llawfeddygon Orthopedig Ymgynghorol, Miss Louisa Banks, Mr Preetham Kodumuri a Mr Edwin Jesudason oedd hyn. Roedd gan y tri weledigaeth glir ac ymrwymiad i archwilio ffyrdd arloesol o ddarparu llawdriniaethau diogel, effeithiol ac effeithlon ar gyfer y dwylo.
Oherwydd llwyddiant y fenter, ehangwyd y gwasanaeth i gynnwys ystafelloedd Mân Weithdrefnau Llawfeddygol yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd gan wella mynediad ymhellach i gleifion ledled y rhanbarth.
Dywedodd Mr Jesudason, sy'n gweithio yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Llandudno: “Mae ein llwybr Ystafelloedd Mân Weithdrefnau Llawfeddygol bellach yn rhan annatod o’n hymarfer clinigol yn Ysbyty Gwynedd ac mae'n parhau i fod yn hynod lwyddiannus. Rydym wedi torri costau, lleihau ein hôl troed carbon, cynyddu cynhyrchiant, ac - yn bwysicaf oll - wedi gwella profiad cyffredinol y claf.
“Nid oes angen derbyn cleifion mewnol bellach. Erbyn hyn maen nhw’n mynychu eu hapwyntiad clinig, yn derbyn eu triniaeth, ac fel arfer, ar eu ffordd adref o fewn yr awr. Mae hyn yn lleihau pryderon yn sylweddol ac yn creu profiad llawer mwy cadarnhaol.
“Roedd hwn yn gam arloesol cyffrous iawn ar y cychwyn, ond erbyn hyn, dyma’n ffordd arferol ni o weithio.”
Mae ehangu'r gwasanaeth Mân Weithdrefnau Llawfeddygol yn gam mawr ymlaen wrth ddarparu gofal modern, sy'n canolbwyntio ar y claf - gan wneud triniaethau llawfeddygol ar gyfer y dwylo yn fwy hygyrch, effeithlon a chynaliadwy ar draws y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd Mr Kodumuri, o Ysbyty Maelor Wrecsam: "Ers ei sefydlu yn 2021, rydym wedi cael gweledigaeth a llwyddo i gyflwyno model gofal blaengar ar gyfer llawdriniaethau’r dwylo mewn Ystafelloedd Mân Weithdrefnau Llawfeddygol pwrpasol. Dechreuodd y fenter hon, sydd wedi derbyn cefnogaeth fawr iawn gan ein timau clinigol ymroddedig, fel cynllun peilot; ac erbyn hyn mae wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.
“Rydym yn hynod falch fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar flaen y gad o ran gofal rhagorol yng Nghymru a'r DU hefyd. Mae'r ymateb gan gleifion wedi bod yn hynod gadarnhaol - diolch i'r cyfleustra, lleihau’r amseroedd aros, a gwell profiad yn gyffredinol. Mae'r dull hwn wedi ein galluogi nid yn unig i leihau rhestrau aros llawfeddygol, ond hefyd wedi dangos sut y gall arloesedd a chydweithio drawsnewid gofal y GIG yn sylfaenol, a hynny er gwell.”
Ychwanegodd Miss Banks, o Ysbyty Glan Clwyd: "Yn Ysbyty Glan Clwyd, rydym wedi bod yn anelu at gael ystafell Mân Weithdrefnau Llawfeddygol ers amser maith, felly mae'n llwyddiant arbennig i bawb sy'n gysylltiedig, eu bod wedi rhoi hwn ar waith.
"Ein nod yw darparu profiad cleifion sy'n creu llai o bryder, sy’n fwy effeithlon, tra’n parhau i gynnal safonau llawfeddygol uchel; ynghyd â llawdriniaethau’r dwylo sy'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd. Rydym yn falch o allu cynnig y gwasanaeth hwn ar draws y Bwrdd Iechyd i gyd."